Helpu myfyrwyr ôl-raddedig i ffynnu
Wedi gyrfa lwyddiannus yn beiriannydd sifil, roedd Mushtaq Karimjee, cyn-fyfyriwr BSc a raddiodd ym 1971, eisiau rhoi rhywbeth yn ei ôl. Ynghyd â’i wraig Vilas, sefydlodd Ysgoloriaeth Fanaka sy’n golygu ffyniant neu lwyddiant. Diben yr ysgoloriaeth yw cefnogi myfyrwyr o’i famwlad, Tansania, i gwblhau gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Rhoddodd Prifysgol Caerdydd yrfa imi – agorodd lawer o ddrysau imi ac rwy wedi bod yn ffodus iawn. Ond roeddwn i bob amser yn poeni am beidio â mynd yn ôl i Tansania. “Arhosais i yn y DU, ond mae’r Ysgoloriaeth Fanaka yn ffordd imi roi rhywbeth yn ei ôl i Tansania.”
“Roeddwn i eisiau i bobl ifanc a thalentog o Dansania elwa ar addysg o Brifysgol Caerdydd fel yn fy achos i, a mynd â’r sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd adref er budd y cymunedau yno.”
Enillodd Godluck Bugeraha (MSc 2023) Ysgoloriaeth Fanaka a fu’n ariannu’n rhannol ei feistr Optometreg Glinigol. Roedd eisiau parhau â'i addysg er mwyn arbenigo ym maes gofal llygaid pediatrig.
“Roeddwn i eisiau bod yn optometrydd gan y gallai olygu arbed golwg rhywun. Penderfynais i arbenigo mewn golwg plant oherwydd gartrefyn Tanzania, mae yna blant sydd â phroblemau’r golwg, ond mae cynifer o ymarferwyr gofal llygaid sydd ddim yn deall eu cyflwr nac yn gwybod sut i'w trin.
Cyn hynny, roedd Godluck wedi bwriadu dod i astudio yng Nghaerdydd flwyddyn ynghynt, ond roedd anawsterau ariannol yn golygu nad oedd hyn yn bosibl. “Roeddwn i mor hapus i dderbyn Ysgoloriaeth Fanaka. Lleihaodd yr ysgoloriaeth y baich ariannol arna i a fy nheulu – fyddwn i ddim wedi gallu dod i astudio hebddi.”
Yn ogystal â dychwelyd adref i weithio, mae Godluck yn gobeithio dysgu a rhannu ei wybodaeth â’r genhedlaeth nesaf er mwyn i Dansania cael rhagor o optometryddion cymwys. Rwy mor ddiolchgar i Mr a Mrs Karimjee. Diolch iddyn nhw, galla i helpu pobl gartref i adfer eu golwg a'u bywydau. Mae ysgoloriaethau fel hyn mor ddefnyddiol i bobl fel fi a byddan nhw’n cael effaith gadarnhaol bob yn dipyn yn y dyfodol. Efallai ymhen ychydig flynyddoedd, galla i fod yn debyg i deulu’r Karimjee, sef helpu rhywun arall a oedd yn fy sefyllfa i.”
Helpu myfyrwyr Caerdydd i wireddu eu llawn botensial
Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond hwyrach y bydd heriau ariannol yn atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag manteisio ar yr addysg a'r cyfleoedd y maen nhw’n eu haeddu. Diolch i roddion hael, mae myfyrwyr di-rif wedi cael y sicrwydd ariannol i ddechrau neu barhau â’u hastudiaethau a datblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt nhw ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol.
Drwy gyllido Ysgoloriaeth neu fwrsariaeth, neu wneud cyfraniad tuag at gefnogi myfyrwyr yng Nghaerdydd, rydych chi'n rhoi'r sylfaen i'r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Caerdydd allu ffynnu. Dysgwch ragor am sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth i fyfyrwyr yng Nghaerdydd.
Rhagor o wybodaeth