Gwneud mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod
Mae Erin bob amser wedi cael ei swyno gan sut mae mathemateg yn sail i bopeth o'n cwmpas, o dechnoleg i benderfyniadau bob dydd.
Ymunodd Erin â ni ym Mhrifysgol Caerdydd i astudio Mathemateg am ei bod wrth ei bodd ag egni'r lle wrth ymweld am Ddiwrnod Agored.
Ar ôl cael lle ar gynllun graddedig gyda Boeing, mae Erin yn gobeithio rhoi popeth mae hi wedi’i ddysgu ym Mhrifysgol Caerdydd ar waith.
Ei nod yw gwneud mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod, drwy symud y canfyddiad bod y pwnc yn rhy heriol neu frawychus, i un sy’n canolbwyntio ar sut gall mathemateg ddatrys problemau go iawn a chael ei gymhwyso ar draws ystod eang o ddisgyblaethau a diddordebau.
Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod
Beth wnaeth dy ysbrydoli i astudio Mathemateg?
Dw i bob amser wedi ymddiddori yn y ffaith bod mathemateg yn sail i bopeth sydd o’n cwmpas ni, o dechnoleg i benderfyniadau bob dydd. Er enghraifft, un o’r modiwlau astudion ni y tymor yma oedd mathemateg deallusrwydd artiffisial – mae pob datblygiad ym maes technoleg yn dibynnu yn ei hanfod ar fathemateg. Mae’n heriol, ond mae hefyd yn cynnig posibiliadau diddiwedd.
Alli di sôn am brosiect cofiadwy gweithiaist ti arno?
Fe wnaethon ni brosiect ar theori gemau lle gallen ni ddewis unrhyw broblem mewn bywyd a cheisio ei datrys gan ddefnyddio mathemateg. Fe weithiodd ein tîm ar ddatrysiad i ennill The Hunger Games — gan edrych i weld a ddylech chi fynd i mewn a cheisio cael yr offer yn y cornucopia, neu a ddylech chi ddianc, yn seiliedig ar ba Ardal roeddech chi’n dod ohoni. Roedd yn archwiliad mor ddiddorol ar draws disgyblaethau cwbl wahanol, mathemateg a llenyddiaeth Saesneg, ac yn bwysicaf oll, roedd yn rhywbeth dewison ni ganolbwyntio arno fel grŵp. Roedd yn anhygoel cael y rhyddid yna i benderfynu i ble i fynd â’n dysgu, a chydweithio i ganfod rhywbeth oedd yn uno ein diddordebau unigol.
Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?
Dw i ar gynllun graddedig gyda Boeing ym Mryste, ar y tîm gwasanaethau digidol a dadansoddeg. Mae’n gynllun cylchdro chwe mis am ddwy flynedd, ac mae fy nghylchdro cyntaf mewn pensaernïaeth systemau.
Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?
Dw i’n credu gyda’n gilydd, gallwn wneud mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod. Mae’n bwnc sy’n aml yn cael ei ystyried yn heriol neu’n frawychus, ond drwy ddangos sut mae’n datrys problemau go iawn ac yn gallu cael eu gymhwyso ar draws pob math o wahanol ddisgyblaethau a diddordebau, gallwn newid hynny. Gyda’n gilydd, gallwn agor cyfleoedd i bawb, waeth beth yw eu rhywedd.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Erin
Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.