Ewch i’r prif gynnwys

Roedd eu gwaith yn ganolog i reolau newydd y Llys Gwarchod sy’n gwella cyfranogiad pobl a allai fod heb alluedd mewn achosion. Hefyd canllawiau newydd ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol o ran cefnogi a chynnwys pobl mewn penderfyniadau a hyrwyddo ymgysylltiad a gwelliant mewn diwygiadau deddfwriaethol mawr, i ddiogelu hawliau i ryddid i bobl sy'n derbyn gwasanaethau iechyd a gofal.

Mae Dr Series yn uwch-gymrawd ymchwil ac yn ddarlithydd yn y gyfraith. Mae hefyd wedi meddu ar gymrodoriaeth ymchwil cymdeithas a moeseg Wellcome ers 2017. Bod yn seicolegydd oedd bwriad gwreiddiol Dr Series, ond newidiodd ei huchelgais yn sgîl ei phrofiadau o weithio mewn lleoliadau iechyd a gofal.

“Fy mhrofiadau mewn gofal oedd bod pobl yn byw bywydau cyfyngedig, lle’r oedd eu hawliau pob dydd i wneud penderfyniadau am eu bywydau yn cael eu diystyru’n rheolaidd. Hyd yn oed yn y gwasanaethau gorau y bûm yn gweithio ynddynt, byddai hawliau pobl yn cael eu gwrthod, er enghraifft yr hawl i wario eu harian eu hunain ar yr hyn yr oeddent am ei wario arno. Ac yn y gwasanaethau gwaethaf oll roedd pobl yn cael eu trin yn eithaf llym, gyda lefelau uchel o ataliadau corfforol, a chyfyngiadau ac ataliadau cemegol.”

Tua’r adeg yr oedd Dr Series yn gweithio mewn gofal, daeth deddf newydd i rym o’r enw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae’r Ddeddf yn rheoleiddio p’un a all y 2 filiwn o oedolion yng Nghymru a Lloegr ag anableddau meddwl wneud penderfyniadau personol allweddol drostynt eu hunain ac mae’n grymuso eraill i wneud y penderfyniadau hyn ar eu rhan. O’r rhain, mae 300,000 o bobl yn cael eu hamddifadu o ryddid gan drefniadau gofal mewn ysbytai neu gartrefi gofal.

“Clywais am y Ddeddf oherwydd fy mod ar fin sathru ar hawliau defnyddiwr gwasanaeth gofal. Roeddwn yn gydlynydd gofal, sy’n golygu eich bod yn gweithio yn y swyddfa yn dylunio’r rotas, yn delio â chwynion ac yn delio ag argyfyngau. Datgelodd y fenyw hon symptom i ofalwr a oedd yn dangos yn gryf bod ganddi rywbeth difrifol iawn o’i le, hyd yn oed yn angheuol efallai. Doedd hi ddim eisiau gweld meddyg am ei bod hi’n teimlo nad oedd ganddi ddim byd gwerth byw ar ei gyfer. Ac roeddwn i’n meddwl, mae’n rhaid i mi alw’r meddyg - allwn ni ddim gadael iddi farw.”

Gwyddai Dr Series fod angen iddi ymgynghori â gweithiwr cymdeithasol y fenyw yn gyntaf: “Fe ffoniais ei gweithiwr cymdeithasol a ddywedodd wrthyf na allwn alw am feddyg pan oedd hi wedi gofyn i ni beidio, gan fod gan y fenyw 'alluedd'. Dyna'r tro cyntaf i mi glywed am y cysyniad hwn er ei fod wedi bod yn y gyfraith ers blynyddoedd.”

“Wnes i ddim galw’r meddyg. Fe wnaethon ni ddelio ag ef mewn ffordd wahanol. Newidiwyd y rota fel bod ei hoff ofalwyr yn mynd i mewn bob dydd. Fe wnaethon nhw geisio gwella ei bywyd fel ei bod am fyw ac yn y pen draw fe gytunodd i gael triniaeth,” meddai.

Y Ddeddf Galluedd Meddyliol

Daeth y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn obsesiwn i Dr Series, fel mae wedi cyfaddef ei hun, a hynny am ei bod yn credu y byddai’n gwella pethau i bobl mewn gofal.

“Fodd bynnag, ni allwn ddeall sut y gallai’r bobl yr oeddwn wedi gweithio gyda nhw a oedd wedi’u hatal, er enghraifft nad oeddent yn cyfathrebu ar lafar, dynnu sylw’r system gyfiawnder at eu sefyllfa. Nid oedd yn ymddangos bod unrhyw oruchwyliaeth na dulliau hygyrch o herio pethau.”

Newidiodd ei chynlluniau a phenderfynodd wneud PhD a oedd yn archwilio hawliau pobl mewn gofal. Cymerodd ychydig o amser i ddod o hyd i’r efrydiaeth gywir, ond yn y pen draw cafodd le i wneud PhD yn y gyfraith am y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

“Dechreuais ddadelfennu’r Ddeddf a sylweddoli, os datrys y problemau hyn oedd y nod, nad hon oedd y system orau o reidrwydd i wneud hynny.”

Dechreuodd ymddiddori mewn cynllun trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid (DoLs) sy'n darparu gwell craffu annibynnol a rhwystrau a gwrthbwysau i bobl sy’n cael eu 'hamddifadu o’u rhyddid' mewn ysbytai a chartrefi gofal.

“I’r bobl roeddwn i wedi gweithio gyda nhw oedd wedi’u cyfyngu’n drwm a’u hatal yn drwm, nid oedd angen galw cyfreithiwr mewn perthynas â’r trefniadau diogelu. Mae’r trefniadau diogelu yn golygu y bydd gweithwyr proffesiynol arbenigol annibynnol yn dod i weld eu sefyllfa, a bydd ganddynt fynediad i gynrychiolaeth ac eiriolaeth.”

Ynghyd â’r Athro Phil Fennell a Dr Julie Doughty, gyda chyllid gan Sefydliad Nuffield, trodd ei sylw at y Llys Gwarchod hefyd, sy’n dyfarnu ar gwestiynau o alluedd a lles pennaf.

“Un o’r problemau mawr a ganfuwyd oedd nad oedd y person ei hun yn unman i’w weld. Pan ddechreuais yr ymchwil hon, roeddent bron byth yn dod i’r llys i gwrdd â’r Barnwr, er bod dyfarniadau llys Ewropeaidd yn dweud ei bod yn bwysig iawn. Wrth wneud yr ymchwil, fe lwyddon ni i berswadio’r llys i newid y rheolau fel bod yn rhaid i’r beirniaid o leiaf ystyried cwrdd â’r person, a dechreuodd hynny ei normaleiddio’n fwy.”

Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

Dechreuodd ei hymchwil ynghylch y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid ennill momentwm. Cysylltwyd â hi gan fenyw a oedd yn gwybod am rywun a oedd wedi’i gloi mewn cartref gofal ofnadwy ac roedd ei mam – a oedd yn ei 80au – yn ceisio ei thynnu allan gan ddefnyddio’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid. Rhoddodd Dr Series wybodaeth iddynt am yr hyn y gallent ei wneud a’u helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr iddynt. Meddai, “I ddiolch i mi, aeth â mi allan am ginio, ac roeddem yn sôn am ba mor ofnadwy oedd y system a throdd ataf a dweud, “Wel, beth rydych chi’n ei wneud am y peth?” Dyna oedd y trobwynt go iawn i mi, a phenderfynais fy mod yn mynd i wneud rhywbeth yn ei gylch.

Lluniodd Dr Series ddogfen un dudalen – 10 Signs of Trouble with the Deprivation of Liberty Safeguards. Fe’i rhoddodd ar-lein, a’i hanfon at grwpiau ymgyrchu, elusennau, ASau, aelodau o Dŷ’r Arglwyddi. Cyfarfu ag ymgyrchwyr a ysgrifennodd at y Cydbwyllgor Hawliau Dynol gan awgrymu eu bod yn cynnal ymchwiliad. Ni wnaethant, ond penderfynodd Seneddwr pryderus arall sefydlu ymchwiliad Tŷ’r Arglwyddi i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Cyfeiriodd yr ymchwiliad at ymchwil Dr Series a’r Athro Phil Fennell. O ran trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, argymhellodd y dylai’r llywodraeth dirymu’r gyfraith a dechrau eto. Gofynnodd y llywodraeth i Gomisiwn y Gyfraith adolygu’r gyfraith, a thynnodd ar ganfyddiadau’r ymchwil ynghylch problemau gyda’r Llys Gwarchod yn ei bapur ymgynghori. Daeth i’r casgliad fod y system bresennol yn methu â chyflawni hawliau apelio effeithiol, gan arwain at ei hargymhellion i ddiwygio’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Yna, cynigiodd Comisiwn y Gyfraith fframwaith newydd, y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Fodd bynnag, pan addaswyd y rhain gan lywodraeth y DU a’u cynnwys yn y Bil Galluedd Meddyliol (Diwygio) [HL] 2018, lleihaodd yr amddiffyniad i unigolion yr oedd Comisiwn y Gyfraith wedi'u hargymell.

“Roedd yn drychinebus iawn; roedd y Bil yn cynnig y gallai cartref gofal eich cadw heb unrhyw oruchwyliaeth bron a’ch rhwystro rhag cael eiriolwr os nad oedd angen un arnoch yn eu barn hwy. Sut gallwch chi eu herio os ydych chi yn y cartref a dydych chi ddim eisiau bod yno, ac maen nhw wedi penderfynu na ddylech chi allu eu herio?” meddai Dr Series.

Dull deublyg

Dechreuodd Dr Series ddefnyddio dull gweithredu â dwy elfen. Y gyntaf oedd gwybodaeth gyhoeddus. Defnyddiodd ei blog i dynnu sylw pobl at y Bil. Bu hefyd yn gweithio gyda sefydliadau fel CHANGE ac Inclusion London i gynhyrchu gwybodaeth hygyrch am y bil. “Buom yn gweithio gyda 39 Essex Chambers ac elusen o’r enw CHANGE sy’n cynhyrchu gwybodaeth hygyrch i lunio dogfen a oedd yn dweud mai dyma mae’r llywodraeth yn ceisio’i wneud. Yna aeth sefydliad arall – Inclusion London – allan i gwrdd â phobl ag anableddau dysgu, cwrdd â gofalwyr a defnyddio ein dogfen a gofyn, beth yw eich barn am hyn? Ysgrifennwyd adroddiad ar sail eu hadborth ac roedd hynny’n arf ymgyrchu gwych. Roedd yn cyfleu’r neges i’r cyhoedd am yr hyn oedd yn digwydd. Roedd yn cynnwys grŵp o bobl nad ydynt bron byth yn cyfrannu at gyfraith a pholisi galluedd meddyliol sy’n effeithio ar eu bywydau.”

Ei hail elfen oedd cysylltu â phobl yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Lluniodd gyfres o sesiynau briffio ymchwil am y Bil, a oedd yn tynnu sylw at effeithiau negyddol posibl gan gynnwys:

  • byddai perchnogion cartrefi gofal wedi gallu penderfynu a oedd angen eiriolwr ar rywun i’w helpu i herio ei leoliad neu unrhyw gyfyngiadau, neu a oedd yn cael mynediad i un
  • ni fyddai gan bobl dan gadwad a’u teuluoedd hawl statudol i gael gwybodaeth am eu hawliau
  • gan gynnwys bod y person yn berygl i eraill gan y byddai’r rhesymau dros gadw cleifion yn broblemus gan na ddylai deddfwriaeth galluedd meddyliol ymestyn i ddiogelu’r cyhoedd

Defnyddiwyd y 'sesiynau briffio gwych' hyn, fel y disgrifir yn nadlau Tŷ’r Arglwyddi am y Ddeddf Diwygio Galluedd Meddyliol, i ddeall a chraffu ar y Bil cymhleth a’i ddiwygio o fewn amserlen dynn. Fe’u defnyddiwyd a’u hatgynhyrchu hefyd a’u dyfynnu gan y Cydbwyllgor Hawliau Dynol.

Roedd y Bil terfynol yn cynnwys newidiadau a oedd yn adlewyrchu’r ymchwil yn uniongyrchol:

  • ni fydd darparwyr gofal yn gallu rhoi feto ar fynediad i eiriolaeth annibynnol i bersonau dan gadwad
  • mae gan bobl dan gadwad a’u teuluoedd yr hawl i gael gwybodaeth hygyrch am y Trefniadau Diogelu a’u hawliau
  • ni fydd y Trefniadau Diogelu yn estyn awdurdod i gadw o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol i faes diogelu’r cyhoedd
  • darpariaethau estynedig ar gyfer adolygiadau annibynnol
  • dilëwyd diffiniad y llywodraeth o 'amddifadu o ryddid' o’r bil am ei fod yn gwrthdaro ag awdurdodau cyfreithiol yn y wlad hon a thramor

Roedd Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019 yn disodli’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid (DoLS) gyda’r Trefniadau Diogelu Rhyddid (LPS). Disgwylir i’r rhain ddod i rym yn ystod y blynyddoedd nesaf. Maent yn effeithio ar o leiaf 300,000 o bobl yn y DU, gan gynnwys tua 180,000 mewn cartrefi gofal.

Meddai Dr Series, “Mae dal bil gennym sy’n amherffaith, ond gwnaethom rai newidiadau a oedd yn ei wneud yn llai ofnadwy. Yn bwysig iawn, helpon ni lawer o bobl i fagu sgiliau a gwybodaeth yn y maes cyfreithiol hwn na fyddent wedi’i wneud fel arall, a gallan nhw barhau â’r eiriolaeth honno.”

Gwneud penderfyniadau â chymorth

Roedd elfen arall o’r gwaith yn ymwneud â gwneud penderfyniadau â chymorth. Roedd Dr Series yn gwrthgyferbynnu’r dull o wneud penderfyniadau a gefnogir o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol â dulliau sy’n gysylltiedig â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD). Nododd gyfyngiadau o ran parch y Ddeddf at 'ddymuniadau a theimladau' y person a chydnabyddiaeth o gefnogwyr dewisol a dibynadwy unigolyn. O’i gymharu ag awdurdodaethau eraill sydd wedi addasu eu cyfreithiau i adlewyrchu’r CRPD, nid yw’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn galluogi’r person i enwebu person dynodedig i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, ac mae’r safon 'lles pennaf' yn rhoi blaenoriaeth is i 'ddymuniadau a theimladau' y person.

“Mae gennym y ddwy weledigaeth gystadleuol hyn o sut rydym i fod i reoli sefyllfaoedd lle nad oes gan bobl alluedd. Ac un weledigaeth yw gweledigaeth y ddeddf galluedd meddyliol sy’n eich hyfforddi i basio asesiad o allu ac yna gwrando arnoch ond efallai nid yn gwneud yr hyn rydych chi ei eisiau. Ac mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn dweud, na, 'sut rydych chi am gael eich cefnogi?' ac 'mae angen i ni barchu eich dymuniadau a’ch teimladau'.”

Roedd gwaith Dr Series yn y maes hwn yn ganolog i ganllawiau newydd National Institute for Health and Care Excellence (NICE) i wella’r broses o wneud penderfyniadau â chymorth mewn ymarfer clinigol. Rhaid i ganllawiau NICE gael eu dilyn gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Rhoddodd Dr Series dystiolaeth arbenigol – fel un o bum tyst arbenigol – i NICE, gan ddadlau dros bwyslais cryfach ar sut mae’r person yn dymuno cael ei gefnogi a pharchu eu dymuniadau. Cyhoeddwyd y canllawiau hyn yn 2018. Er nad yw’n gyfraith, fe’u hystyrir yn ganllawiau safon aur mewn lleoliadau iechyd a gofal. Fodd bynnag, mae Dr Series yn gobeithio y bydd yr argymhellion hyn ynghylch cymorth a chynhwysiant hefyd yn ei gynnwys yn y cod ymarfer newydd pan ymgynghorir ar hynny.

Cadw gofal cymdeithasol

Mae Dr Series bellach yn canolbwyntio ei gwaith ar yr hyn y mae’n ei alw’n 'gadw gofal cymdeithasol'. Bydd ei monograff ar y pwnc hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022. “Mae llawer o wledydd eraill y Gorllewin sydd bellach hefyd yn rheoleiddio trefniadau byw gofal cymunedol fel 'amddifadedd o ryddid', a rhai gwledydd eraill fel Awstralia a Ffrainc sy’n eithaf cyndyn i gydnabod y gall pobl gael eu hamddifadu o’u rhyddid mewn cartrefi gofal yn y gymuned. Mae ymgyrchwyr a phobl eraill sy’n ymwneud â hawliau dynol yn dweud bod gwir angen i chi gydnabod y gall cartref gofal fod yn fan cadw mewn gwirionedd ac mae angen i chi ei reoleiddio yn unol â hynny. Cadw gofal cymdeithasol yw fy nherm am hyn.

Er y gall cadw gofal cymdeithasol ar yr wyneb ymddangos yn llai 'difrifol' na chadw iechyd meddwl, mae ei linellau amser fel arfer yn llawer hirach – weithiau misoedd neu flynyddoedd olaf person, neu weithiau gydol oes.

“Gall effeithio ar eu gallu i wneud cartref, i ffurfio neu gynnal perthnasoedd, eu hymdeimlad cyfan o’r hunan.' Rwy’n dweud, yn gyntaf oll, fod angen inni gydnabod hyn a rhoi enw iddo, ac rwyf innau’n ei alw’n gadw gofal cymdeithasol. Ac wedyn mae angen i ni feddwl beth yw’r problemau gwirioneddol rydyn ni’n ceisio delio â nhw yma a beth yw’r ymateb cyfreithiol gorau?”

Cam nesaf ei hymchwil fydd edrych ar yr hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad pan gaiff gofal ei reoleiddio fel 'amddifadedd o ryddid' a’r hyn sy’n digwydd mewn gwladwriaethau eraill sy’n rheoleiddio cadw gofal cymdeithasol.

Graffiti yn ninas Berlin yn seiliedig ar araith gan Eleanor Roosevelt ar hawliau dynol - 'Ble mae hawliau dynol yn dechrau... mewn mannau bach yn agos at adref'.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau pwysig

Cyhoeddiadau

Rhagor o wybodaeth

The Small Places - blog Dr Series

Deprivation of liberty in the shadows of the institution - darllenwch fwy am waith Dr Series

Inclusion London - cefnogi cynhwysiant ar gyfer pobl fyddar ac anabl

CHANGE - sefydliad hawliau dynol dan arweiniad pobl anabl

Partneriaid