Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnodau agored ac ymweliadau

Dewiswch sut rydych chi am brofi ein campysau a dod i adnabod eich dinas newydd. Rydyn ni'n cynnig digwyddiadau wyneb yn wyneb, gweminarau a theithiau rhithwir fel y gallwch chi ddod i adnabod Prifysgol Caerdydd mewn ffordd sy'n gweithio i chi.

Diwrnodau Agored Israddedig

Dewch i weld ein cyfleusterau, cwrdd â'n staff a'n myfyrwyr, a chael teimlad go iawn o astudio a byw yng Nghaerdydd.

Diwrnodau Agored Ôl-raddedig

Mynnwch gyngor ymarferol am astudiaethau pellach a dysgu os mai Prifysgol Caerdydd yw'r lle iawn i chi.

Gwyliwch holl gyffro ein Diwrnod Agored

Mwynhewch uchafbwyntiau 2024 a gweld yr hyn sy'n digwydd ar Ddiwrnod Agored.

Digwyddiadau ac ymweliadau rhyngwladol

Rydyn ni'n mynychu digwyddiadau yn rheolaidd ar gyfer darpar fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, wyneb yn wyneb ac yn rhithwir.

Ffeiriau a chynadleddau

Ymunwch â ni mewn ysgolion a cholegau ledled y wlad, yn ogystal ag mewn ffeiriau a chynadleddau Addysg Uwch.

Gweminarau

Gweminarau israddedig

Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am y sesiynau ar-alw am fywyd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gweminarau ôl-raddedig

Ymunwch â'n staff a'n myfyrwyr am sesiynau byw ar astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wrth wneud cais am brifysgolion, es i amryw ddiwrnodau agored ledled y wlad, ond doedd nunlle wedi rhagori fel Caerdydd. Mae'r cysylltiadau trafnidiaeth mor dda ac mae adeiladau’r campws yn hyfryd, gyda phopeth sydd ei angen arnoch chi mewn un lle.

-
ZoeGwyddorau Biofeddygol (BSc)