Ewch i’r prif gynnwys

Mae Lindi wedi graddio mewn Mathemateg yn ddiweddar, ac mae’n bwriadu cynilo arian a theithio’r byd cyn setlo ar lwybr gyrfa.

Mae’n diolch i Brifysgol Caerdydd am drawsnewid y ffordd mae’n meddwl am gydweithio, gan ddeall ei fod yn fwy na gweithio mewn tîm – mae’n agwedd hefyd, ac mae Lindi’n ddiolchgar am y cysylltiadau mae hi wedi’u gwneud a’r gymuned adeiladodd hi wrth fyw ac astudio ym mhrifddinas Cymru.

Mae Lindi’n credu gyda’n gilydd, gallwn greu system addysg well i bobl ifanc, gan wneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau, chwalu’r rhwystrau rhag addysg, a gwneud pynciau fel mathemateg yn hygyrch i bawb.

Gyda’n gilydd, gallwn chwalu’r rhwystrau rhag addysg

Beth wnaeth dy ysbrydoli i astudio Mathemateg?

Do’n i ddim wastad yn dda mewn mathemateg. Allwn i ddim gwneud TGAU mathemateg i achub fy mywyd – ro’n i’n gorfod aros ar ôl ysgol o hyd. Ond roedd fy athrawes mathemateg yn yr ysgol uwchradd yn wych, ac fe wnaeth hi baratoi’r ffordd i fi. Fe wnaeth ei hangerdd a’r ffordd roedd hi’n gwneud mathemateg yn berthnasol i fi newid fy safbwynt yn llwyr. Sylweddolais mor bwerus yw mathemateg, nid yn unig fel pwnc, ond fel teclyn i ddatrys problemau yn y byd go iawn. Dyna pryd ro’n i’n gwybod fy mod i am ei astudio ymhellach.

Alli di sôn am brosiect cofiadwy gweithiaist ti arno?

Un o’r prosiectau mwyaf diddorol weithiais i arno oedd modiwl theori gemau, lle roedd fy nhîm yn archwilio deinameg priodas ac ysgariad gan ddefnyddio mathemateg. Roedd yn ddiddorol gweld bod modd cymhwyso mathemateg i benderfyniadau mor bersonol, ac roedd yn brosiect cydweithredol iawn. Er bod llawer o wahanol dimau, cefnogon ni’n gilydd, a wnaeth y profiad yn fwy gwerth chweil byth.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl gorffen eich gradd?

Dw i’n annibynnol yn ariannol — dw i’n gweithio ac yn talu fy rhent a fy miliau, a dw i’n falch iawn o hynny. Dw i’n bwriadu cynilo arian dros y tair blynedd nesaf, ac yna treulio ychydig o amser yn teithio, archwilio’r byd, a meithrin safbwyntiau newydd, cyn setlo i yrfa go iawn.

Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?

Dw i wedi dysgu drwy brofiad personol yr effaith gall un athro ei chael ar fywyd rhywun, a sut mae rhannu gwybodaeth a chael cefnogaeth a chydweithio yn gallu nid yn unig newid safbwynt rhywun, ond cael effaith go iawn ar eu canlyniadau. Dw i’n credu gyda’n gilydd gallwn greu system addysg well ar gyfer pobl ifanc, a gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu bywydau.

 

Darllenwch fwy o straeon fel stori Lindi

Mae ein graddedigion yn unfarn unllais ar y weledigaeth at y dyfodol. O harneisio ein sgiliau, ein dysg a’n safbwyntiau amrywiol, gallwn greu newid cadarnhaol, arloesi a chreu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae graddedigion 2024 yn dweud eu dweud wrthon ni.

Gwneud mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod

Mae Erin bob amser wedi cael ei swyno gan sut mae mathemateg yn sail i bopeth o'n cwmpas, o dechnoleg i benderfyniadau bob dydd.

Newid y byd trwy ffiseg

Mae Kavetha yn credu bod ffiseg yn ymwneud â datgelu'r manylion cudd sy'n esbonio'r byd o'n cwmpas, ac mae'n angerddol am wneud gwahaniaeth a newid y byd trwy wyddoniaeth.