Ein cymunedau
Rydym yn gweithio gyda chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru.
Butetown, Glan yr Afon a Grangetown
Mae clwstwr Butetown, Glan yr Afon a Grangetown (BRG) Cymunedau yn Gyntaf wedi'i leoli yn ne orllewin Caerdydd.
- Mae Clwstwr BRG yn cynnwys ardaloedd Butetown, Glan yr Afon a Grangetown.
- Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n cefnogi agenda Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru. Caiff eu timau cyflawni eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent yn gweithio gyda thrigolion, sefydliadau cymunedol, busnesau ac asiantaethau allweddol eraill yn yr ardaloedd hyn, o'r enw Clystyrau, ac maent yn canolbwyntio ar gamau gweithredu sy'n arwain at gynaliadwyedd hirdymor a lles cymunedau.
- Drwy ymchwil, gwerthuso a chysylltiadau cydweithredol â nifer o randdeiliaid a'r cyhoedd, bydd Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn creu cymunedau sy'n gallu cymryd rhan mewn prosesau sy'n llunio eu dyfodol.
Gogledd Merthyr Tudful
Mae ardal Gogledd Merthyr Tudful yng ngogledd dyffryn Taf yn ne Cymru.
- Mae'r clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yn ardal sy'n cynnwys nifer o gymunedau, sef y Gurnos, y Galon Uchaf, Dowlais, Penydarren a Phant, yn bennaf.
- Mae tîm cyflawni Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n gweithio gyda thrigolion, sefydliadau cymunedol, busnesau ac asiantaethau allweddol eraill yn yr ardaloedd hyn.
- Ym 1999, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Datblygu 3Gs i weithio gyda chymunedau'r Gurnos, y Galon Uchaf a Phenydarren, gan gynnig cefnogaeth, gwybodaeth a gweithgareddau datblygu.
- Mae tîm Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn gweithio gyda thrigolion, sefydliadau cymunedol, ysgolion ac asiantaethau allweddol eraill yn yr ardaloedd hyn, a bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu model cynaliadwy o ymchwil cydweithredol, addysg, ymgysylltiad, cyfnewid gwybodaeth ac effaith rhwng y Brifysgol a chymunedau lleol.