Neuadd Aberdâr
- Pris: O £137.69 yr wythnos (Cyfanswm y gost yn cychwyn o £5507.60)
- Ar gael ar gyfer: israddedigion
- Myfyrwyr: 132
Cyfleusterau allweddol
Adeiladwyd Neuadd Aberdâr ym 1893 ac mae llawer o agweddau cyfnod diddorol i’w gweld o hyd. Mae'n gyfagos i gampws Parc Cathays ac mae'n cynnig llety ag arlwyaeth rannol neu hunan-arlwyaeth.
Mae llety arlwyo rhannol yn cynnwys pryd poeth o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio yn ystod gwyliau/gwyliau banc) yn un o fwytai’r Brifysgol. Fel arfer gweinir prydau rhwng 13:00 a 18:30 a gallwch chi ddewis naill ai Bwyty Adeilad Julian Hodge neu Fwyty Trevithick yn Adeiladau’r Frenhines.
Nodwch: er bod Neuadd Aberdâr yn neuadd breswyl i fenywod yn unig, caiff ymwelwyr sy’n ddynion ymweld ac aros dros nos. Mae gan Neuadd Aberdâr hefyd bersonél sy'n ddynion, sy'n gweithio yn y neuadd yn ddyddiol.
Gofodau byw
Lloriau â chegin a rennir ar gyfer 9-28 o fyfyrwyr
Parcio
Dim parcio o fewn tair milltir, oni bai eich bod yn defnyddio lle parcio cyhoeddus dynodedig
Ystafelloedd sy'n addas ar gyfer
- Myfyrwyr anabl