Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw Trawsnewid Cymunedau. Cefnogir y prosiectau gan yr Is-Ganghellor.

Nod y prosiect yw datblygu model cynaliadwy o ymchwil cydweithredol, addysg, ymgysylltiad, cyfnewid gwybodaeth ac effaith rhwng y Brifysgol a chymunedau sydd ar hyn o bryd yn rhan o raglen gwrthdlodi Llywodraeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf. Bydd yn helpu i rymuso cymunedau i ddylanwadu ar y prosesau gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Drwy strwythur Cymunedau yn Gyntaf, byddwn yn gweithio gyda'r partneriaethau i gynyddu gwytnwch cymunedol a meithrin hyder a sgiliau trigolion a rhanddeiliaid drwy bedwar pecyn gwaith. Bydd hyn yn arwain at welliannau o ran lles ac iechyd meddwl, ac yn gwella cysylltiadau rhwng Prifysgol Caerdydd a chymunedau lleol; gan greu dull ymgysylltu cynaliadwy y gellir ei ddefnyddio ym mhrosiectau ymgysylltu cymunedol eraill y Brifysgol, yn y tymor hir.

Mae'r prosiect yn treialu'r dull hwn gyda dau glwstwr Cymunedau yn Gyntaf. Bydd y dull ymgysylltu yn gwrando ar y cymunedau, ac yn gweithio gyda nhw; gan eu galluogi i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a gwerthuso, a darparu adnoddau i nodi a dod o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â materion cymunedol. Bydd y prosiect yn sicrhau bod cymunedau a Phrifysgol Caerdydd yn bartneriaid cyfartal; yn cyfrannu tuag at adeiladu gwytnwch cymunedol, gan godi dyheadau lleol a sicrhau canlyniadau iechyd meddwl cadarnhaol.