Mae Cysgod y Garan (The Shadow of the Crane) yn rhaglen drama a phypedwaith ryngweithiol a ddyluniwyd ar y cyd â gweithwyr proffesiynol arobryn yn y diwydiant theatr yng Nghymru, sef PuppetSoup.
Nod y rhaglen, sydd wedi’i hanelu at blant oedran ysgol ym mlynyddoedd 3 i 6 (Cyfnod Allweddol 2), yw ailennyn eu diddordeb mewn dysgu ar ôl y pandemig a’u hannog i ystyried mewn ffyrdd cyffrous ac mewn ffyrdd sy’n eu grymuso, bynciau a themâu amgylcheddol pwysig.
Mae’r prosiect wedi’i ysbrydoli gan Wlyptiroedd Casnewydd a Gwastadeddau Gwent ac yn cyflwyno pobl ifanc i agweddau ar hanes lleol a’r amgylchedd, ac yn helpu i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol, cyflwyno a rhyngbersonol, ac i wella eu hyder a’u gwytnwch.
Ysbrydoliaeth o'r ardal leol
Cyflwynwyd y prosiect mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghanolbarth Cymru a Chasnewydd a’r cyffiniau, ac mae cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol o ran cynnal sesiynau yn y man addysgu yng ngwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd RSBP.
Mae’r stori’n canolbwyntio ar ferch ifanc yr un oed â’r plant ysgol sy’n cymryd rhan yn y ddrama ac yn integreiddio ffeithiau a digwyddiadau go iawn sy’n deillio o Wlyptiroedd Casnewydd a’i hanes. Mae’r rhain yn cynnwys darganfod olion traed dynol o’r oes Fesolithig hwyr ger Allteuryn, a’r newyddion calonogol bod dau aran wedi adeiladu nyth ar y gwastatir yn 2016, a bod ganddynt gywion, a hynny am y tro cyntaf ers 400 mlynedd.
Ffocws arall yw llifogydd a lefelau dŵr yn codi. Mae’r Llifogydd Mawr a ddigwyddodd ym 1607 yn sail i’r agwedd hon ar y stori. Dyma un o'r trychinebau naturiol gwaethaf yn hanes Prydain.
Cafodd y gwlyptiroedd sylw yn y cyfryngau cenedlaethol yn ddiweddar pan gynigiwyd datblygu ffordd osgoi ar gyfer yr M4, a fyddai wedi mynd drwy safle nythu’r garanod ac wedi dinistrio rhannau helaeth o’r ardal; cafodd y cynnig ei ollwng oherwydd ymdrechion ymgyrchwyr.
Mae’r digwyddiadau hyn oll yn gysylltiedig â themâu allweddol y ddrama, sy’n ymwneud â rhyngweithio bodau dynol â natur ac effaith bodau dynol ar natur, amgylcheddaeth, a newid hinsawdd. Bydd yn canolbwyntio ar neges gadarnhaol am werth cysylltu â natur, a sut yr ydym ni fel bodau dynol yn rhan fawr ohono.
Camu i mewn i'r stori
Mae'r plot yn dilyn merch ifanc sy'n teimlo'n unig ac wedi'i dadleoli oherwydd amgylchiadau yn ei bywyd, ac mae’n mynd ati i archwilio'r gwlyptiroedd; wrth wneud hynny mae hi'n gwneud darganfyddiadau rhyfeddol – gan gynnwys ôl troed ffosil merch o'r un oedran â hi o filoedd o flynyddoedd yn ôl, yn ogystal â'r garanod a'u nyth.
Pan ddaw’r nyth dan fygythiad oherwydd argyfwng amgylcheddol mae’n rhaid iddi hi – a’r plant ysgol sy’n ymuno â’r ddrama – helpu’r adar i warchod eu cartref, a’u cywion sydd heb eu geni, a hefyd helpu i ddod o hyd i ateb arall i’r heriau a achosir gan yr angen am ddatblygu a seilwaith.
Ar ôl gwylio rhan gyntaf y ddrama, mae’r plant yn cymryd rhan mewn gweithdy creadigol i benderfynu ar y cyd beth ddylai diwedd y stori fod. Maent yn trafod eu syniadau a’u profiadau eu hunain, yn symud elfennau o’r set o gwmpas, ac yn siarad â’r ymarferwyr theatr mewn cymeriad, gan archwilio themâu a chysyniadau’r stori a datblygu eu sgiliau meddwl creadigol a beirniadol.
Ymwneud â materion cyfoes
Trwy ymuno â’r ymarferwyr theatr i greu’r stori a chreu diweddglo, cyflwynir pobl ifanc i hanes lleol a’r amgylchedd. Mae sgiliau creadigol, cyflwyno, rhyngbersonol, hyder a gwytnwch y bobl ifanc yn cael eu datblygu ar yr un pryd.
“Mae digwyddiadau yn y newyddion yn wirioneddol effeithio ar blant ac eto does dim byd y gallan nhw ei wneud amdanyn nhw. Gall hyn wneud iddyn nhw deimlo’n ofnus ac yn ddiymadferth,” meddai arweinydd y prosiect, Dr Tyler Keevil. “Trwy’r gweithdai roeddem eisiau eu grymuso i ymgysylltu â materion, i feddwl drwyddynt a chwarae rhan weithredol ynddynt.”
Mae’r ymateb gan fyfyrwyr ac athrawon wedi bod yn gadarnhaol iawn. “Roedd yn wych, ac yn wirioneddol awthentig,” meddai athro o ysgol a gymerodd ran. “Roedd yn fframio’r materion cyfredol mewn ffordd y gallai disgyblion ei deall, yn enwedig gan ei bod yn ardal leol iddynt.”
Hyd yn hyn mae'r rhaglen wedi ymgysylltu â thros 200 o ddisgyblion o Flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 mewn ysgolion yn ardaloedd Canolbarth Cymru a Chasnewydd.
Creu gwaddol fydd yn parhau
Yn sgîl y perfformiad, mae’r plant yn myfyrio ar eu rôl yn y ddrama ac yn creu a chyflwyno eu hymatebion eu hunain i’r themâu, y cymeriadau, y stori, a’r lleoliad ar ffurf rhyddiaith, posteri a chelf.
Bydd y rhain yn cael eu coladu mewn adnodd ar-lein y bydd disgyblion, athrawon, rhieni a gweithwyr theatr proffesiynol yn gallu cael mynediad ato a’i rannu – gan sicrhau gwaddol cynaliadwy i’r prosiect.
Ein prosiectau cymunedol lleol
Rydym yn defnyddio ein harbenigedd helaeth i gefnogi a chyflawni prosiectau effeithiol dan arweiniad y gymuned ochr yn ochr â myfyrwyr a staff sy’n gwirfoddoli.
Pobl
Dr Tyler Alexander Keevil
- keevilt@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4040