Helpu plant i ffynnu yn yr ystafell ddosbarth
Gweithio gyda phlant ac addysgwyr i helpu disgyblion i gael y gorau o'u hamser yn yr ysgol.
Wedi'u cyfareddu gan sut mae meddyliau plant yn datblygu a sut mae plant yn gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas, mae seicolegwyr datblygiadol o'n Hysgol Seicoleg yn gweithio gyda phlant ac athrawon i ystyried cwestiynau allweddol heb eu hateb am ddatblygiad plant a sut y gallai gwyddonwyr ymchwil eu hateb orau.
Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â phlant, eu hathrawon, a'u seicolegwyr ymchwil a seicolegwyr addysg i benderfynu ar flaenoriaethau ymchwil a fydd yn helpu plant i ffynnu yn eu hystafelloedd dosbarth a chael y profiad gorau o'u hamser yn yr ysgol.
Un o nodau allweddol y prosiect yw nid yn unig sefydlu meysydd o ddiddordeb cyffredin ar gyfer ymchwil ond cynnal darnau â ffocws o wyddoniaeth atyniadol sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag amcanion dysgu'r cwricwlwm Cymreig newydd.
Ymdrechu i gynhyrchu newid ystyrlon
Er mwyn cynhyrchu newid ystyrlon, dylai ymchwil adlewyrchu anghenion rhanddeiliaid perthnasol ond yn draddodiadol mae ymchwilwyr yn unig wedi gosod eu blaenoriaethau ymchwil. Ceisiodd y prosiect hwn newid hyn yn systematig drwy nodi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil y gwyddorau datblygiadol ochr yn ochr â gweithwyr addysg proffesiynol megis athrawon, seicolegwyr addysg a phlant (5-11 oed) o gymunedau a gynrychiolir lai’n draddodiadol yn ne Cymru.
Mae ymgysylltu â buddiolwyr allweddol wrth lunio ymchwil yn creu effaith ystyrlon, sy'n canolbwyntio ar anghenion.
Gweithio gyda disgyblion ac addysgwyr
Gwasanaethodd fideo sy'n dangos themâu ymchwil allweddol presennol yn y Ganolfan Gwyddoniaeth Ddatblygiadol Ddynol fel mewnbwn ar gyfer arolwg mawr o flaenoriaethau ymchwil gan dros 200 o athrawon ysgol gynradd a seicolegwyr addysgol.
O'r arolwg cychwynnol hwn, arweiniodd sawl maes o bwys i randdeiliaid y tîm i ddatblygu dau weithdy addysg ar wyddoniaeth ddatblygiadol ar gyfer plant oedran cynradd yn cynnwys gweithgareddau a oedd yn adlewyrchu pynciau ymchwil a nodwyd yn yr arolwg. Roedd y gweithdai yn edrych ar brofiadau synhwyraidd plant o fewn yr ystafell ddosbarth a hiwmor a chwarae. Roedd pob gweithdy yn galluogi'r ymchwilwyr i ddeall safbwyntiau plant ar y pynciau ymchwil, yn ogystal â rhoi profiad dysgu cadarnhaol i'r plant.
Yna, bwydodd y gweithdai addysg hyn i weithdy cyd-gynhyrchu yn Techniquest gydag ymchwilwyr, athrawon a phlant i gytuno ar restr derfynol o gwestiynau ymchwil gwyddoniaeth ddatblygiadol.
"Fe wnes i fwynhau bod yn rhan o'r prosiect hwn yn fawr gan ei fod wedi fy helpu i ddeall sut y gall amgylcheddau yn y dosbarth effeithio ar ddatblygiad plant," adroddodd un o'r athrawon sy'n cymryd rhan yn y prosiect. "Mae'n hanfodol bod plant yn cael 'llais' i fynegi eu meddyliau a'u teimladau ar sut y dylai ystafell ddosbarth edrych a theimlo - yn enwedig gan eu bod yn treulio 6 awr y dydd ynddo. Rhoddodd y gweithdai well goleuni i mi ddeall beth sy'n bwysig i blant o ran profiadau synhwyraidd yn yr ystafell ddosbarth"
Edrych tua'r dyfodol
Bydd y blaenoriaethau a rennir a nodwyd gan y prosiect yn helpu i lunio cyfeiriad ymchwil y Ganolfan ac yn sail ar gyfer gweithio gydag ysgolion i wneud ymchwil a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ystyrlon.
Bydd canlyniadau'r project hwn yn helpu i roi hwb i allu'r Ganolfan i gynhyrchu prosiectau ymchwil wedi'u cyd-gynhyrchu sy'n canolbwyntio ar feysydd o angen. Ar ddiwedd y prosiect, bydd y Ganolfan yn cynyddu ceisiadau grant wedi'u cyd-gynhyrchu yn raddol dan arweiniad ein hymchwilwyr.
Un o brif allbynnau'r project yw hyfforddi ymchwilwyr, yn enwedig rhai ar ddechrau eu gyrfa, mewn cyd-gynhyrchu. Yn bwysig iawn, gellir efelychu'r model ar gyfer cyd-gynhyrchu a ddatblygwyd fel rhan o'r prosiect hwn gyda phartneriaid newydd a gallwn ymgorffori ymchwilwyr newydd ar ddechrau eu gyrfa sy’n ymuno â'r Ganolfan o fewn y rhwydwaith hwn.
Bydd canfyddiadau'r prosiect hwn hefyd yn arwain at astudiaethau pellach i sut mae gwybodaeth synhwyraidd yn effeithio ar y profiadau dysgu a sut mae hiwmor a chwarae yn gallu gwella profiadau ysgol plentyn.
Ein prosiectau cymunedol lleol
Rydym yn defnyddio ein harbenigedd helaeth i gefnogi a chyflawni prosiectau effeithiol dan arweiniad y gymuned ochr yn ochr â myfyrwyr a staff sy’n gwirfoddoli.
Pobl
Arweinydd y prosiect
Dr Sarah Gerson
- gersons@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0480
Tîm y prosiect
Dr Amy Paine
- paineal@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5766
Dr Kate Langley
- langleyk@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6259
Dr Catherine Jones
- jonescr10@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 0684
Yr Athro Katherine Shelton
- sheltonkh1@cardiff.ac.uk
- +44(0)29 2087 6093