Ewch i’r prif gynnwys

“Symudais i America gyda $300 yn fy mhoced, ac roedd yn rhaid i fi ddechrau o’r newydd am yr eildro yn fy mywyd. Un o’r rhesymau mawr ces i lwyddiant yn hynny o beth oedd oherwydd fy mod i’n gwybod bod gen i wybodaeth a chefndir technegol oddi wrth Brifysgol Caerdydd.”

Ar ôl gorffen ei radd meistr yn 2018, symudodd Sagnik i’r Unol Daleithiau i ddilyn gyrfa yn y cyfryngau. Gyda dim ond $300 yn ei boced a dim cysylltiadau, cychwynnodd ar ei fywyd newydd – ac mae’n diolch i Brifysgol Caerdydd am roi’r hyder a’r wybodaeth iddo allu gwneud hynny.

Ymunodd â’r Daily Caller yn Washington DC fel Uwch Gynhyrchydd, lle enillodd wobrau am ei waith yn dogfennu gwaith anghyfreithlon gan gartelau mewn perthynas â mariwana. Cafodd ei gyfweliad gyda Llywodraethwr Florida Ron DeSantis sylw yn y Daily Mail, y papur newydd Saesneg ei iaith gyda’r nifer fwyaf o ddarllenwyr yn y byd.

“Yr hyn sy’n gwneud Prifysgol Caerdydd yn arbennig yw’r ffaith ei fod yn ganolbwynt i bobl amrywiol sy’n gwneud pethau amrywiol. Yn y pen draw, mae hyn yn gwneud y brifysgol yn lle gwell bob dydd.”

“Mae’n swnio fel ystrydeb, ond roeddwn i’n awyddus iawn i ddysgu gan bobl ddawnus. Athrawon Prifysgol Caerdydd oedd y rhain, a staff y JOMEC yn gyffredinol, a’r ffaith bod yr ysgol hon yn rhoi cymaint o bwyslais ar ymchwil, fyddai’n rhoi’r holl wybodaeth oedd angen arnaf i cyn camu i’r byd go iawn.”

Yn 2022 daeth yn Bennaeth y Cyfryngau Cymdeithasol ac Uwch Olygydd yn FOX Media lle mae’n datblygu sioeau newyddion a phodlediadau yn ymwneud â chwaraeon, diwylliant poblogaidd, a gwleidyddiaeth.

Mae’n credu mai’r hyn sy’n gwneud Caerdydd yn arbennig yw ei bod yn denu myfyrwyr o bob cwr o’r byd ac yn rhoi’r cyfleoedd iddyn nhw roi eu stamp ar bethau. Yn ôl Sagnik, does dim byd mwy pwerus na chael criw o bobl o gwmpas bwrdd nad ydyn nhw’n edrych yn debyg i’w gilydd, nad ydyn nhw’n siarad yr un iaith nac yn rhannu’r un profiadau, gan wneud y bwrdd hwnnw’n fwy ac yn well.

Mae’n anrhydedd i ni fod yn rhan o’r daith hon ac mae lle i Sagnik wrth ein bwrdd bob amser.

Darllenwch fwy o straeon fel stori Sagnik

Mae ein graddedigion yn unedig yn eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Trwy harneisio ein sgiliau, ein gwybodaeth a'n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, ysgogi arloesedd, ac adeiladu byd gwell am genedlaethau i ddod.

Newid meddyliau drwy adrodd straeon

Cenhadaeth eithaf Diksha yw grymuso sylfaenwyr ac entrepreneuriaid i fynegi eu straeon, cysylltu â'u cynulleidfaoedd, ac adeiladu brandiau personol parhaus.

Gwella iechyd meddwl i bawb

Yn angerddol am iechyd meddwl pobl ifanc, mae Georgina eisiau rhoi'r profiad a'r wybodaeth a enillodd ar waith yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.