Ewch i’r prif gynnwys
   

Roedd Byron eisiau bod yn rhan o sut mae'r byd yn newid trwy ddatblygiadau technolegol a chyfrannu at rywbeth sy'n mynd i lywio ein dyfodol.

Ei nod yw gwneud interniaeth cyn dod o hyd i swydd lle gall ei sgiliau helpu i wneud gwahaniaeth – ond yn gyntaf, bydd yn astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Meddalwedd gyda ni ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid yn unig mae Byron am wthio ffiniau technoleg – mae am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl hefyd.

Dysgodd yn ystod ei amser yng Nghaerdydd pan fyddwn ni’n cydweithio, rydyn ni’n llawer cryfach. Mae’n credu mai cydweithio sy’n gyrru newid cadarnhaol gwirioneddol – ac roedd wrth ei fodd gyda faint o gyfleoedd ystyrlon a gafodd i gydweithio yn ystod ei radd. Yn ôl Byron, mae Caerdydd wedi bod yn fwy na lle i astudio; mae wedi bod yn lle i dyfu. Rydyn ni’n edrych ymlaen i weld Byron yn tyfu mwy fyth wrth iddo barhau â’i addysg gyda ni cyn mentro allan i’r byd i wneud gwahaniaeth.

   

   
   

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod technoleg yn gweithio i bawb

Beth yw’r peth gorau am astudio Cyfrifiadureg yng Nghaerdydd?

Y peth gorau yw’r bobl, yn sicr. Rydych chi’n cwrdd â chymaint o unigolion o wahanol rannau o’r wlad sy’n rhannu eich diddordebau. Mae’r staff addysgu’n wych hefyd, ac maen nhw wir yn eich cefnogi chi yn eich astudiaethau. Mae’n anhygoel cael cysylltu gyda phobl o’r un anian a theimlo’n rhan o gymuned fwy.

Alli di sôn wrthon ni am brosiect cydweithredol gweithiaist ti arno yn ystod dy astudiaethau?

Wrth gwrs! Un o’r prosiectau mawr wnaethon ni oedd aseiniad grŵp dros flwyddyn lle roedden ni’n datblygu meddalwedd ar gyfer cleient. Roedd yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd, gosod terfynau amser, a chydweithio’n agos gyda fy nhîm. Roedd yn brofiad hynod werthfawr mewn sefyllfa byd go iawn, ac fe ddysgodd lawer i fi am waith tîm a chyfathrebu.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?

Dw i’n bwriadu gwneud gradd Meistr mewn Peirianneg Meddalwedd yng Nghaerdydd. Wedi hynny, dw i’n gobeithio cael interniaeth ac yn y pen draw swydd lle galla i wneud gwahaniaeth go iawn. Hoffwn i weithio ar brosiectau sydd nid yn unig yn gwthio ffiniau technoleg, ond sydd hefyd yn cael effaith ystyrlon ar fywydau pobl.

Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?

Dw i wir yn credu gyda’n gilydd, gallwn newid y byd er gwell. Mae technoleg ym mhobman, yn cael ei defnyddio bob dydd, ac mae ganddi’r pŵer i newid y byd er daioni. Mae fy amser yng Nghaerdydd wedi dangos i fi cymaint cryfach ydyn ni pan fyddwn ni’n cydweithio. Boed hynny’n brosiect grŵp neu ar raddfa fwy, mae’n amlwg y gallwn, drwy gydweithio, yrru newid cadarnhaol a gwirioneddol.

   

Darllenwch fwy o straeon fel stori Byron

Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.

Cyflawni pethau mawr

Mae'r entrepreneuriaid uchelgeisiol hyn yn credu bod busnes moesegol yn un o'r prif ysgogwyr newid yn y byd. Mae'r ddau yn gobeithio defnyddio rheolaeth adnoddau effeithiol i wneud i fusnes weithio ar gyfer byd gwell.

Chwalu'r rhwystrau i addysg

Mae Lindi'n credu y gallwn gyda'n gilydd greu system addysg well i bobl ifanc, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau, chwalu'r rhwystrau i addysg a gwneud pynciau fel mathemateg yn hygyrch i bawb.