Neuadd Senghennydd
- Pris: O £179.06 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £7162.40)
- Ar gael ar gyfer: israddedigion
- Myfyrwyr: 103
Cyfleusterau allweddol
Mae Neuadd Senghennydd yn breswylfa sy’n arlwyo’n rhannol ac wedi ei lleoli o fewn pellter i gampws Parc Cathays ac yn gyfleus i fyfyrwyr sy’n astudio Mathemateg, Ffiseg a Seryddiaeth, Peirianneg neu Gyfrifiadureg.
Mae'r llety'n cynnwys pryd poeth o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio yn ystod gwyliau/gwyliau banc) yn un o fwytai'r Brifysgol. Fel arfer gweinir prydau rhwng 13:00 a 18:30 a gallwch chi ddewis naill ai Bwyty Adeilad Julian Hodge neu Fwyty Trevithick yn Adeiladau’r Frenhines.
Gofodau byw
Flatiau â chegin a rennir ar gyfer 3-11 o fyfyrwyr
Parcio
Dim parcio o fewn tair milltir, oni bai eich bod yn defnyddio lle parcio cyhoeddus dynodedig
Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer
- Cyplau
Pellter i gampysau
Prif adeilad | Campws Parc y Mynydd Bychan (ysbyty) | |
---|---|---|
Pellter | 0.5 milltir | 1.75 milltir |
Cerdded | 10 munud | 35 munud |
Beicio | 5 munud | 17 munud |
Bws | n/a | Bws Caerdydd - cynllunio eich tait |
Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.
Agosaf
Siop | Heol Salisbury |
---|---|
Archfarchnad | Canol y ddinas (Sainsburys) |
Bwyd cyflym | Canol y ddinas |
Bar | Undeb y Myfyrwyr |
Cyfleusterau chwaraeon | Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol Prifysgol Caerdydd
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol |
Ystafell golchi dillad | Llys Senghennydd (talu wrth fynd) |
Darganfod pa lyfrgelloedd, cyfleusterau ac Ysgolion Academaidd sydd gerllaw'r llety.
Lawrlwytho’r canllaw lleoliadauCostau
Bydd y prisiau ar gyfer 2026/2027 ar gael o fis Mai 2026 ymlaen.
Mis Medi 2025 i fis Mehefin 2026 (40 wythnos)
Math | Cyfanswm | Rhandaliadau |
---|---|---|
Ensuite arlwyo’n rhannol | £7162.40 | 2 X £2387.47 ac 1 X £2387.46 |
Llety un ystafell hunan arlwyo | £7327.60 | 2 X £2442.53 ac 1 X £2442.54 |
Sylwch: bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch o bosibl yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau neu leoliadau gwaith.
Cysylltiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am lety, cysylltwch:
Swyddfa Preswylfeydd
- Ebost:
- residences@cardiff.ac.uk
- Ffôn:
- +44 (0)29 2087 4849

Gwnes i fwynhau'r agweddau cymdeithasol o aros yn Neuadd Senghennydd. Mae’n le gwych i wneud ffrindiau oes ac yn ffordd o bontio rhwng byw gartref a byw ar ben eich hun. Roedd hi’n help bod pawb arall yn yr un sefyllfa, ac o ganlyniad mor gyfeillgar ac yn awyddus i wneud ffrindiau newydd.
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.