Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau ac ymweliadau rhyngwladol

Rydyn ni’n argymell eich bod yn ymweld â'n campws a'n dinas neu’n cwrdd â ni yn un o'n digwyddiadau ledled y byd i gael gwybod rhagor am astudio gyda ni.

Digwyddiadau fesul gwlad

Byddwn ni’n teithio'n rheolaidd ledled y byd i gwrdd â myfyrwyr. Cyfle gwych yw'r digwyddiadau hyn i gwrdd â ni i ddeall rhagor am ein cyrsiau, y cyfleoedd ariannu, y broses ymgeisio a bywyd yng Nghaerdydd.

Mae rhai digwyddiadau yn cael eu cynnal gan sefydliadau sy’n bartner, a bydd y Brifysgol yn cynnal rhai eraill. Mae gan lawer o'n digwyddiadau ffocws penodol neu’n addas ar gyfer myfyrwyr o wlad benodol. Mae rhagor o wybodaeth yn y disgrifiad o'r digwyddiad.

Bydden ni wrth ein boddau’n cwrdd â chi mewn digwyddiad yn y dyfodol. Bydd manylion y digwyddiad yn cael eu hychwanegu unwaith iddyn nhw gael eu cadarnhau, felly dewch yn ôl os na allwch chi weld digwyddiadau ar y gweill yn eich gwlad.

Nid oes gennym unrhyw ddigwyddiadau wedi'u trefnu ar hyn o bryd. Cysylltwch â'r Swyddfa Rhyngwladol am gyngor ynghylch gwneud cais i Brifysgol Caerdydd neu unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych.

Ymweld â’r campws

Ymweliadau dan arweiniad

Os na fyddwch chi’n gallu mynd i Ddiwrnod Agored ond yn ymweld â Chaerdydd, bydd ein cynrychiolwyr yn hapus i gwrdd â chi a'ch tywys o amgylch y campws i gael ymweliad cyffredinol. Gallwn ni hefyd geisio trefnu cyfarfod gyda'r Ysgol Academaidd rydych chi’n bwriadu astudio ynddi.

Gallwch chi drefnu teithiau o amgylch y campws drwy gysylltu â'r Swyddfa Ryngwladol.

Taith hunandywys

Os yw'n well gennych chi gerdded o amgylch y campws yn eich amser eich hun, bydd ein taith hunandywysedig yn mynd â chi o amgylch y campws, ac mae'n cynnwys ffeithiau diddorol am ein cyfleusterau. Dylai’r daith bara tua awr.

Campws Parc Cathays: taith hunandywys

Defnyddiwch ein taith hunandywys i weld Prifysgol Caerdydd ar droed.

Digwyddiadau ar-lein

Ymunwch â'n gweminarau am ddim i gael atebion i'ch cwestiynau a chael gwybod am astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae ein gweminarau yn ymdrin ag ystod o bynciau, gan gynnwys deall rhaglenni penodol yn well, sut i wneud cais a sut beth yw bywyd myfyriwr.

Students on their laptops

Gweminarau israddedig

Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am y sesiynau ar-alw am fywyd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gweminarau ôl-raddedig

Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am sesiynau byw ar astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Taith rithwir

Ewch ar daith ar-lein o amgylch ein campysau, llety’r myfyrwyr a dinas Caerdydd drwy gymryd rhan yn ein taith rithwir.

Mae ein taith rithwir yn ymweld â’r ddau gampws, y ddinas ei hun a neuaddau preswyl penodol i fyfyrwyr. Drwy gyfrwng fideos a lluniau panoramig 360 gradd, cewch flas ar sut brofiad fydd astudio a byw ym mhrifddinas fyrlymus Cymru.

Manylion cyswllt

Cysylltwch â'r Swyddfa Ryngwladol i drefnu taith o amgylch y campws.

Y Swyddfa Ryngwladol