Datrys dirgelion chwarae esgus mewn rhyngweithiadau rhwng rhiant a phlentyn
Mae Catherine Sheehan, sy’n fyfyriwr PhD, yn ymchwilio i rôl chwarae esgus yn natblygiad emosiynol plant.
Mae ymchwil PhD Catherine Sheehan yn trin a thrafod chwarae esgus a datblygiad emosiynol plant sydd wedi’u cyfeirio gan eu hathrawon oherwydd problemau ymddygiad a chymdeithasol-emosiynol.
“Yn aml, nid yw pobl yn sylweddoli pa mor gymhleth yw chwarae esgus,” meddai. “Mae’n edrych fel bod plant yn cael hwyl a dim byd arall pan maen nhw'n cael te parti gyda thedis, ond mae cymaint o sgiliau gwybyddol a chymdeithasol cymhleth ar waith hefyd! Mae fy ymchwil yn edrych ar i ba raddau y mae chwarae esgus yn helpu plant i ddatblygu sgiliau emosiynol.”
Mae Catherine yn rhan o’r Uned Asesu Niwroddatblygiad yn y Ganolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol yn yr Ysgol Seicoleg.
Mae ei diddordeb ym maes ymchwil ei PhD yn deillio o’i chyfnod fel athrawes ac fel rhiant.
“Roedd fy mhlentyn ieuengaf newydd gael ei phen-blwydd yn dair oed pan ddechreuais fy PhD. Mae’r cyfnod rhwng 3 a 5 oed yn cael ei ystyried fel yr adeg pan mae chwarae esgus ar ei ‘anterth’, felly mae hi wedi bod gyda mi ar fy nhaith PhD o’r diwrnod cyntaf! Mae'n hyfryd,” meddai.
“Rydw i’n hynod angerddol am fy ngwaith. Rydw i’n ffodus dros ben i fod yn ymchwilio i rywbeth sydd mor sylfaenol bwysig i ddatblygiad plant yn fy marn i, cyn mynd adref bob dydd i weld y ffenomen hon ar waith. Mae fy PhD yn gyfuniad mor hyfryd o’m profiadau personol a’m diddordebau academaidd.”
Mae chwarae esgus wedi bod o ddiddordeb i ymchwilwyr ers amser maith, ac mae seicolegwyr, niwrowyddonwyr, addysgwyr, ac anthropolegwyr ymhlith y rhai sy'n ceisio ateb y cwestiwn: pam mae plant yn esgus?
Mae gwaith sy’n bodoli eisoes wedi cysylltu chwarae esgus â datblygiad mewn llawer o feysydd, gan gynnwys gallu ieithyddol, swyddogaethau gweithredol, sgiliau cymdeithasol, a rheoli emosiwn. Fodd bynnag, yn 2013, dangosodd papur adolygu arloesol gan Angeline Lillard a chydweithwyr fod rôl chwarae esgus mewn datblygiad yn amwys o hyd. Ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn parhau i chwilio am atebion.
Mae ymchwil Catherine yn adeiladu ar waith sy’n ymchwilio i rôl chwarae esgus mewn datblygiad emosiynol. “Rydyn ni’n gwybod bod chwarae esgus yn rhan hynod ddiddorol a phwysig o’r rhan fwyaf o’n plentyndod, felly rydyn ni’n meddwl bod rôl allweddol ganddo o ran datblygiad yn ôl pob tebyg; fodd bynnag, dydyn ni ddim yn siŵr sut mae hynny’n digwydd na beth yn union yw’r rôl hon,” meddai. “Rydyn ni’n meddwl y gallai plant fod yn chwarae esgus mewn sefyllfaoedd sy’n heriol yn emosiynol ac i’w helpu i ymdopi ag anawsterau. Un syniad rwy’n edrych arno ar hyn o bryd yw a oes gan chwarae esgus rôl o ran sut mae plant yn rheoli eu hemosiynau.”
BA yn y Gwyddorau Dynol yn Rhydychen oedd gradd israddedig Catherine. Gan mai hi oedd y person cyntaf yn ei theulu i fynd i’r brifysgol, nid oedd ganddi unrhyw syniad beth i’w ddisgwyl ac nid oedd erioed wedi ystyried dilyn gyrfa yn y byd academaidd yn y dyfodol. Cafodd ei denu gan y dull amlddisgyblaethol a gynigwyd gan y cwrs israddedig: “Un funud roeddwn i’n gwneud dosbarthiadau am eneteg, esblygiad, a ffisioleg, a’r funud nesaf roeddwn i’n dysgu am anthropoleg, demograffeg ac ystadegau!”
Ond y modiwl mewn seicoleg ddatblygiadol a oedd fwyaf o ddiddordeb iddi, ac fe gafodd y diddordeb hwn ei ailddeffro pan ddaeth yn fam. “Heb os nac oni bai, fe wnaeth fy mhlant fy ysbrydoli i ailgydio mewn Seicoleg. Fe wnaeth eu gwylio’n tyfu a newid mewn modd a gafodd ei ragfynegi ysgogi chwilfrydedd newydd i mi am rai o’r damcaniaethau am ddatblygiad yr oeddwn wedi clywed amdanyn nhw wrth imi astudio fy ngradd israddedig.”
“Mae llawer o’r hyn rydyn ni’n ei wybod eisoes am chwarae esgus wedi dod o samplau cymunedol o blant cyn-ysgol niwronodweddiadol, ac maent fel arfer yn chwarae gyda brodyr a chwiorydd neu ffrindiau.”
Mae Catherine am ddatblygu hyn ymhellach drwy ganolbwyntio ar blant yn ystod plentyndod cynnar i ganolig, gan edrych yn benodol ar y rhai sy'n esgus gyda rhiant. Ei maes arbenigol yw plant sydd wedi cael eu cyfeirio gan athrawon ysgol oherwydd problemau ymddygiadol, gwybyddol neu emosiynol at Uned Asesu Niwroddatblygiad yr Ysgol Seicoleg. Drwy ganolbwyntio ar blant sy’n cael anawsterau, mae’n gobeithio cynnig dealltwriaeth newydd o chwarae esgus a’i gysylltiadau â datblygiad emosiynol.
“Mae’r plant sy’n dod i’n gweld yn yr Uned yn cael eu cyfeirio fel arfer oherwydd problemau ymddygiad, emosiynol neu anawsterau gyda phlant o’r un oed,” meddai Catherine. “Maen nhw’n ‘grŵp o blant sydd wedi’u hanghofio’ gan nad oes ganddyn nhw ddiagnosis ar gyfer cyflwr niwroddatblygiadol neu iechyd meddwl, ond maen nhw’n cael trafferth o hyd wrth reoli eu hymddygiad neu eu hemosiynau yn yr ystafell ddosbarth.”
Ysbrydolwyd ymchwil Catherine gan ei phrofiadau ei hun a’i gyrfa yn y sectorau elusennol ac addysg, yn ogystal â’r amser a gymerodd i gael ei phedwar o blant.
“Roeddwn i’n gallu gwylio wrth iddyn nhw gyrraedd eu cerrig milltir, a chymerodd pob un ohonyn nhw ran yn y ffurf wych hon o chwarae. Roeddwn i wrth fy modd yn eu gwylio yn sgwrsio â’u teganau, neu’n gosod lleoedd ychwanegol ar eu cyfer wrth ein bwrdd cinio. Roedd hefyd yn fy atgoffa o sut byddai fy chwaer a minnau yn treulio oriau yn chwarae ysgolion ac ysbytai gyda’n doliau ar ben y grisiau! Rwy’n sylweddoli erbyn hyn pa mor bwysig yw hyn i’n datblygiad.”
Mae plant yn ymgolli i’r fath raddau wrth chwarae esgus fel nad oes unrhyw beth arall o bwys iddyn nhw yn y foment honno yn ôl pob golwg. Mae’n rhoi ymwybyddiaeth ofalgar llwyr i blant. Felly, pan ddaeth y cyfle i wneud y PhD hwn, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi fynd amdani.”