Ewch i’r prif gynnwys

Tŷ Pont Haearn

  • Pris: O £161 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £7084)
  • Ar gael ar gyfer: israddedigion
  • Myfyrwyr: 643 rooms (306 ensuite rooms reserved for Cardiff University students)

Cyfleusterau allweddol

WiFi WiFi
Laundry Ystafell golchi dillad
icon-catering Hunanarlwyo
Ensuite En-suite

Mae'r neuadd breswyl breifat hon yn eiddo i Unite ac yn cael ei rheoli gan Unite. Mae gan Brifysgol Caerdydd drefniant atgyfeirio ar waith ar gyfer sesiwn 2024/25, fel y gall myfyrwyr gynnwys y neuadd hon fel un o'u dewisiadau wrth geisio llety.

Sylwch: mae'r trefniant hwn yn golygu, os dyfernir ystafell i chi yn y neuadd breswyl hon. Bydd eich contract yn uniongyrchol gydag Unite a bydd yr holl wasanaethau llety/prosesau yn cael eu darparu gan Unite, nid y Brifysgol.

Mae Tŷ Pont Haearn wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, o fewn pellter cerdded i Gampws Parc Cathays ac yn arbennig o gyfleus i fyfyrwyr sy’n astudio yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Mae ganddo ei ardal gymunedol ei hun ar y safle gyda pharth Playstation ac ardaloedd astudio, felly lle gwych i gymdeithasu ac ymlacio.

Sylwer:

Yn ôl Unite, mae'n ofynnol i bob preswylydd gael gwarantwr. Os nad oes gan breswylwyr warantwr, yna mae angen talu'r rhent yn llawn cyn, neu ar ôl cyrraedd.

Gofodau byw

  • Fflatiau ar gyfer 3 i 6 o fyfyrwyr

Parcio

Dim parcio o fewn tair milltir, oni bai eich bod yn defnyddio lle parcio cyhoeddus dynodedig

Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety.


Y lleoliad

Tŷ Pont Haearn, Caerdydd, CF10 4FS

View location on mapbox

Pellter i gampysau

Prif adeilad Campws Parc y Mynydd Bychan (ysbyty)
Pellter 1 milltir 2.5 milltir
Cerdded 20 munud 50 munud
Beicio 10 munud 25 munud
Bws n/a Bws Caerdydd - cynllunio eich tait

Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.

Agosaf

Siop Canol y ddinas
Archfarchnad E. Tyndall Street (Lidl)
Bwyd cyflym Canol y ddinas
Bar Canol y ddinas
Cyfleusterau chwaraeon Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol Prifysgol Caerdydd
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol
Siediau beic Ar y safle

Darganfod pa lyfrgelloedd, cyfleusterau ac Ysgolion Academaidd sydd gerllaw'r llety.

Lawrlwytho’r canllaw lleoliadau

Costau

Mis Medi 2024 i fis Gorffennaf 2024 (44 wythnos)

MathCyfanswmRhandaliadau

Ystafell Ensuite Ystod Premiwm 1

£7084.00 

Ystafell Ensuite Ystod Premiwm 2

£7348.00 
Stiwdio Clasurol£8316.00 
Stiwdio Ystod Premiwn 1£8756.00 

Sylwer: bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch o bosibl yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau neu leoliadau gwaith.

Taliad ymlaen llaw

Mae taliad ymlaen llaw yn daladwy i Unite cyn cyrraedd. Bydd swm y taliad ymlaen llaw yn cael ei ddidynnu o gyfanswm y rhent.

Gwarantwr

Yn ôl Unite, mae'n ofynnol i bob preswylydd gael gwarantwr. Os nad oes gan breswylwyr warantwr, yna mae angen talu'r rhent yn llawn cyn, neu ar ôl cyrraedd yn Tŷ Pont Haearn.

Cysylltiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am lety, cysylltwch:

Swyddfa Preswylfeydd

Email Ebost:
residences@cardiff.ac.uk
Telephone Ffôn:
+44 (0)29 2087 4849

Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.