Sector preifat
Mae cymorth ar gael er mwyn i chi ddarganfod tai o safon yng Nghaerdydd, wedi’u meddu gan berchnogion dibynadwy.
Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â symud i lety preifat, mae’r Undeb Myfyrwyr yn darparu arweiniad ar gyfer pob math o bryderon, boed yn gyngor am chwilio am dai, gwybodaeth am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel tenantiaid, neu fil treth cyngor.
Cardiff Student Letting
Mae Cardiff Student Letting yn asiantaeth gosod tai a berchnogir a redir gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’r asiantaeth wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr yn dod o hyd i lety o ansawdd gan landlordiaid dibynadwy.
Mae’r asiantaeth wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghyntedd llawr gwaelod Adeilad Undeb y Myfyrwyr, lle gall myfyrwyr gofrestru eu manylion a derbyn rhybuddion ebyst o’r holl dai sy’n cyfateb â’u gofynion. Nid yw Cardiff Student Letting yn codi tal asiantaeth.
Gall ôl-raddedigion ddod i'n digwyddiad chwilio am lety pob mis Awst. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddod i Gaerdydd, i grwydro’r ddinas, a chwrdd ag ôl-raddedigion eraill sydd ar fin dechrau eu hastudiaethau. Diben y digwyddiad yw i rhoi cyfle i bawb gwrdd â'i gilydd a chael llety ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd gyda chymorth Cardiff Student Letting.
Cyngor i chwilio am dŷ
Wrth chwilio am lety preifat, cofiwch:
- dylech gyllidebu ar gyfer cyfleustodau ee nwy, trydan, dŵr heblaw bod eich cytundeb tenantiaeth yn nodi bod cyfleustodau wedi’u cynnwys yn rhan o’r rhent
- mae Cathays a Roath yn ardaloedd poblogaidd gyda nifer o dai ar gyfer myfyrwyr
- dylech wirio bod gan y tai diogelwch digonol ee cloeon ffenestri a drysau, a hefyd bod camau diogelwch tân digonol wedi’u hystyried
- dylech gadarnhau pa gyfleusterau sydd ar gael yn y llety, gan gynnwys os oes angen trwydded os oes parcio ar gael
- os bydd yr holl breswylwyr yn fyfyrwyr amser llawn, dylech fod wedi’ch eithrio rhag talu’r dreth cyngor
- os bydd y landlord wedi rhentu’r llety sydd wedi’i restru ond yn cynnig llety arall i chi, gwiriwch gyda’ch gwasanaethau llety i weld os oes unrhyw dystysgrifau diogelwch fel nwy a thrydan wedi’u cyflwyno ar gyfer yr eiddo
- gall y tai a gynigir i chi nad ydynt ar y rhestr fod yn anaddas os nad ydynt wedi rhoi tystiolaeth o'r tystysgrifau diogelwch perthnasol
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn cael ei darparu er cyfleuster myfyrwyr sydd yn chwilio am lety yn y sector breifat. Nid yw cynnwys manylion landlord/asiantaeth gosod tai ar y dudalen yn golygu bod Prifysgol Caerdydd yn eu cymeradwyo.
Gallwch hidlo'r dewisiadau llety gydag amrywiaeth o opsiynau yn cynnwys arlwyo ac ystafelloedd ymolchi.