Ewch i’r prif gynnwys

Gwneud cais am lety i ôl-raddedigion

Ôl-raddedigion rhyngwladol

Gallwn warantu lle sengl yn llety'r i fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol ar yr amod bod terfynau amser penodol yn cael eu bodloni.

Gallwch wneud cais ar gyfer llety'r ar ôl i chi dderbyn eich cynnig i astudio yma. Gallwch wneud hynny drwy system ar-lein Prifysgol Caerdydd (SIMS). Bydd angen eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair arnoch; cafodd y rhain eu hanfon atoch trwy ebost yn fuan wedi i ni dderbyn eich cais.

Ôl-raddedigion o'r DU

Yn anffodus, ni allwn warantu lleoedd ym mhreswylfeydd y Brifysgol i ôl-raddedigion o’r DU. Bydd angen i chi drefnu llety preifat.

Sut i wneud cais

Rydym yn cynnig amrywiaeth o neuaddau a thai i fyfyrwyr, yn dibynnu ar eich ffordd o fyw a'ch cyllideb. Gallai fod o ddefnydd i chi ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu ble rydych am fyw:

I wneud yn siŵr eich bod yn cael lle sengl yn llety'r, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyflwyno eich cais ar-lein a gwneud taliad ymlaen llaw o £250 na allwn ei ad-dalu erbyn Dydd Llun 29 Gorffennaf 2024
  • cael/derbyn cynnig diamod i astudio erbyn dydd Gwener 30 Awst 2024

Os byddwch yn methu'r dyddiadau cau hynny, byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig llety i chi a bydd eich cais yn cael ei brosesu ar sail y cyntaf i'r felin.

Trefn y cais

Caiff eich cais ei brosesu yn nhrefn dyddiad, yn unol â dau ddyddiad:

  • y cyntaf yw'r dyddiad y byddwn yn derbyn cadarnhad gan y Tîm Derbyn Myfyrwyr o'ch cynnig diamod i astudio
  • yr ail yw dyddiad derbyn eich cais

Y Cyngor Prydeinig neu ôl-raddedigion a noddir

Mae myfyrwyr y Cyngor Prydeinig neu fyfyrwyr ôl-raddedig a noddir wedi’u heithrio rhag talu’r £250 ymlaen llaw.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i chi gadw eich cais ar-lein ac anfon tystiolaeth ddogfennol addas ymlaen sy’n dangos eich bod chi'n fyfyriwr y Cyngor Prydeinig, neu fel opsiwn arall, prawf bod eich costau byw’n cael eu noddi, i'r Swyddfa Preswylfeydd drwy ebostio: preswylfeydd@caerdydd.ac.uk neu ffacsio: +44 (0)29 2087 4661.

Os nad ydych yn cadw eich cais ar-lein ac yn rhoi'r dystiolaeth hon erbyn dydd Llun 29 Gorffennaf 2024, ni ellir gwarantu lle i chi mewn llety.

Byddwn yn ceisio cynnig un o'ch prif ddewisiadau i chi, wrth ddyrannu lle i chi yn llety'r.

Os nad oes lle ar gael yn eich dewis cyntaf, byddwn yn ystyried eich holl ddewisiadau eraill yn ôl trefn blaenoriaeth hyd nes y byddwn yn gallu dyrannu llety i chi.

Gan fod y preswylfeydd yn amrywio o ran nifer y myfyrwyr sy'n byw ynddynt, a bod rhai yn fwy poblogaidd nag eraill, ni ellir gwarantu y dyrennir eich prif ddewisiadau i chi. Os nad yw'r llety rydych yn ffafrio ar gael mwyach, byddwn yn gwneud cynnig arall i chi sydd yn addas yn ein tyb ni.

Mae'n bolisi gennym roi llety i fyfyrwyr mewn fflatiau cymysg o ran rhywedd a chenedligrwydd/hil lle bynnag y bo'n bosibl, gan gynnwys ystafelloedd gwely astudio ar y llawr gwaelod. Os byddai'n well gennych fyw mewn fflat un-rhyw, rhowch wybod i ni yn eich cais ar-lein.

Os byddwch yn byw yn Nhŷ Clodien, dyw'r canlynol ddim yn gymwys, a byddwch yn cael rhagor o wybodaeth yn uniongyrchol gan Unite.

Ddiwedd mis Gorffennaf/Awst/Medi, byddwch yn cael ebost yn rhoi gwybod i chi bod eich cais wedi'i brosesu, a bod angen i chi fwrw golwg ar eich cynnig ystafell ar-lein a’i dderbyn.

Rhaid i chi dderbyn eich cynnig ystafell ar-lein ymhen pum diwrnod neu bydd eich cynnig yn dod i ben a bydd yr ystafell yn cael ei chynnig i fyfyriwr arall. Felly, mae’n bwysig eich bod chi’n cadw llygad ar eich cyfrifon ebost yn ystod y cyfnod hwn.

Sylwer: gallai’r neges gael ei thrin fel sbam gan rai darparwyr ebost, felly cofiwch edrych yn eich ffolder sothach/sbam yn ogystal â’ch blwch derbyn.

Mae eich cynnig ystafell ar-lein yn cynnwys y canlynol:

  • contract
  • datganiad ysgrifenedig/telerau ac amodau
  • gwybodaeth ynghylch cyrraedd
  • canllawiau talu am lety

Wrth dderbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi / contract llety, gofynnir i chi gadarnhau nad oes gennych euogfarn droseddol berthnasol sydd heb ddarfod lle mae cyfyngiadau ar waith a all eich atal rhag byw yn llety'r Brifysgol. Cysylltwch â ni os oes gennych euogfarn droseddol o’r fath. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd i fyfyrwyr.

Unwaith eich bod wedi derbyn eich cynnig ystafell, bydd eich ystafell yn cael ei chadw i chi a byddwch yn cael ebost yn cadarnhau hynny.

Cewch gynnig lle am gyfnod penodol a phan fyddwch yn derbyn eich cynnig ystafell, chi fydd yn gyfrifol am dalu'r rhent ar gyfer y cyfnod contract ar eich contract.

Er mwyn gwarantu eich lle yn llety'r yn, rhaid i chi gyrraedd a chasglu allwedd eich ystafell o fewn y dyddiadau/amserau a fanylir yn y wybodaeth am gyrraedd.

Os na allwch gyrraedd o fewn y dyddiadau penodedig, bydd eich cynnig ystafell'n cael ei dynnu'n ôl a dyrennir eich ystafell i fyfyriwr arall. Ni fyddwn yn gallu gwarantu lle i chi yn llety'r mwyach a bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Preswylfeydd pan fydd eich dyddiad teithio wedi'i gadarnhau, er mwyn gwirio bod ystafell ar gael.

Dyddiadau pwysig

TasgDyddiad cau
Cyflwynwch eich cais ar-lein a gwneud taliad ymlaen llaw o £250 (na allwn ei ad-dalu)Dydd Llun 29 Gorffennaf 2024
Cael / derbyn eich cynnig diamod i astudioDydd Gwener 30 Awst 2024
Derbyn eich cynnig ystafell (ar-lein)Ymhen pum diwrnod o ddyrannu eich ystafell i chi
Casglu allwedd eich ystafellO fewn y dyddiadau/amseroedd a bennir yn y wybodaeth ynghylch cyrraedd.

Cyrraedd ar ôl mis Medi

Yn anffodus, ni allwn warantu lle ym mhreswylfeydd y brifysgol I fyfyrwyr sy’n cyrraedd yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Preswylfeydd y brifysgol i holi pa lety sydd ar gael.

Swyddfa Preswylfeydd