Gwella iechyd meddwl i bawb
Yn angerddol am iechyd meddwl pobl ifanc, mae Georgina eisiau rhoi'r profiad a'r wybodaeth y mae hi wedi'u hennill yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd ar waith i gael effaith ar iechyd meddwl a gwella iechyd meddwl i bawb.
Mae’r nyrs iechyd meddwl Georgina yn gobeithio chwarae ei rhan yn y jig-so sy’n ffurfio’r GIG, gan gydweithio i gefnogi’r cyhoedd.
Mae’n angerddol am iechyd meddwl pobl ifanc, ac mae hi am roi’r profiad a’r wybodaeth mae hi wedi’i hennill yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd ar waith i gael effaith ar wella iechyd meddwl pawb.
Mae hi’n credu bod ei chyfnod yn y brifysgol gyda ni wedi ei helpu i fagu gwydnwch a pharatoi i fod yn rhan o’r gweithlu, gan gynnig digon o gyfleoedd iddi ddatblygu ei gyrfa hefyd. Mae’n gynrychiolydd academaidd, yn enwebai am wobr Nursing Times, ac yn nyrs angerddol a medrus, ac mae Georgi eisoes wedi cyflawni mwy na’r hyn roedd hi erioed yn credu oedd yn bosib. Rydyn ni’n credu mai dim ond y dechrau yw hyn, ac mae ei gofal a’i brwdfrydedd dros helpu eraill yn golygu y bydd Georgina yn aelod rhagorol o’r GIG.
Gyda’n gilydd, gallwn wella iechyd meddwl i bawb
Beth wnaeth dy ysbrydoli di i astudio nyrsio iechyd meddwl?
Dw i wedi profi fy mrwydrau iechyd meddwl fy hun. Roedd yn anodd iawn, ond des i drwyddi gyda chymorth nyrsys cefnogol a charedig iawn. Nhw wnaeth fy ysbrydoli i barhau i helpu pobl eraill. Dw i wir eisiau rhoi’n hyn sydd wedi’i roi i fi yn ôl, a dw i’n gobeithio, pan fydda i’n nyrs, y galla i wneud gwahaniaeth i fywyd o leiaf un claf.
Pam mae iechyd meddwl yn bwysig?
Am flynyddoedd lawer, doedd iechyd meddwl ddim yn rhywbeth roedd pobl yn siarad amdano. Roedd pobl yn dioddef â gorbryder ac iselder, ond doedd neb yn siarad am y peth, neu roedd pobl yn cael eu rhoi mewn gofal preswyl. Doedd y cymorth cywir ddim allan yna, ond rydyn ni’n dod i gyfnod lle rydyn ni’n gweithio mwy gyda phobl yn y gymuned, ac yn symud tuag at ffordd fwy cyfannol o edrych ar iechyd meddwl. Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n parhau â’r gwaith hwnnw. Gall iechyd meddwl effeithio ar fywyd rhywun mewn cymaint o ffyrdd, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n rhoi’r offer i bobl allu goresgyn hynny, a ffynnu, a chael bywyd o ansawdd.
Sonia ychydig wrthon ni am sut rwyt ti wedi cydweithio gyda phobl eraill yng Nghaerdydd.
Dw i’n rhan o garfan y gwanwyn, sy’n garfan eithaf bach, ond rydyn ni’n grŵp clòs iawn. Rydyn ni’n grŵp o bobl o’r un anian sydd wir yn cefnogi ei gilydd, ac rydyn ni’n gefn i’n gilydd drwy’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau. Astudiais i radd ‘arferol’ cyn mynd i nyrsio, a phan ddychwelais i astudio nyrsio, sylweddolais i’n gyflym ei bod yn llawer anoddach na gradd arferol. Mae hi mor bwysig fel nyrsys bod gennyn ni’r system cymorth yna, oherwydd rydych chi’n profi blinder tosturi. Dw i’n gweithio’n llawn amser ar leoliad, yn jyglo theori, ac yn gweithio’n rhan-amser ar y banc fel cynorthwyydd gofal iechyd hefyd. Mae yna lawer o ofynion ar eich amser a’ch sylw, ac mae’n hanfodol bod rhywun yno gyda chi i’ch helpu chi drwyddo.
Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?
Pan fydda i’n graddio ac yn cymhwyso, dw i’n gobeithio gweithio i’r GIG. Bydden i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r jig-so, gan ddod at ein gilydd i gefnogi’r cyhoedd. Hoffwn i fynd ymlaen i gefnogi pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl, ac yn y pen draw gwneud fy ngradd Meistr yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sut wyt ti’n teimlo am y syniad ‘gyda’n gilydd, gallwn’ wneud gwahaniaeth?
Dw i’n credu gyda’n gilydd, gallwn gael effaith go iawn a gwella iechyd meddwl i bawb. Mae Prifysgol Caerdydd, a’r gymuned sydd gennyn ni, yn helpu i hyfforddi myfyrwyr nyrsio mwy gwydn, ac yn eu paratoi ar gyfer y gweithlu. Mae hyn nid yn unig yn helpu mwy o nyrsys i aros yn y proffesiwn, ond gobeithio ei fod hefyd yn annog mwy o bobl i hyfforddi fel nyrsys. Ac mae hynny’n golygu gwasanaeth iechyd cryfach, i helpu i gefnogi’r bobl sydd ei angen fwyaf.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Georgina
Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.