Cyflwyno ffiseg i bawb
Mae ein hymchwil wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gwneud pobl yn fwy ymwybodol o seryddiaeth, ac wedi helpu i drawsnewid, y ffordd yr addysgir y pwnc, a’r ffordd mae’r cyhoedd yn meddwl amdano.
O ran y plentyn ysgol cyffredin, gall ffiseg gael ei ystyried, yn aml, yn bwnc diflas, anodd, ac yn bwnc ar gyfer bechgyn yn unig.
Er bod gan gyflogwyr barch mawr at y sawl sydd wedi astudio’r pwnc, ac er bod y pwnc yn lwybr at ystod o yrfaoedd anhygoel, mae disgyblion yn llai tebygol o astudio ffiseg ar gyfer safon Uwch o gymharu â phynciau gwyddoniaeth eraill.
At hynny, dim ond 20 y cant o’r myfyrwyr sy'n dewis ffiseg Safon Uwch sy'n ferched, o gymharu â 50 y cant ar gyfer cemeg a 55 y cant ar gyfer bioleg.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith fod merched, pan fyddant yn dewis astudio ffiseg, yn tueddu i ennill gwell graddau na bechgyn yn y pwnc.
“Mae gormod o bobl ifanc, yn enwedig merched, yn colli’r cyfle i astudio ffiseg oherwydd eu bod yn teimlo nad yw’r pwnc ar eu cyfer nhw,” meddai'r Athro Haley Gomez, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y brifysgol.
“Gall y dewisiadau a wnânt gael eu dylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau, rhagfarnau a stereoteipiau, sy'n aml yn cael eu hatgyfnerthu gan y bobl o'u cwmpas.
“Mae dod o hyd i ffordd o herio'r stereoteipiau hyn a chwalu rhwystrau drwy ddangos i blant bod ffiseg yn bwnc anhygoel, ac yn hwyl, yn hynod bwysig.”
Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r Athro Gomez a thîm allgymorth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi bod yn cynnal rhaglen helaeth o weithgareddau allgymorth dros y 10 mlynedd diwethaf i helpu i egluro'r pwnc a thrawsnewid y ffordd mae pobl yn ei weld.
O labordai i ystafelloedd dosbarth
Mae ymchwilwyr o'r brifysgol wedi bod yn rhan o rai o ddarganfyddiadau mwyaf arloesol maes seryddiaeth y blynyddoedd diweddar, o gynnig safbwyntiau digynsail ynghylch y Bydysawd, i astudio ffiseg y Glec Fawr.
Maent wedi cynnig ffyrdd newydd o ddeall sut y bu i’r sêr a’r galaethau gael eu ffurfio, a sut y maent wedi esblygu, wedi olrhain llwch cosmig yn ôl i'r Bydysawd cynnar iawn, ac wedi arwain y gwaith o ddatblygu teclynnau hanfodol sydd bellach yn cael eu defnyddio ar ddau o'r telesgopau mwyaf enwog erioed, Herschel a Planck.
A'r ystod eang hon o arbenigedd a phrofiad sydd wedi bod yn sail i'r gweithgareddau allgymorth y mae'r tîm wedi'u datblygu.
“Rydym yn hynod ffodus yma yn y brifysgol o gael nifer o grwpiau ymchwil sydd ar flaen y gad yn eu meysydd,” ychwanega’r Athro Gomez.
“Mae hyn yn eu rhoi mewn sefyllfa wych i gyfleu eu profiadau i gynulleidfaoedd ac i ddatblygu gweithgareddau, cyfleoedd rhyngweithio ac arddangosion sy'n seiliedig ar ddata gwirioneddol.”
Ymhlith y gweithgareddau y maent wedi helpu i'w datblygu mae 'Chromoscope', teclyn rhyngweithiol sy’n ein galluogi i weld yr awyr ar wahanol donfeddi, sy'n cynnwys data a gymerwyd o delesgop Herschel, a 'Messier Bingo' sef gêm ryngweithiol sydd wedi’i chreu i ganfod ac arddangos gwrthrychau y bu i rwydwaith Arsyllfa Las Cumbres, eu dal mewn lluniau.
Y Bydysawd yn y Dosbarth
Cafodd y gweithgareddau hyn eu hintegreiddio i'r prosiect Y Bydysawd yn yr Ystafell Ddosbarth (UitC) a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y prosiect yn targedu ysgolion a oedd yn llai tebygol o ymwneud ag addysg wyddonol, yn benodol, athrawon mewn ardaloedd gwledig, gyda mwy o fyfyrwyr mewn tlodi, a chyrhaeddiad addysgol is.
Yn 2014 a 2015, hyfforddodd prosiect UitC 131 o athrawon ar draws 99 o ysgolion cynradd Cymru, gyda 97 y cant o athrawon yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus wrth addysgu gwyddoniaeth ar ôl yr hyfforddiant, a 94 y cant yn dweud eu bod yn defnyddio adnoddau’r Brifysgol yn eu darpariaeth addysgu o fewn chwe wythnos i'w derbyn.
Drwy’r prosiect UitC hyfforddwyd hefyd 34 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig i fod yn Fodelau Rôl Disglair (SÊR) ac roedd traean ohonynt yn fenywod. Cyflwynodd y myfyrwyr hyn 21 o weithdai mewn ysgolion difreintiedig ac anghysbell ledled Cymru, gan ymgysylltu â 871 o ddisgyblion cynradd.
“Nod Y Bydysawd yn y Dosbarth oedd darparu gwell dulliau addysgu ac adnoddau arloesol i foderneiddio a gwella'r ffordd y caiff pynciau STEM eu haddysgu i blant ifanc,” esbonia'r Athro Gomez.
“Mae cyflwyno modelau rôl cadarnhaol i blant yn hanfodol wrth eu hennyn i ymwneud â’r pwnc. Dyma’r hyn y gwnaethon ni’i ganfod yn ystod y prosiect hwn: wrth ofyn i fyfyrwyr dynnu llun gwyddonydd 'nodweddiadol', yn dilyn gweithdai a gynhaliwyd gan SÊR benywaidd, roedd disgyblion gwrywaidd a benywaidd yn fwy tebygol o dynnu llun gwyddonydd benywaidd.
“Profodd hyn i ni fod ffyrdd o feddwl yn cael eu creu gan brofiadau, ac felly bod cael rhagor o ffisegwyr benywaidd yn addysgu plant, yn rhywbeth a allai greu newid go iawn.”
Newid y cwricwlwm
Mae effaith ein gweithgareddau allgymorth wedi mynd gam ymhellach drwy wirioneddol newid, y ffordd y caiff ffiseg ei addysgu mewn ystafelloedd dosbarth ledled y wlad.
Yn 2014 bu i CBAC, gan gynnwys eu his-fwrdd arholi Eduqas, a ddefnyddir ledled Prydain Fawr, ymgynghori â'r Brifysgol wrth adolygu eu cwricwlwm Ffiseg UG a Safon Uwch.
A hwythau wedi gweld budd ein cyfres eang o adnoddau addysgol sydd ar gael yn rhwydd, sydd yn ymwneud â seryddiaeth aml-donfedd, adolygodd CBAC eu cwricwlwm UG a Safon Uwch i gynnwys y pwnc hwn.
Rhwng 2016 a 2019 roedd 11,724 o ymgeiswyr arholiadau ar draws Prydain Fawr wedi’u haddysgu ynghylch seryddiaeth aml-donfedd o fewn y cwricwlwm UG a Safon Uwch newydd; cefnogwyd hyn drwy gyfrwng Canllaw Athrawon oedd yn cynghori athrawon ar sut i ddefnyddio adnoddau'r brifysgol, megis Chromoscope.
Ers 2014, mae ein hymchwilwyr hefyd wedi defnyddio’r adnoddau seryddiaeth hyn i hyfforddi dros 1,600 o athrawon a myfyrwyr TAR, mewn dros 30 o ddigwyddiadau ledled y DU.
Pennawd ar gyfer y llun: Yr Athro Gomez yn trafod ymagwedd y brifysgol at arloesedd ac ymchwil a sut mae hyn wedi bod yn allweddol o ran gwthio ffiniau technoleg.
Digwydd ar hap
Yn ôl yr Athro Gomez, yr allwedd i ennyn diddordeb plant mewn ffiseg cyn gynted â phosibl yw, eu haddysgu mewn cyd-destun a chanddo adnoddau sy’n hwyl i’w defnyddio, sy’n herio ac yn rhyngweithiol, yng nghwmni athrawon a modelau rôl sy'n angerddol am y pwnc.
Pan fo’r elfennau hyn mewn lle, mae'r siawns o danio diddordeb yn y pwnc yn llawer mwy tebygol.
“Mae'n syndod o ble y gall y sbarc hwn ddod weithiau,” meddai'r Athro Gomez. “Yn ystod fy arholiadau Safon Uwch, athro mathemateg roddodd lyfr i mi am seryddiaeth a dweud y gwir, a dwi'n cofio darllen popeth am dyllau du a meddwl i fi fy hun, does gen i ddim syniad beth yw twll du, ond mae'n swnio'n eithaf cŵl.
“Felly, fe ddarllenais i’r llyfr yma oedd yn esbonio sut mae gan wyddonwyr stori y tu ôl i'r hyn maen nhw'n ei wneud, a phenderfynu ei fod yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud fy hun. Doedd hi ddim yn hir cyn i mi syrthio mewn cariad â'r pwnc yn llwyr.”
Aeth ymlaen i astudio gradd ffiseg israddedig yn y brifysgol, ac ers hynny dyw’r Athro Gomez heb edrych nôl. Mae hi bellach yn arbenigwr sy'n arwain y byd ar lwch sêr – y mater hwnnw sy’n sylfaen i fywyd – a'r prosesau sy'n pennu ble, pryd a sut y mae'n cael ei ffurfio.
Mae hi'n angerddol iawn dros gyfuno ei hymchwil â'i gweithgareddau allgymorth, ac felly pan greodd tîm rhyngwladol yr oedd yr Athro Gomez yn rhan ohono, y ddelwedd 3D gyntaf erioed o weddillion uwchnofa – un o brif ffynonellau llwch cosmig – roedd gweithio gyda Sefydliad Smithsonian yn UDA i greu arddangosfa 3D ar-lein, rhyngweithiol o'r uwchnofa yn seiliedig ar yr ymchwil, yn rhywbeth oedd yn ffitio i’r dim.
Adroddodd Sefydliad Smithsonian fod y model 3D wedi'i arddangos i Seneddwyr a'i ddefnyddio ledled America gan gynnwys mewn ysgolion a llyfrgelloedd, mewn rhaglenni allgymorth STEM i ferched, ac mewn arddangosion ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg.
I'r Athro Gomez, a enillodd MBE yn 2018 am rannu ei hymchwil â chynulleidfaoedd eang, mae ei stori'n enghraifft wych o sut y gall eiliad o ysbrydoliaeth arwain at, benderfyniad sy'n newid bywyd, a'r cyfle i ysbrydoli eraill.
“Yn ystod fy ngradd israddedig, bu i’r Athro anhygoel oedd yn goruchwylio fy ngwaith ddweud - ac rwy’n cofio hyn yn glir 'llwch sêr ydyn ni bob un'. Fe wnaeth hynny wirioneddol aros yn fy nghof, gan fy sbarduno i fod eisiau gwybod rhagor am y pwnc,” meddai.
“Rydw i’n cofio meddwl bod y syniad fod - seren wedi ffrwydro yn sail i’n bodolaeth ni yma ar y Ddaear - yn un mor farddonol. Heb yr un eiliad honno, mae’n bosib na fyddwn i yma heddiw yn helpu i, chwalu mythau ffiseg, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o seryddwyr.”
Allgymorth yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Rydym yn hysbysu i'r cyhoedd am ymchwil wyddonol arloesol, yn darparu adnoddau i athrawon ac yn ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu diddordeb mewn gwyddoniaeth.
Cwrdd â’r tîm
Cysylltiadau allweddol
Yr Athro Haley Gomez
- gomezh@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4058
Dr Chris North
- northce@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0537
Yr Athro Matt Griffin
- matt.griffin@astro.cf.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4203
Aelodau'r tîm
Yr Athro Peter Hargrave
- hargravepc@cardiff.ac.uk
- +44 2920876682
Yr Athro Peter A R Ade
- peter.ade@astro.cf.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4643
Yr Athro Stephen A Eales
- ealessa@cardiff.ac.uk
- +44 (0) 7775 871 691
Dr Mikako Matsuura
- matsuuram@cardiff.ac.uk
- +44 (0)2922 510266
Cyhoeddiadau
- Ade, P. A. R. et al. 2016. Planck 2015 results. XIII. Cosmological parameters. Astronomy and Astrophysics 594 A13. (10.1051/0004-6361/201525830)
- Gomez, H. L. et al. 2012. A cool dust factory in the crab nebula: A Herschel study of the filaments. The Astrophysical Journal 760 (1) 96. (10.1088/0004-637X/760/1/96)
- Griffin, M. J. et al. 2010. The Herschel-SPIRE instrument and its in-flight performance. Astronomy and Astrophysics 518 L3. (10.1051/0004-6361/201014519)
- Truch, M. D. P. et al., 2009. The Balloon-borne Large Aperture Submillimeter Telescope: BLAST. Presented at: 213th Meeting of the American Astronomical Society Long Beach, USABulletin of the American Astronomical Society
- Holland, W. et al., 2006. SCUBA-2: a 10,000-pixel submillimeter camera for the James Clerk Maxwell Telescope. Presented at: Millimeter and Submillimeter Detectors and Instrumentation for Astronomy III Orlando, FL, USA 24 -31 May 2006. Published in: Zmuidzinas, J. et al., Millimeter and Submillimeter Detectors and Instrumentation for Astronomy III (Proceedings). Proceedings of SPIE--the International Society for Optical Engineering Vol. 6275. Bellingham WA: SPIE. , pp.62751E. (10.1117/12.671186)