Ewch i’r prif gynnwys

Ariennir Gŵyl Bod yn Ddynol drwy Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Mae’n ŵyl flynyddol o'r dyniaethau sy'n cael ei chynnal mewn llu o brifysgolion, gan gyflwyno cannoedd o ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim ledled y DU a thu hwnt.

Yn 2023, dewiswyd Prifysgol Caerdydd yn un o’r pum prif ganolfan ledled y DU i gynnal Gŵyl Bod yn Ddynol 2023 mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Mae’r ŵyl yn dathlu sut mae ymchwilwyr ym maes y dyniaethau’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd, gan ein helpu i ddeall ein hunain, ein perthynas â phobl eraill a'r heriau sy'n ein hwynebu mewn byd sy'n newid.

Gwyliwch y fideo byr hwn i gael gwybod rhagor am yr hyn sy'n gwneud Gŵyl Bod yn Ddynol yn unigryw.

Rhagor am yr Ŵyl

Bob blwyddyn mae'r ŵyl yn gwahodd ymchwilwyr o brifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill i gydweithio â phartneriaid cymunedol a diwylliannol lleol i greu digwyddiadau cyffrous a diddorol rhad ac am ddim i’r cyhoedd, a rhannu syniadau sydd o fydd i bawb.

Cyflwynwyd Gŵyl 2023 mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru a llu o bartneriaid o'r trydydd sector o amgylch y thema "rheol a rheswm".  Gyda'n gilydd, fe wnaethom gynnal 13 digwyddiad dros gyfnod o 10 diwrnod yn ystod yr ŵyl, ac ymgysylltu â 780 o ymwelwyr i drafod ymchwil yn y dyniaethau sy'n ymwneud â'r ardaloedd y mae ein sefydliadau wedi'u lleoli ynddynt, a Chymru'n ehangach.

Bob blwyddyn mae'r ŵyl yn gwahodd ymchwilwyr mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill i gydweithio â phartneriaid cymunedol a diwylliannol lleol.

Uchafbwyntiau Gŵyl 2023

Tynnodd rhaglen ein gŵyl ar waith ymchwil amrywiol gan gynnwys gwaith cloddio archaeolegol, gwarchod gwaith celf, deallusrwydd artiffisial ym maes newyddiaduraeth, casgliadau o ffyngau, arddangosfa o straeon iechyd meddwl cyn-filwyr, a hanes trefedigaethol a diwydiannol Castell Penrhyn.

Anelwyd ein digwyddiadau i’r cyhoedd, oedd yn rhad ac am ddim, at ystod o oedrannau yn ogystal â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac roeddent yn cynnwys teithiau cerdded dan arweiniad, arddangosiadau, trin gwrthrychau, a gweithdai celfyddydol a chrefft i deuluoedd.

Roedd ein digwyddiadau cyhoeddus am ddim wedi'u hanelu at ystod o oedrannau, yn ogystal â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Gweithio gydag Ysgolion

Llwyddodd ein sesiynau amrywiol yn ymgysylltu ag ysgolion i ddenu 15% o holl gynulleidfa'r ŵyl, ac roedd pob un o’r rhain yn ategu'r themâu allweddol o fewn y cwricwlwm yng Nghymru.

Gwahoddwyd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Cantonian i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddysgu sut mae cadwraethwyr yn defnyddio gwyddoniaeth i ddeall sut a pham mae deunyddiau a ddefnyddir gan artistiaid wedi newid dros amser. Cafodd y disgyblion eu tywys ar daith o amgylch yr orielau celf i edrych ar agweddau technegol ar baentiadau cyfarwydd, a dod o hyd i elfennau cudd ac annisgwyl trwy belydrau-x, micro-bylu a fflworoleuedd pelydr-x.

"Fe fwynhaodd y disgyblion y cyfle i ymweld â'r amgueddfa pan oedd ar gau a gweld y gwaith mae'r cadwraethwyr celf yn ei wneud tu ôl i'r llenni. Yr uchafbwynt iddyn nhw oedd gallu bwrw golwg manwl ar waith celf cyfarwydd ac ymgysylltu â'r siaradwyr. Roedd yn gyfle gwych i ddisgyblion weld pa swyddi sydd ar gael yn y diwydiant celf a dysgu rhagor am hanes celf gan weithwyr proffesiynol y diwydiant." Athro o Ysgol Uwchradd Cantonian

Croesawodd yr ŵyl hefyd 29 o ddisgyblion o Ysgol Plasmawr ac Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd i weithdy celf ac adrodd straeon wedi'i gyd-greu yng Nghanolfan Treftadaeth Caer, sydd ym maestrefi Caerau a Threlái yng ngorllewin Caerdydd.  Ar ôl archwilio hanes y fryngaer a thrafod arteffactau a oedd wedi’u claddu yno, cydweithiodd y disgyblion â haneswyr ac artist cymunedol i greu bwrdd stori o gymeriadau canoloesol a allai fod wedi byw ym mryngaer Caerau.

Roedd ein sesiynau ymgysylltu pwrpasol i ysgolion yn cynnwys 15% o gyfanswm cynulleidfa'r ŵyl, pob un yn cefnogi'r themâu allweddol o fewn y cwricwlwm yng Nghymru.

Hybu cydweithio ar draws y sector Addysg Uwch a Threftadaeth yng Nghymru

Ymunodd Prifysgol Caerdydd ag Amgueddfa Cymru i gyflwyno Gŵyl Bod yn Ddynol yn rhan o bartneriaeth strategol ehangach i hybu cydweithio ym maes addysg uwch a'r sector treftadaeth yng Nghymru.

Mae’r bartneriaeth strategol a phwysig hon yn cydweithio ar draws pum maes: ymchwil ac arloesedd; diogelu ac adfer yr amgylchedd; diwylliannau digidol a thechnolegau addasol; sgiliau, talent a dysgu gydol oes; a sicrhau lles a chynrychiolaeth gynhwysol drwy werthfawrogi treftadaeth.

Rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth.

Croesawodd yr ŵyl hefyd 29 o ddisgyblion o Ysgol Plasmawr ac Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd i Ganolfan Treftadaeth Caer ar gyfer gweithdy celf ac adrodd straeon ar y cyd.

Gwneud gwahaniaeth

Drwy ein partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, llwyddodd digwyddiadau’r ŵyl i gyflwyno pynciau, casgliadau a gofodau nad ydynt fel arfer ar gael i’r cynulleidfaoedd sy'n ymweld â nhw.

Fe gyflwynodd Gŵyl Bod yn Ddynol y cyfle i ddangos grym ac effaith cydweithio mewn ffyrdd amrywiol ac ystyrlon. Mae hyn yn o fudd i bob sefydliad partner yn ogystal â'r cymunedau o’n cwmpas yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.

Mae pob un o’n digwyddiadau wedi ennyn diddordeb ymchwilwyr a chymunedau ehangach i wneud gwahaniaeth. Yn y cyfnod hwn sy’n newid o hyd, mae ein hymchwil yn y dyniaethau yn parhau i ysbrydoli a chyfoethogi ein bywydau bob dydd ac yn ein helpu i ddeall ein hunain a'r ffordd rydyn ni’n ymwneud â phobl eraill.

Dolenni cysylltiedig

Being Human Festival 2024

Gŵyl Bod yn Ddynol

Bod yn Ddynol yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU i ddathlu ymchwil dyniaethau trwy ymgysylltu â'r cyhoedd. #BeingHumanFest

Being Human collage workshop

Croeso i Ŵyl Bod yn Ddynol 2024

Cyflwyniad i'r ŵyl gan yr Athro Claire Gorrara a Dr Jenny Kidd, Prifysgol Caerdydd.