Ewch i’r prif gynnwys

Yn gynnar yn 2024, pan ddechreuodd sibrydion ffug ledaenu am Dywysoges Cymru a chyn iddi gyhoeddi ei bod yn camu’n ôl o’i dyletswyddau cyhoeddus oherwydd ei diagnosis o ganser, roedd arbenigwyr yn Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth (SCII) Prifysgol Caerdydd yn cadw llygad barcud ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymhlith y dilyw o ddyfalu, buan iawn y nododd yr Athro Martin Innes a’i dîm rywbeth mwy sinistr - ymgyrch drefnus, wedi’i chefnogi gan wladwriaeth dramor i gynyddu effaith nifer y straeon hynny ar-lein. Aeth y datgeliadau ymlaen i greu penawdau ledled y byd – gyda sylw gan y BBC, New York Times a mwy na 350 o safleoedd newyddion eraill yn rhyngwladol.

Ym mis Hydref 2024, cafodd chwe asiantaeth ac unigolyn o Rwsia a oedd yn rhan o’r ymgyrch hon sancsiynau gan lywodraeth y DU. Dywedodd y Swyddfa Dramor fod y grŵp Doppelganger, fel y’i gelwir, yn rhan o “rwydwaith ar-lein maleisus helaeth” gyda’r bwriad o achosi aflonyddwch a dryswch, a hynny drwy ddosbarthu newyddion ffug a thanseilio democratiaeth.

Dywedodd yr Athro Innes: “Y diddordeb rhyngwladol enfawr yn y stori hon oedd y fagwrfa ddelfrydol ar gyfer ymgyrch o’r fath. Dull unigryw Doppelganger yw defnyddio nifer fawr iawn o gyfrifon y cyfryngau cymdeithasol y mae modd eu gwaredu’n rhwydd i foddi’r gofod wybodaeth ynghylch straeon penodol. Gall hyn fod yn arbennig o ddylanwadol pan mae modd iddyn nhw gynyddu effaith naratifau sy’n ymddangos yn llai amlwg yn wleidyddol.

“A dyma’n union beth wnaethon nhw wrth geisio manteisio ar y sibrydion a’r damcaniaethau cynllwyn am Dywysoges Cymru. Wrth ailadrodd y straeon hyn a rhoi tân oddi tanynt, roedden nhw’n gallu gwasgaru eu negeseuon gwrth-Wcreinaidd, tra hefyd yn ymosod ar sefydliad Prydeinig allweddol – y Teulu Brenhinol.

“Yr hyn rydyn ni wedi’i weld dros gyfnod estynedig o amser yw’r sawl ffordd y mae’r technegau sy’n cael eu harloesi gan actorion ar ran gwladwriaethau tramor yn cael eu normaleiddio ar y cyfryngau cymdeithasol.”

Bygythiad sy’n cynyddu ac yn esblygu

“O ran twyllwybodaeth nid yw’r risgiau erioed wedi bod yn uwch,” meddai’r Athro Innes. “A’n rôl ni yn academyddion yw helpu pobl i ddeall hynny.”

Ac yntau’n cyd-gyfarwyddwr SCIII, mae’r Athro Innes wedi bod yn arwain ar astudiaethau pwysig i faes twyllwybodaeth ers degawd. Mae’r grŵp ymchwil Twyllwybodaeth, Cyfathrebu Strategol a Ffynhonnell Agored (DISCOS) bellach wedi gweithio ar – neu mewn mwy na –

40 o wledydd, gan gyfuno dulliau’r gwyddorau cymdeithasol, ymddygiadol, data a chyfrifiadureg, gyda chefnogaeth llywodraethau, cynghorau cyllido ymchwil a sefydliadau cymdeithas sifil. Mae maint y gwaith yn adlewyrchu'r pryder cynyddol am effeithiau cronnol twyllwybodaeth ar gymdeithasau democrataidd. Ac ar ôl blwyddyn o wrthdaro mawr ac etholiadau pwysig, mae nifer yr achosion o dwyllwybodaeth ymhell o fod yn lleihau.

“Twyllwybodaeth yw gwybodaeth sydd wedi’i rhannu â’r byd gyda’r bwriad uniongyrchol o greu diffyg ymddiriedaeth ac anhrefn,” yn ôl yr Athro Innes.

“Nid yw twyllwybodaeth yn beth newydd – ond y cyflymder a’r graddau y mae’n gallu lledaenu erbyn hyn o ganlyniad i dechnoleg yw’r hyn sydd wedi ei gwneud yn un o heriau mwyaf enbyd y cyfnod modern. Yn wir, ar ddechrau 2024 amlygodd Fforwm Economaidd y Byd dwyllwybodaeth fel y risg fwyaf i ffyniant a diogelwch byd-eang yn y tymor byr. Mae digwyddiadau mawr y byd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi creu’r amgylchiadau delfrydol ar gyfer twyllwybodaeth. Rydyn ni wedi gweld Brexit, COVID-19, y rhyfel yn Wcráin ymhlith eraill, yn cael eu defnyddio yn gyfrwng i dwyllwybodaeth ddod i mewn i’r hyn rydyn ni ei weld ar ein cyfryngau cymdeithasol.

“Yn y cyfnod cyn etholiad diweddar yr Unol Daleithiau, fe welon ni lawer o wahanol honiadau yn dod i’r amlwg. Mewn amgylchedd lle mae safbwyntiau mor wrthgyferbyniol yn bodoli, mae’n rhoi cyfle i naratifau ffug – gan actorion domestig a thramor – gael eu plannu a’u rhannu’n haws. Ac yn Rwsia, rydyn ni'n gweld nad yw hyn yn dod yn dechneg a gaiff ei defnyddio yn y cysgodion gan ei chymuned gudd-wybodaeth yn unig; mae'n dod yn ddiwydiant proffesiynol cynyddol fasnachol, trefnus ac uchel ei barch. Dim ond yn fwy soffistigedig y bydd y dulliau hyn yn dod wrth i dechnoleg ddatblygu yn gyflymach ac yn gyflymach.”

Chwyldro gwybodaeth

Felly, pryd y dechreuodd twyllwybodaeth ar-lein ddod mor bwerus? Roedd gwaith yr Athro Innes wedi canolbwyntio i ddechrau ar blismona yn y DU – gan gynnwys astudiaethau manwl arloesol o sut mae ymchwilwyr yr heddlu yn trefnu ac yn cynnal eu gwaith.

Ond wrth i rôl technoleg a’r cyfryngau cymdeithasol ddod yn fwy canolog i ymchwiliadau’r heddlu, yn eu tro, mae hefyd wedi dod yn rhan annatod o waith yr Athro Innes a’i dîm.

Mae’n esbonio: “Yn dilyn llofruddiaeth Lee Rigby, roedd llawer o waith yn cael ei gynnal i ddeall rôl y cyfryngau torfol a’r cyfryngau cymdeithasol wrth lunio ymatebion a dealltwriaeth y cyhoedd yn ystod ac ar ôl digwyddiadau terfysgol. Roedd yn amlwg bod newidiadau yn y ffordd yr oedd pobl yn cael gwybodaeth yn dylanwadu ar y modd yr oedd terfysgaeth yn cael ei chyflawni, yr hyn a oedd wedyn yn cael ei adrodd gan y wasg a darlledwyr a sut roedd y cyhoedd yn derbyn yr wybodaeth honno. Felly roedd angen i strategaethau cyfathrebu'r heddlu adlewyrchu hynny er mwyn aros yn gyfredol â'r newidiadau.

“Yn y blynyddoedd ers cynnal y gwaith hwnnw, mae defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol wedi trawsnewid yn llwyr sut rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth. Bu’n rhaid i’n gwaith esblygu’n gyflym i ymateb i hynny. Mae'r bygythiad wedi tyfu ac wedi dod yn fwy cymhleth – mae technoleg bellach yn allweddol i bob agwedd ar ein bywydau. Mae’n arf canolog i ni – ond wrth i’r hinsawdd geowleidyddol ddod yn fwy anwadal, rydyn ni wedi gweld y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu herwgipio at ddibenion mwy sinistr.”

Deall y darlun cyflawn

Mae Tara Flores yn rhan o'r tîm ymchwil sy'n edrych trwy lawer iawn o negeseuon ar-lein yn ddyddiol – ar draws ystod o blatfformau, gan chwilio am yr arwyddion a’r olion a all nodi enghreifftiau o dwyllwybodaeth. Gyda chefndir mewn cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu strategol, trodd at astudio twyllwybodaeth yn dilyn y pandemig.

“I mi, efallai bod dod i’r rôl hon gyda chefndir cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau ychydig yn wahanol i’r llwybr academaidd arferol ac mae’n rhoi persbectif gwahanol i mi. Efallai y bydda i’n gweld rhywbeth ac yn meddwl amdano o ran pa gynulleidfa y mae’n ceisio ei chyrraedd, neu gael barn ar sut y gallai'r naratif hwnnw ddatblygu.

“Ar y dechrau roedd ychydig fel pos i mi mewn rhai ffyrdd,” mae’n ychwanegu. “Mae pawb yn dweud ei fod yn digwydd - ond roeddwn i eisiau ymchwilio'n ddyfnach i weld beth mae hynny'n ei olygu ac i ddeall yn well effaith twyllwybodaeth. Wrth ei hastudio’n drylwyr mae’n rhoi’r cyfle i ni addysgu rhanddeiliaid pwysig megis llywodraethau, llunwyr polisïau a chwmnïau technoleg.

“Mae’r cyffro yn dod o weld proffiliau’r cyfryngau cymdeithasol hyn rydych chi’n meddwl nad ydyn nhw’n ymddangos yn hollol iawn, ond dydych chi ddim yn deall pam. Pan fyddwch chi'n ymchwilio’n fanylach ac yn dechrau dod o hyd i gysylltiadau a phatrymau sy'n cyd-fynd â’r darlun ehangach, mae yna wefr – darparu’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth goll honno sydd heb ei chyhoeddi na'i gweld o’r blaen.”

Ond mae Tara yn cyfaddef mai dim ond y darn cyntaf o'r pos yw dod o hyd i dwyllwybodaeth. “Mae cyflymder technoleg yn newid ar gyfradd anhygoel ac mae llawer o wahanol bartïon yn manteisio ar hynny,” meddai. “Mae angen llawer o dimau gwahanol fel ein un ni i gadw golwg ar y datblygiadau hynny. Os nad oes unrhyw un yn gwylio, yna mae gan yr ochr arall fantais lwyr. Ond yr hyn sy'n digwydd nesaf yw'r cwestiwn pwysicach ac anoddach i’w ateb. Sut ydych chi'n amddiffyn democratiaeth ac yn cyfathrebu'n effeithiol i bobl sydd yn amlwg yn ddrwgdybus o’r cynnwys maen nhw’n ei weld, ac wedi’u drysu ganddo? Mae’n her enfawr – ac yn un sydd angen polisïau effeithiol i’w llywio.”

Sbardunau emosiynol

Mae ymchwilwyr yn gwneud mwy na dim ond defnyddio technegau adweithiol i ddeall y dulliau a gaiff eu defnyddio i ledaenu twyllwybodaeth. Maen nhw’n gweithio i ddeall y ffactorau seicolegol sy'n ein gwneud ni i gyd yn fwy agored i naratifau ffug.

Cynorthwyydd ymchwil yw Bella Orpen sy’n gweithio ar ddata arolygon i ddeall y dylanwadau seicolegol sy’n ysgogi pobl i gredu straeon ffug ar-lein a’u rhannu. “Mae yna lawer o dystiolaeth i awgrymu bod pobl yn tueddu i feddwl eu bod yn gallu adnabod twyllwybodaeth ac mai pobl eraill sy'n ei chredu, ac nid y nhw,” meddai. “Ond mewn gwirionedd, mae ein hastudiaethau’n dangos bod pobl yn aml yn goramcangyfrif eu gallu i adnabod newyddion ffug, yn enwedig pan gaiff rhai sbardunau penodol eu defnyddio.”

Ar gyfer un astudiaeth, dyfeisiodd y tîm stori newyddion ffug a'i dangos i 8,630 o bobl i asesu eu hymatebion. Roedd y stori ffug am ‘ddolffin-ysbïwr’ yn mynd i gyrchfan wyliau boblogaidd, yn fwriadol debyg i adroddiadau blaenorol yn y cyfryngau ar ddefnyddio dolffiniaid a morfilod ar gyfer gweithgareddau ysbïo gan lywodraethau.

Dangosodd y canlyniadau fod mwy na hanner (53%) o’r rhai a oedd yn meddwl eu bod yn adnabod y stori newyddion yn credu’r cynnwys i ryw raddau.

Roedd y data'n dangos bod effaith emosiynol yn sbardun allweddol o ran ymgysylltu, gyda 78% o'r rhai a oedd yn teimlo'n 'ofnus iawn', 70% o'r rhai a oedd wedi’u 'synnu’n fawr' ac 84% a oedd yn 'wedi’u cyffroi’n fawr' yn dweud y bydden nhw wedi rhyngweithio â'r stori mewn rhyw ffordd.

Yn ôl Bella: “Mae cydnabod ac ailadrodd yn ffordd bwerus o gael pobl i gredu twyllwybodaeth, ac mae hyn yn creu problemau ar gyfer rhai dulliau amddiffynnol, megis gwirio ffeithiau, sydd fel arfer yn golygu ailadrodd yr honiad ffug. Mae yna hefyd rai ffactorau emosiynol a fydd yn sbarduno pobl i rannu cynnwys. Os ydyn nhw'n ymateb mewn ffordd seicolegol, hyd yn oed un cadarnhaol, i'r hyn maen nhw'n ei weld, maen nhw'n fwy tebygol o gynyddu ei heffaith mewn rhyw ffordd – naill ai trwy ei rhannu neu drwy roi sylwadau ar y stori."

Yr Athro Martin Innes

Mae’r Athro Innes yn esbonio difrifoldeb twyllwybodaeth a’i heffaith gynyddol ar ddigwyddiadau byd-eang.

Diwydiant sy’n tyfu

Nid yw academyddion yn y Gorllewin ar eu pennau eu hunain yn eu hymgais i ddeall twyllwybodaeth. Yn Rwsia, mae technolegwyr gwleidyddol hefyd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth o effaith ac achosion twyllwybodaeth. Mae'r sector hwn yn dod yn fwyfwy uchel ei barch - gyda'r ddealltwriaeth yn cael ei defnyddio i lywio strategaeth geo-wleidyddol Rwsia.

Dangosodd dadansoddiad gan yr Athro Innes a’i dîm, mewn cynhadledd ar-lein a gafodd ei chynnal y llynedd, fod technolegwyr gwleidyddol yn cynllunio ar gyfer gweithrediadau dylanwadu, gyda’r bwriad o effeithio ar yr etholiadau a oedd ar ddod yn yr Unol Daleithiau. Eu bwriad oedd manteisio ar bryderon pobl ynghylch mewnfudo, gwleidyddiaeth sy’n ymwneud â hunaniaeth a phynciau cynhennus am ddiwylliant.

Roedden nhw hefyd wedi llunio proffiliau manwl o unigolion amlwg yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau roedden nhw’n rhagweld y byddan nhw’n chwarae rhan flaenllaw yn y ras arlywyddol.

Roedd un technolegydd gwleidyddol hyd yn oed wedi ymweld â Llundain yn rhan o’i ymchwil i brosesau etholiadol Prydain yn ystod pleidlais Brexit yn 2016. Mae cyhoeddiad Yevgeny Minchenko, “How elections are won in the USA, Great Britain and the European Union: analysis of political technologies,” yn cynnwys deunyddiau arolwg a gafodd gan wleidyddion, staff ymgyrchu, ymgynghorwyr gwleidyddol, a newyddiadurwyr o’r DU.

Mae dadansoddiad y tîm o ddata ffynhonnell agored yn dangos bod Minchenko ym Mayfair yn “arsylwi ar bobl a oedd yn cymryd rhan” ar ddiwrnod y bleidlais Brexit hanesyddol yn 2016. Bu’n rhannu lluniau o orsafoedd pleidleisio gyda’i ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn Rwsia.

Dywedodd yr Athro Innes: “Ers nifer o flynyddoedd, mae ein sgyrsiau am y materion hyn wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i gyfrifon ffug ar y cyfryngau cymdeithasol, a'r naratifau a’r delweddau twyllodrus maen nhw’n eu lledaenu. Mae’r dystiolaeth hon yn ychwanegu elfen newydd, gan dynnu ein sylw i ddangos pwy sy’n gyfrifol am ddylunio a defnyddio’r ymgyrchoedd hyn yn y lle cyntaf.

“Mewn sawl ffordd, mae technolegwyr geo-wleidyddol yn adlewyrchu'r technegau a'r dulliau a gaiff eu defnyddio gan ddadansoddwyr 'deallusrwydd ffynhonnell agored' y Gorllewin, er eu bod yn cael eu gweld o safbwynt Rwsiaidd. Mae lefel yr adnoddau a’r hyfforddiant rydyn ni’n gweld Rwsia yn ei thaflu i’r maes hwn yn arwydd o’r pwyslais cynyddol maen nhw’n ei roi ar dechnoleg wleidyddol ddigidol yn arf strategol er mwyn dylanwadu’n geo-wleidyddol.”

“Does dim amheuaeth bod rhyfeloedd gwybodaeth yn datblygu’n gyflym – ac mae angen i ni arfogi ein hunain gyda’r wybodaeth fel bod modd i ni ddod o hyd i strategaethau effeithiol i fynd i’r afael â’r mater.”

Picture of Martin Innes

Yr Athro Martin Innes

Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch

Telephone
+44 29208 75307
Email
InnesM@caerdydd.ac.uk

Ein ymchwil

Darllenwch mwy am ein ymchwil ar dwyllwybodaeth.

Babita Sharma Digwyddiadau

Y ddarlledwraig Babita Sharma yn trafod effaith twyllwybodaeth

Mater sy'n peri “bygythiad difrifol i ddemocratiaeth” sy’n cael sylw yn nigwyddiad diweddaraf Sgyrsiau Caerdydd

man looking at phone Newyddion

Mae technolegwyr gwleidyddol Rwsia - sy’n arbenigwyr mewn “rhyfela gwybodaeth” - yn paratoi ar gyfer yr etholiad yn yr Unol Daleithiau

Mae adroddiad yn disgrifio’r “haen ganol” hon o weithwyr proffesiynol sy’n bodoli rhwng strategaeth y Kremlin a’r gwaith o weithredu yn seiliedig ar dwyllwybodaeth.

Delwedd 3D o'r ddaear. Ymchwil

Mae ymgyrchoedd camwybodaeth o dan y chwyddwydr mewn prosiect ymchwil ar y cyd rhwng y DU ac UDA

Mae Tîm y DU dan arweiniad academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd

Adroddiadau

Putin’s ‘Little Grey Men’: Russia’s political technologists and their methods

Report from Security, Crime and Intelligence Innovation Institute

How a Kremlin-Linked Influence Operation is Systematically Manipulating Western Media to Construct & Communicate Disinformation

Minutes to Months: A rapid evidence assessment of the impact of media and social media during and after terror events

How a Kremlin-Linked Influence Operation is Systematically Manipulating Western Media to Construct & Communicate Disinformation

Minutes to Months: A rapid evidence assessment of the impact of media and social media during and after terror events