Gwneud cais am ystafell yn ein llety i fyfyrwyr israddedig a myfyrwyr cyfnewid
Gallwn warantu ystafell i chi yn llety’r gyda myfyrwyr israddedig eraill yn eu blwyddyn gyntaf, cyn belled â bod terfynau amser penodol yn cael eu bodloni.
Gallwch wneud cais am ystafell yn llety'r ar ôl i chi dderbyn cynnig i astudio yma. Gallwch wneud hynny drwy system ar-lein Prifysgol Caerdydd (SIMS). Bydd angen eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair arnoch. Cafodd y rhain eu hanfon atoch drwy ebost yn fuan wedi i ni gael eich cais.
Sut i wneud cais
Mae amrywiaeth o breswylfeydd ar gael i ddewis rhyngddynt, gan ddibynnu ar eich ffordd o fyw a'ch cyllideb. Wrth benderfynu ble rydych am fyw, gall ystyried y ffactorau canlynol fod yn ddefnyddiol:
- hunanarlwyol/prydau wedi'u darparu
- ystafell ymolchi ensuite
- rhent
- pa mor agos yw’r llety i'ch adeilad academaidd, canol y ddinas neu eich dewis o gyfleusterau cymdeithasol neu chwaraeon
Gallwch wneud cais am ystafell yn llety'r ar ôl i chi dderbyn cynnig i astudio yma.
Gallwch wneud hynny drwy system ar-lein Prifysgol Caerdydd (SIMS). Bydd angen eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair arnoch. Cafodd y rhain eu hanfon atoch drwy ebost yn fuan wedi i ni gael eich cais.
Ymgeiswyr cadarn a chyfnewid ar gyfer y sesiwn llawn - bydd ceisiadau’n agor ym mis Chwefror 2025.
I wneud yn siŵr eich bod yn cael ystafell sengl yn llety'r, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyflwyno eich cais ar-lein erbyn 25 Gorffennaf 2025
- cael/derbyn cynnig diamod i astudio yma erbyn dydd Gwener, 29 Awst 2025
Ymgeiswyr am le wrth gefn - ceisiadau’n agor ddydd Iau 14 Awst 2025.
I wneud yn siŵr eich bod yn cael ystafell sengl mewn llety, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cyflwyno'ch cais ar-lein erbyn dydd Mercher 20 Awst 2025
Wrth wneud cais ar-lein, byddwch yn gallu rhoi’r llety sydd ar gael yn nhrefn yr hyn sydd orau gennych. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn cael ystafell yn un o’r preswylfeydd sydd orau gennych. Os na fydd hynny'n bosibl, byddwn yn cynnig ystafell i chi mewn preswylfa arall, gan ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael.
- Sylwer: Os bydd eich cais ar-lein yn dod i law ar ôl y dyddiad cau, neu os byddwch yn cael/derbyn cynnig diamod i astudio yma ar ôl dydd Gwener, 29 Awst 2025, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau ystafell ar eich cyfer, ar sail y cyntaf i'r felin.
O ganlyniad i'r embargo ar gyfer canlyniadau'r Alban a Safon Uwch, ni fydd ymgeiswyr UCAS yn gallu gwneud cais ar-lein ar yr adegau canlynol:
- 18:00 ddydd Llun, 28 Gorffennaf hyd at 09:00 ddydd Mawrth, 5 Awst
- 17:00 ddydd Iau, 7 Awst hyd at 08:00 ddydd Iau, 14 Awst
Trefn prosesu ceisiadau
Caiff ceisiadau eu prosesu mewn trefn gronolegol, yn unol â dau ddyddiad:
- y cyntaf yw'r dyddiad y cawn gadarnhad gan y Tîm Derbyn Myfyrwyr eich bod wedi derbyn y cynnig diamod i astudio
- yr ail yw dyddiad y daw eich cais i law
Byddwn yn ceisio cynnig ystafell i chi yn un o'r preswylfeydd sy’n well gennych.
Os na fydd ystafell ar gael yn eich dewis cyntaf o breswylfa, byddwn yn ystyried eich holl ddewisiadau eraill yn ôl trefn blaenoriaeth, hyd nes y byddwn yn gallu dod o hyd i ystafell i chi.
Gan fod y preswylfeydd yn amrywio o ran nifer y myfyrwyr sy'n gallu byw ynddynt, a bod rhai yn fwy poblogaidd nag eraill, ni ellir gwarantu ystafell i chi yn y preswylfeydd sy’n well gennych. Os nad yw'r breswylfa sydd orau gennych ar gael mwyach, byddwn yn cynnig ystafell i chi mewn preswylfa arall sy’n addas yn ein barn ni.
Ein polisi yw lletya myfyrwyr mewn fflatiau cymysg o ran rhyw a chenedligrwydd/hil lle bynnag y bo modd, gan gynnwys ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod. Os byddai'n well gennych fyw mewn fflat un-rhyw, rhowch wybod i ni yn wrth wneud eich cais ar-lein.
Os byddwch chi’n byw mewn llety Unite, bydd eich contract gyda nhw. Byddwch chi’n derbyn rhagor o wybodaeth gan Unite yn uniongyrchol ynghylch sut i dderbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi.
Ddiwedd mis Gorffennaf/Awst/Medi, byddwch yn cael ebost yn rhoi gwybod i chi fod eich cais wedi’i brosesu a bod angen i chi fwrw golwg ar yr ystafell a gynigiwyd i chi a’i derbyn.
Mae’n rhaid i chi dderbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi ymhen pum diwrnod. Os na wnewch hynny, bydd yn cael ei chynnig i fyfyriwr arall. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cadw llygad ar eich ebyst yn ystod y cyfnod hwn.
Gall rhai darparwyr cyfrifon ebost ystyried y neges yn sbam. Felly, cofiwch edrych yn eich ffolder sothach/sbam yn ogystal â’ch mewnflwch.
Mae y cynnig yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- cytundeb
- datganiad ysgrifenedig/telerau ac amodau
- gwybodaeth ynghylch cyrraedd
- canllawiau talu am lety
Wrth dderbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi / contract llety, gofynnir i chi gadarnhau nad oes gennych euogfarn droseddol berthnasol sydd heb ddarfod lle mae cyfyngiadau ar waith a all eich atal rhag byw yn llety'r Brifysgol. Cysylltwch â ni os oes gennych euogfarn droseddol o’r fath. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd i fyfyrwyr.
Unwaith y byddwch wedi derbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi, byddwn yn ei chadw ar eich cyfer, a byddwch yn cael ebost yn cadarnhau hynny.
Byddwn yn cynnig ystafell i chi am gyfnod penodol, ac ar ôl i chi dderbyn yr ystafell honno, chi fydd yn gyfrifol am dalu'r rhent am y cyfnod a nodir yn eich cytundeb.
Os byddwch chi’n byw mewn llety Unite, cewch ragor o wybodaeth yn uniongyrchol gan Unite ynglŷn â chyrraedd eich llety.
Er mwyn gwarantu eich ystafell yn llety'r yn derfynol, mae’n rhaid i chi gyrraedd a chasglu’r allwedd ar gyfer eich ystafell o fewn y cyfnod amser a nodir yn y wybodaeth am gyrraedd.
Os na allwch gyrraedd o fewn y cyfnod amser a nodir, bydd eich ystafell yn cael ei rhoi i fyfyriwr arall. Ni fyddwn yn gallu gwarantu ystafell i chi yn llety'r mwyach, a bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Preswylfeydd pan fydd eich dyddiad teithio wedi'i gadarnhau i weld pa ystafelloedd sydd ar gael.
Dyddiadau pwysig
Tasg | Dyddiad cau |
---|---|
Rhaid fyfyrwyr dewis cadarn gyflwyno eu cais ar-lein | Dydd Gwener, 25 Gorffennaf 2025 |
Rhaid i fyfyrwyr cyfnewid sesiwn lawn gyflwyno eu cais ar-lein | Dydd Gwener, 25 Gorffennaf 2025 |
Rhaid i fyfyrwyr dewis wrth gefn gyflwyno eu cais ar-lein | Dydd Mercher, 20 Awst 2025 |
Cael/derbyn cynnig diamod i astudio yma | Dydd Gwener, 29 Awst 2025 |
Derbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi (ar-lein) | Ymhen pum diwrnod ar ôl cynnig yr ystafell i chi |
Casglu’r allwedd ar gyfer eich ystafell | O fewn y cyfnod amser a nodir yn y wybodaeth am gyrraedd |
Myfyrwyr Clirio, myfyrwyr sydd â ffurflen Cofnod Derbyn Blaenorol a myfyrwyr sy’n ymgeiswyr hwyr
Rydym yn darparu ar gyfer myfyrwyr Clirio, myfyrwyr sydd â ffurflen Cofnod Derbyn Blaenorol a myfyrwyr sy’n ymgeiswyr hwyr (h.y. sy’n gwneud cais ar ôl y dyddiadau a nodir uchod) ar sail y cyntaf i'r felin.
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr ystafelloedd sydd ar gael ac yn gwneud ein gorau glas i gynnig ystafell addas i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y gallwn os nad oes unrhyw ystafelloedd ar gael a bod angen i chi sicrhau lety yn y sector preifat.
Dyddiadau pwysig | |
---|---|
Dydd Llun, 30 Mehefin 2025 | Dyma’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i astudio yma yn ystod cylch ymgeisio arferol UCAS. Bydd ystafelloedd yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin i’r rhai sy’n gwneud cais ar ôl y dyddiad hwn. |
Dydd Llun, 1 Medi 2025 | Bydd ceisiadau hwyr am lety yn cael eu prosesu ar sail y cyntaf i'r felin ar ôl y dyddiad hwn. Pan fyddwch chi wedi derbyn eich cynnig i astudio yma ar sail gadarn, byddwn yn anfon e-bost atoch chi sy’n nodi sut i wneud cais ar-lein am lety. |
Myfyrwyr Cyfnewid Sesiwn Rhannol
Yn anffodus, ni allwn warantu ystafell yn llety'r i fyfyrwyr cyfnewid os byddwch yn dod ar gyfer semester yr hydref neu'r gwanwyn yn unig.
Mae nifer sefydlog o ystafelloedd ar gael mewn llety bob semester a byddwch yn derbyn gwybodaeth benodol am lety gan y tîm Cyfleoedd Byd-eang pan fydd gennych gynnig ffurfiol i astudio gyda ni.
Gall myfyrwyr Ewropeaidd hefyd ddarganfod mwy ar dudalen we y Gyfnewidfa Ewropeaidd.
Canolfan Cyfleoedd Byd-Eang
Mewngofnodwch a gwnewch gais nawr am le yn llety'r Brifysgol.