Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau byd-eang

Mae cynrychiolwyr y brifysgol yn mynd i ddigwyddiadau'n rheolaidd ar gyfer darpar fyfyrwyr o bob cwr o'r byd, a bydd y rhain yn digwydd wyneb yn wyneb ac yn rhithwir.

Diwrnodau agored

Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sawl gwaith bob blwyddyn.

Os nad ydych yn gallu mynychu Diwrnod Agored ond yn ymweld â Chaerdydd, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Ryngwladol i drefnu taith campws, neu lawrlwythwch taith hunan-dywys ac archwilio'r campws felly.

Digwyddiadau sy'n benodol i wledydd

Rhestrir isod y gwledydd lle mae gennym ddigwyddiadau sydd ar y gweill. Mae gan bob un o'n digwyddiadau ffocws gwahanol ac maen nhw wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr o wledydd penodol. Cynhelir rhai digwyddiadau gan asiantau neu gynghorwyr tra y bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal gan staff y brifysgol. Gwiriwch ddisgrifiad y digwyddiad cyn cofrestru.

Os oes gennych chi gwestiynau am ein hymweliadau, cysylltwch â ni.

Nid oes gennym unrhyw ddigwyddiadau wedi'u trefnu ar hyn o bryd. Cysylltwch â'r Swyddfa Rhyngwladol am gyngor ynghylch gwneud cais i Brifysgol Caerdydd neu unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych.

Open days

We host Open Days for both undergraduate and postgradaute students several times each year.

If you are not able to attend an Open Day, find out more about visiting Cardiff University as an international student.