Ewch i’r prif gynnwys

Adam Street Gardens

  • Pris: O £164.73 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £7248.12)
  • Ar gael ar gyfer: israddedigion
  • Myfyrwyr: 221

Cyfleusterau allweddol

WiFi WiFi
Laundry Ystafell golchi dillad
icon-catering Hunanarlwyo
Ensuite En-suite

Mae'r neuadd breswyl breifat hon yn eiddo i Unite ac yn cael ei rheoli gan Unite. Mae gan Brifysgol Caerdydd drefniant atgyfeirio ar waith ar gyfer sesiwn 2024/25, fel y gall myfyrwyr gynnwys y neuadd hon fel un o'u dewisiadau wrth geisio llety.

Mae'r trefniant hwn yn golygu, os dyfernir ystafell i chi yn y neuadd breswyl hon. Bydd eich contract yn uniongyrchol gydag Unite a bydd yr holl wasanaethau llety/prosesau yn cael eu darparu gan Unite, nid y brifysgol.

Mae Adam Street Gardens yn cynnig cartref i fyfyrwyr yng nghanol y ddinas gydag ardal gymunedol ar y safle a champfa gyda chyfarpar da yn rhad ac am ddim. Mae'r neuadd hon yn arbennig o gyfleus i fyfyrwyr sy'n astudio Peirianneg, Ffiseg a Seryddiaeth neu Gyfrifiadureg, ond mae hefyd o fewn pellter cerdded i bopeth sydd ar Gampws Cathays.

Yn ôl Unite, mae'n ofynnol i bob preswylydd gael gwarantwr. Os nad oes gan breswylwyr warantwr, yna mae angen talu'r rhent yn llawn cyn, neu ar ôl cyrraedd.

Yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25, bydd Unite yn gwneud gwaith ar ffasâd allanol yr eiddo hwn rhwng 09:00 a 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddwch yn clywed rhywfaint o sŵn isel yn ystod oriau gwaith, ac yn gweld sgaffaldiau o amgylch y safle. Bydd Unite yn rhoi gwybod am y gwaith hwn cyn iddynt ddechrau.

Gofodau byw

  • Fflatiau gyda cegin a rennir

Parcio

Dim parcio o fewn tair milltir, oni bai eich bod yn defnyddio lle parcio cyhoeddus dynodedig

Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety.


Y lleoliad

Adam Street Gardens, Caerdydd, CF24 2FL

View location on mapbox

Pellter i gampysau

Prif adeilad Campws Parc y Mynydd Bychan (ysbyty)
Pellter 1 milltir 2.5 milltir
Cerdded 20 munud 50 munud
Beicio 10 munud 25 munud
Bws n/a Bws Caerdydd - cynllunio eich tait

Nodwch: darparwyd yr amseroedd uchod fel canllaw yn unig.

Agosaf

Siop Howard Gardens Campus (Tesco Express)
Archfarchnad E. Tyndall Street (Lidl)
Bwyd cyflym Canol y ddinas
Bar Canol y ddinas
Cyfleusterau chwaraeon Campfa ar y safle
Gweld holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol
Siediau beic Ar y safle

Darganfod pa lyfrgelloedd, cyfleusterau ac Ysgolion Academaidd sydd gerllaw'r llety.

Lawrlwytho’r canllaw lleoliadau

Costau

Mis Medi 2024 i fis Gorffennaf 2025 (44 wythnos)

MathCyfanswmRhandaliadau
Ystafell Ensuite Ystod Premiwm 2£7248.12 

Sylwer: bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch o bosibl yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau neu leoliadau gwaith.

Taliad ymlaen llaw

Mae taliad ymlaen llaw yn daladwy i Unite cyn cyrraedd. Bydd swm y taliad ymlaen llaw yn cael ei ddidynnu o gyfanswm y rhent.

Gwarantwr

Yn ôl Unite, mae'n ofynnol i bob preswylydd gael gwarantwr. Os nad oes gan breswylwyr warantwr, yna mae angen talu'r rhent yn llawn cyn, neu ar ôl cyrraedd yn Adam Street Gardens.

Cysylltiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiwn am lety, cysylltwch:

Swyddfa Preswylfeydd

Email Ebost:
residences@cardiff.ac.uk
Telephone Ffôn:
+44 (0)29 2087 4849

Dysgwch sut i wneud cais ac a allech gael gwarant o lety yn y Brifysgol.