Cael y gorau o'i gilydd
Mae Adam yn gobeithio bwrw ymlaen â phwysigrwydd gwrando ar eraill, cyfuno syniadau a gweithio'n galed i ddod o hyd i'r ateb cywir yn ei yrfa yn y dyfodol.
Cafodd Adam ei ddenu i ddinas fywiog Caerdydd diolch i enw da’r brifysgol – a’i darpariaeth criced! Drwy gydol ei radd Rheoli Busnes, mae e wedi gallu rheoli ei waith academaidd gyda chwaraeon, ac mae’n diolch i’r Ysgol Busnes am eu cefnogaeth yn eu helpu i fwynhau’r ddau beth heb aberthu’r naill na’r llall.
Mae e wedi profi gwaith tîm a chydweithio amhrisiadwy, ar y cae ac oddi arno, ac mae’n dweud bod yr ymgysylltu a’r rhyngweithio gyda phobl eraill wedi bod yn allweddol i’w brofiad dysgu.
Mae Adam yn gobeithio mynd â phwysigrwydd gwrando ar eraill gydag e, gan gyfuno syniadau a gwaith caled i ganfod yr ateb cywir i’w yrfa yn y dyfodol. Rydyn ni’n gobeithio bod y sylfeini cadarn mae e wedi’u gosod ym Mhrifysgol Caerdydd yn ei helpu i wneud yn union hynny.
Gyda’n gilydd, gallwn ymlafnio i sicrhau bod pawb yn llwyddo
Beth yw’r peth gorau am astudio Rheoli Busnes yng Nghaerdydd?
Y peth gorau yw’r cydweithio a’r ymgysylltu. Er gwaethaf heriau Covid, sicrhaodd yr Ysgol Busnes bod gennyn ni fynediad at ddysgu wyneb yn wyneb, seminarau a gwaith grŵp. Mae’r rhyngweithio gydag eraill wedi bod yn allweddol i fy mhrofiad dysgu.
Alli di sôn mwy wrthon ni am dy brofiad yn chwarae criced yng Nghaerdydd?
Wrth gwrs! Dw i’n chwarae i dîm Prifysgol Caerdydd a thîm UCCE, sy’n cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Mae wedi bod yn brofiad yn anhygoel, cael chwarae criced da a theimlo’r cyfeillgarwch yna. Mae criced wedi dysgu pwysigrwydd gweithio mewn tîm i fi, sy’n clymu â’r hyn dw i wedi’i ddysgu ar fy nghwrs Rheoli Busnes.
Alli di rannu prosiect cofiadwy rwyt ti wedi gweithio arno?
Yn ddiweddar, fe wnaethon ni brosiect ar gyfer modiwl Busnes ac Entrepreneuriaeth lle roedd rhaid i ni greu cynllun busnes yn arddull “The Apprentice” fel grŵp. Yna, fe gyflwynon ni’r cynnig yn arddull “Dragon’s Den” i banel o feirniaid er mwyn ceisio eu cael nhw i fuddsoddi yn ein busnes. Roedd yn brofiad dysgu anhygoel, yn enwedig o ran y gwaith tîm a chymhwyso’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu i’r byd go iawn.
Beth oedd y peth mwyaf ddysgaist ti o hynny?
Dw i wedi dysgu nad ydy fy syniadau i bob amser yn gywir. Dydy’r ffaith bod rhywbeth yn gwneud synnwyr yn eich meddwl ddim yn golygu mai dyna’r ateb gorau. Mae’n bwysig gwrando ar bobl eraill a chyfuno syniadau i feddwl am rywbeth sy’n gweithio i bawb. Bydda i’n mynd â’r sgìl hon gyda fi i fy ngyrfa yn y dyfodol.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Adam
Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.