Ewch i’r prif gynnwys

Gwnewch gais ar gyfer llety’r Ganolfan Astudiaeth Ryngwladol

Cewch arweiniad pellach ynghylch sut i wneud cais am lety ar ôl i chi gael cynnig gan y Ganolfan Astudiaeth Ryngwladol.

Rhaglenni i Israddedigion

Gallwn gadarnhau lle sengl yn llety’r i fyfyrwyr sy’n gwneud y Flwyddyn Sylfaen Ryngwladol.

Rhaglenni Ôl-raddedig

Mae croeso i fyfyrwyr cyn-feistr wneud cais ar gyfer llety ond nid oes sicrwydd y bydd ystafell ar gael bryd hynny oherwydd dyddiadau cychwyn a gorffen y cwrs:

Sut i wneud cais

Mae amrywiaeth o breswylfeydd ar gael i chi ddewis o’u plith, gan ddibynnu ar eich ffordd o fyw a’ch cyllideb. Mae’n bosib y byddwch yn gweld y ffactorau canlynol yn ddefnyddiol wrth benderfynu ar eich llety:

Mae modd gwneud cais ar gyfer lle yn llety’r ar ôl derbyn cyngor o’r Canolfan Astudiaeth Ryngwladol.

Ymgeisio ar-lein

I wneud yn siŵr eich bod yn cael lle sengl yn llety'r, rhaid i chi gyflwyno eich cais ar-lein erbyn dydd Gwener 25 Gorffenaff 2025.

Wrth wneud cais ar-lein, byddwch yn gallu llunio rhestr o’r llety sydd ar gael yn ôl pa un fyddai'n well gennych. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn cael mynd i lety sy'n well gennych. Os nad yw hynny'n bosibl, byddwn yn cynnig llety arall i chi ar sail argaeledd.

Os byddwn yn cael eich cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig llety i chi a bydd eich cais yn cael ei brosesu ar sail y cyntaf i'r felin.

Trefn y cais

Prosesir ceisiadau yn ôl trefn y dyddiadau y maent yn cael eu cyflwyno.

Byddwn yn ceisio cynnig un o'ch prif ddewisiadau i chi, wrth ddyrannu lle i chi yn llety'r.

Os nad oes lle ar gael yn eich dewis cyntaf o lety, byddwn yn ystyried eich holl ddewisiadau eraill yn ôl trefn blaenoriaeth hyd nes y byddwn yn gallu dyrannu llety i chi.

Gan fod y preswylfeydd yn amrywio o ran nifer y myfyrwyr sy'n byw ynddynt, a bod rhai yn fwy poblogaidd nag eraill, ni ellir rhoi gwarantu y dyrennir eich prif ddewisiadau i chi. Os nad yw'r llety sy'n well gennych ar gael mwyach, byddwn yn gwneud cynnig arall i chi sydd yn addas yn ein tyb ni.

Mae'n bolisi gennym roi llety i fyfyrwyr mewn fflatiau cymysg o ran rhywedd a chenedligrwydd/hil lle bynnag y bo'n bosibl, gan gynnwys ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod. Os byddai'n well gennych fyw mewn fflat un-rhyw, rhowch wybod i ni yn eich cais ar-lein.

Os byddwch chi'n byw mewn llety Unite, bydd eich contract gyda nhw. Byddwch chi'n derbyn rhagor o wydodaeth gan Unite yn uniongyrchol ynghylch sut i dderbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi.

Rhaid i chi dderbyn eich cynnig ystafell ar-lein ymhen pum diwrnod, neu bydd eich cynnig yn dod i ben a bydd yr ystafell yn cael ei chynnig i fyfyriwr arall. Felly, mae’n bwysig eich bod yn cadw llygad ar eich cyfrifon ebost yn ystod y cyfnod hwn.

Sylwer, gallai’r neges gael ei thrin fel sbam gan rai darparwyr ebost, felly cofiwch edrych yn eich ffolder sothach/sbam yn ogystal â’ch blwch derbyn.

Fel arfer, mae eich cynnig ystafell ar-lein yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Contract
  • Datganiad Ysgrifenedig/Telerau ac Amodau
  • Gwybodaeth ynghylch cyrraedd
  • Canllawiau talu am lety.

Wrth dderbyn yr ystafell a gynigiwyd i chi / contract llety, gofynnir i chi gadarnhau nad oes gennych euogfarn droseddol berthnasol sydd heb ddarfod lle mae cyfyngiadau ar waith a all eich atal rhag byw yn llety'r Brifysgol. Cysylltwch â ni os oes gennych euogfarn droseddol o’r fath. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd i fyfyrwyr.

Unwaith eich bod wedi derbyn eich cynnig ystafell, bydd eich ystafell yn cael ei chadw i chi a byddwch yn cael ebost yn cadarnhau hynny.

Cewch gynnig lle am gyfnod penodol a phan fyddwch yn derbyn eich Cynnig Llety, chi fydd yn gyfrifol am dalu'r rhent ar gyfer y cyfnod contract ar eich contract.

Os byddwch chi’n byw mewn llety Unite, cewch ragor o wybodaeth yn uniongyrchol gan Unite ynglŷn â chyrraedd eich llety.

Er mwyn gwarantu eich ystafell mewn llety’n derfynol, mae’n rhaid i chi gyrraedd a chasglu allwedd eich ystafell yn y cyfnod a nodir yn y wybodaeth am gyrraedd.

Os na allwch chi gyrraedd yn ystod y cyfnod a nodir, bydd y cynnig am lety’n cael ei dynnu’n ôl a bydd eich ystafell yn cael ei rhoi i fyfyriwr arall. Ni fyddwn ni’n gallu gwarantu ystafell i chi mewn llety mwyach, a bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Preswylfeydd pan fydd eich dyddiad teithio wedi'i gadarnhau i weld pa ystafelloedd sydd ar gael.

Dyddiadau pwysig

TasgDyddiad cau
Rhaid i fyfyrwyr y Flwyddyn Sylfaen Ryngwladol gyflwyno eu cais ar-leinDydd Gwener 25 Gorffenaff 2025
Derbyn eich cynnig ystafell (ar-lein)Ymhen pum diwrnod o ddyrannu eich ystafell i chi
Casglu allwedd eich ystafellO fewn y dyddiadau/amseroedd a bennir yn y wybodaeth ynghylch cyrraedd.

Cyrsiau heb warant o lety

Yn anffodus, ni allwn warantu lle mewn llety yn y brifysgol i fyfyrwyr ar unrhyw raglenni sy’n dechrau ym mis Tachwedd, Ionawr a Mawrth.

Mae croeso i chi wneud cais am lety, ond oherwydd dyddiadau dechrau a gorffen y rhaglen, bydd dyraniad ystafelloedd yn dibynnu ar argaeledd.