Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i gael cymorth a chyngor ar astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Digwyddiadau i ddod
Ffair Postgrad LIVE yng Nghaerdydd
Ydych chi’n ystyried astudio ar gyfer gradd meistr neu PhD? Ffair Postgrad LIVE yng Nghaerdydd yw eich cyfle i gael gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael i ôl-raddedigion yn nifer o’r prifysgolion gorau, gan gynnwys sut i fanteisio arnyn nhw. Dewch i drafod eich opsiynau, cael cyngor ar gyllid a chael gwybod sut beth yw astudio ar gyfer graddau meistr a PhD mewn gwirionedd.
Ymunwch â ni ddydd Mercher 19 Chwefror 2025. Ewch i dudalen y digwyddiad i gael rhagor o wybodaeth a chofrestru i ddod.
Pam astudio gyda ni?
Dewch i wybod sut beth yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig sy'n astudio ac yn ymchwilio ar gampws Parc Cathays, yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru.
Ffyrdd eraill o gael gwybod sut beth yw campysau’r Brifysgol
Dyma rai o'r cyfleoedd eraill i ymweld â ni a chael syniad o sut brofiad fydd astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cysylltu â ni
Eich cydymaith hanfodol wrth ymweld â'n campws ar gyfer Diwrnodau Agored neu daith hunan-dywys.