Creu byd mwy cysylltiedig
Mae Isabella yn gobeithio defnyddio ei sgiliau ieithyddol i bontio bylchau, creu dealltwriaeth a chwarae ei rhan wrth greu byd mwy cysylltiedig ac empathig.
Roedd Isabella wedi’i hysbrydoli erioed gan bobl sy’n gallu siarad ag unrhyw un, ac mae’n dweud bod iaith yn rhan fawr o hynny.
Drwy gariad at ieithoedd a diddordeb mewn hanes, cafodd Isabella ei chymell i astudio Almaeneg a Sbaeneg gyda ni ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae hi ar fin dechrau profiad teithio i ymdrwytho yn y diwylliannau mae hi wedi bod yn eu hastudio ar ôl graddio.
Y bobl y cyfarfu â nhw ar y daith sydd wedi gwneud ei phrofiad ym Mhrifysgol Caerdydd mor arbennig – mae’r gymuned mae hi wedi’i chreu yma wedi gwneud y profiad yn fythgofiadwy. Mewn ysbryd cymunedol, mae Isabella’n credu y gallwn droi iaith yn gysylltiad ac adeiladu cymunedau mwy.
Mae’n gobeithio defnyddio ei sgiliau ieithyddol i bontio bylchau, creu dealltwriaeth, a chwarae ei rhan mewn creu byd mwy cysylltiedig ac empathig.
Gyda’n gilydd, gallwn greu byd sy’n cyfathrebu â’i hun yn well
Beth wnaeth dy ysbrydoli i astudio Almaeneg a Sbaeneg?
Roedd fy llwybr i astudio Almaeneg a Sbaeneg yn gymharol annisgwyl — roedd hi yng nghanol pandemig Covid, a chefais fy hun yn dewis y llwybr hwn bron â bod ar hap. Ond yn y pen draw, dyna oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed. Dw i wastad wedi caru ieithoedd, ond doeddwn i erioed wedi astudio Almaeneg o’r blaen, ac roedd diddordeb mawr gen i yn hanes yr Almaen. Rhoddodd hyn gyfle i fi edrych yn ddyfnach ar rywbeth dw i’n angerddol amdano. Dw i wedi fy ysbrydoli’n fawr gan bobl sy’n gallu siarad ag unrhyw un, a dw i’n credu bod iaith yn rhan fawr o hynny. Nid yn unig mae dysgu ieithoedd wedi ehangu fy ngorwelion, ond mae hefyd wedi fy nghysylltu i â phobl a diwylliannau anhygoel.
Sonia wrthon ni am foment arbennig.
Un o’r prosiectau mwyaf cofiadwy gweithiais i arno oedd fy modiwl Busnes Sbaeneg, lle roedd rhaid i ni greu a chynnig syniad busnes yn gyfan gwbl yn Sbaeneg. Roedd gweithio mewn dosbarthiadau bach yn golygu bod cydweithio’n allweddol — roedden ni i gyd yn cefnogi ein gilydd, yn enwedig yn ystod y tymor arholiadau. Dw i’n cofio pawb yn dod at ei gilydd i rannu syniadau a gwthio ei gilydd, a bu hyn yn help i ni gyd lwyddo.
Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?
Fy ngham nesaf yw teithio ac ymdrwytho yn y diwylliannau dw i wedi bod yn eu hastudio. Hoffwn weld y byd trwy lens yr ieithoedd hyn a pharhau i ddysgu – Ffrangeg sydd nesaf ar fy rhestr! Wedi hynny, dw i ddim yn siŵr i ble bydd y byd yn mynd â fi, ond dw i’n gwybod fy mod i am barhau i gysylltu â phobl a diwylliannau, ble bynnag y bydda i’n mynd.
Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?
Dw i’n credu gyda’n gilydd y gallwn ni droi iaith yn gysylltiad ac adeiladu cymunedau mwy. Mae gan ieithoedd y grym i ddod â phobl yn agosach, i bontio bylchau, ac i greu dealltwriaeth. Drwy ddysgu a rhannu ieithoedd, gallwn greu byd mwy cysylltiedig ac empathig.
Darllenwch fwy o straeon fel stori Isabella
Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.