Ewch i’r prif gynnwys

“Roedd dod yma am y tro cyntaf yn gam i’r gwyll. A bod yn onest, rwy’n teimlo ‘mod i’n berson hyderus heddiw yn bennaf oherwydd ‘mod i wedi astudio yng Nghaerdydd.”

Yn ôl Diksha, hyd yn oed mewn byd lle mae deallusrwydd artiffisial yn chwarae rhan fwyfwy amlwg, does dim byd mwy pwerus na phobl yn adrodd straeon – ac yn y bôn, pobl yn ceisio’r gwirionedd ac adrodd eu straeon a fydd wir yn ein helpu i newid meddylfryd eraill a gwneud cynnydd.

A hithau’n sylfaenydd gwefan newyddiaduraeth sy’n cael ei phweru gan bobl AkkarBakkar.com a’r asiantaeth frandio YOSO Media, mae Dishka wir yn arbenigwraig yn ei maes, ac mae hi wedi llywio strategaethau cynnwys arloesol a thechnegau adrodd straeon pwerus, gan gyrraedd miliynau yn fyd-eang.

Mae Diksha hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr ac yn ddiweddar mae wedi dod yn Gadeirydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr India Prifysgol Caerdydd, gan gyd-arwain ein Cangen yn New Delhi. Mae hi’n dweud mai Prifysgol Caerdydd sy’n gyfrifol am ei haddysgu i geisio’r gwir, a chofio mai’r gwir yw sylfaen newyddiaduraeth bob amser.

Cenhadaeth eithaf Diksha yw rhoi’r gallu i sylfaenwyr ac entrepreneuriaid fynegi eu straeon, cysylltu â’u cynulleidfaoedd, ac adeiladu brandiau personol sy’n para.

Darllenwch fwy o straeon fel stori Diksha

Mae ein graddedigion yn unedig yn eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Trwy harneisio ein sgiliau, ein gwybodaeth a'n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, ysgogi arloesedd, ac adeiladu byd gwell am genedlaethau i ddod.

Baratoi’r genhedlaeth nesaf ar gyfer y byd go iawn

Mae Sagnik yn credu mai'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn arbennig yw ei bod yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn rhoi'r cyfleoedd iddyn nhw roi eu stamp ar bethau.

Gwella iechyd meddwl i bawb

Yn angerddol am iechyd meddwl pobl ifanc, mae Georgina eisiau rhoi'r profiad a'r wybodaeth a enillodd ar waith yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.