Neuadd Gordon
- Pris: O £156.31 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £6252.40)
- Ar gael ar gyfer: israddedigion
- Myfyrwyr: 91
Cyfleusterau allweddol
Neuadd breswyl gydag arlwyo rhannol yw Neuadd Gordon. Mae’n neuadd mewn ardal breswyl ac mae’n arbennig o gyfleus i’r rhai sy’n astudio Mathemateg, Ffiseg a Seryddiaeth, Peirianneg neu Gyfrifiadureg.
Mae'r llety'n cynnwys pryd poeth o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio yn ystod gwyliau/gwyliau banc) yn un o fwytai'r Brifysgol. Fel arfer gweinir prydau rhwng 13:00 a 18:30 a gallwch chi ddewis naill ai Bwyty Adeilad Julian Hodge neu Fwyty Trevithick yn Adeiladau’r Frenhines.
Gofodau byw
Lloriau â chegin a rennir ar gyfer 11-27 o fyfyrwyr
Parcio
Dim parcio o fewn tair milltir, oni bai eich bod yn defnyddio lle parcio cyhoeddus dynodedig
Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer
- Myfyrwyr anabl
Gofodau byw
Lloriau â chegin a rennir ar gyfer 11-27 o fyfyrwyr
Parcio
Dim parcio o fewn tair milltir, oni bai eich bod yn defnyddio lle parcio cyhoeddus dynodedig
Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer
- Myfyrwyr anabl
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.
Pellter i gampysau
Prif adeilad | Campws Parc y Mynydd Bychan (ysbyty) | |
---|---|---|
Pellter | 0.5 milltir | 2 milltir |
Cerdded | 10 munud | 40 munud |
Beicio | 5 munud | 20 munud |
Bws | n/a | Bws Caerdydd - cynllunio eich tait |
Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.
Agosaf
Siop | Heol Salisbury |
---|---|
Archfarchnad | Canol y Ddinas (Sainsburys) |
Bwyd cyflym | Canol y Ddinas |
Bar | Undeb y Myfyrwyr |
Cyfleusterau chwaraeon | Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol Prifysgol Caerdydd
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol |
Costau
Bydd y prisiau ar gyfer 2026/2027 ar gael o fis Mai 2026 ymlaen.
Mis Medi 2025 i fis Mehefin 2026 (40 wythnos)
Math | Cyfanswm | Rhandaliadau |
---|---|---|
Arlwyo rhannol, rhannu ystafell ymolchi | £6252.40 | 2 X £2084.13 ac 1 X £2084.14 |
Arlwyo rhannol, en-suite | £7162.40 | 2 X £2387.47 ac 1 X £2387.46 |
Sylwch: bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch o bosibl yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau neu leoliadau gwaith.
Cysylltiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am lety, cysylltwch:
Swyddfa Preswylfeydd
- Ebost:
- residences@cardiff.ac.uk
- Ffôn:
- +44 (0)29 2087 4849

Yn Neuadd Gordon, rydych ond yn 5 munud o daith gerdded i ganol y ddinas a 10 munud i ffwrdd o Undeb y Myfyrwyr felly mae popeth ergyd carreg o’r neuadd! Roedd pawb yn siarad â phawb arall ac roedd bwyta cinio gyda’n gilydd yn golygu ei fod yn hawdd iawn cyfarfod pobl newydd. Gwnes i rai o’m ffrindiau gorau yn Neuadd Gordon.
Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.