Cyfnodau contract
Caiff dyddiadau contract eich llety penodol eu cadarnhau yn eich cynnig ystafell.
Bydd cyfnod contract yn cynnwys cyfnodau pan fyddwch yn talu rhent ond pan na fyddwch hwyrach yn aros yn eich ystafell, e.e. gwyliau/lleoliadau gwaith.
Rhwng Mis Medi a mis Mehefin (40 wythnos)
- Dydd Mercher 17 Medi 2025 tan ddydd Mercher 24 Mehefin 2026, gan gynnwys pob cyfnod o wyliau.
Rhwng Mis Medi a mis Mehefin (39 wythnos)
- Dydd Mercher 17 Medi 2025 tan ddydd Llun 15 Mehefin 2026, gan gynnwys pob cyfnod o wyliau.
Rhwng Mis Medi a mis Gorffennaf (44 wythnos) - Tŷ Clodien
- Dydd Mercher 17 Medi 2025 tan ddydd Mercher 22 Gorffennaf 2026, gan gynnwys pob cyfnod o wyliau.
Rhwng Mis Medi a mis Gorffennaf (44 wythnos) - Unite- Adam Street Gardens & Ty Pont Haearn
- Dydd Gwener 12 Medi 2025 tan ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026, gan gynnwys pob cyfnod o wyliau.
Cyfnod contract ansafonol
- Mae'r cyfnodau hyn yn cyd-fynd yn gyffredinol â dyddiadau semester cyrsiau unigol ac maent yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio:
- Hylendid/Therapi Deintyddol
- Bydwreigiaeth
- Nyrsio
- Radiograffeg
- Ffisiotherapi
- Bydd union ddyddiadau cyfnod eich contract yn cael eu cadarnhau yn eich cynnig ystafell.
Cyfnod contract blwyddyn lawn
- Dydd Mercher 17 Medi 2025 tan ddydd Gwener 11 Medi 2026
Sylwer:
- Mae angen i chi symud allan o'ch ystafell ar ddiwedd cyfnod eich contract.
- Mae'n bosibl y bydd myfyriwr sydd â chontract blwyddyn gyfan yn cael eu hannog i symud o'u hystafell wely astudio i ystafell wely astudio arall sydd mor agos â phosibl yn yr un ardal breswyl. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn parhau i fyw gyda myfyrwyr eraill a bydd yn lleihau'r tarfu a achosir pan fydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd ar y safle. Disgwylir y bydd y gwaith symud hwn yn digwydd ym mis Mehefin/Gorffennaf. Os bydd gwaith a gynlluniwyd yn mynd rhagddo ac yn mynd i gael effaith arnoch, bydd y Rheolwr Preswylfeydd yn eich hysbysu ac yn rhoi opsiynau posibl i chi.
Cyrraedd yn gynnar o wledydd tramor
Os ydych yn bwriadu cyrraedd Caerdydd cyn dechrau cyfnod eich contract, sylwch na fydd yr ystafell a neilltuwyd i chi ar gael, a bydd angen i chi drefnu llety dros dro eich hun tan ddechrau cyfnod eich contract.
Gallwch hidlo'r dewisiadau llety gydag amrywiaeth o opsiynau yn cynnwys arlwyo ac ystafelloedd ymolchi.