Ewch i’r prif gynnwys

Straeon o Brifysgol Caerdydd

Rydyn ni’n dod â phobl at ei gilydd i gyflawni llawer mwy na’r hyn y gallwn ni ei gyflawni ar ein pennau ein hunain.

Darllenwch ein straeon i gael ddysgu mwy am astudio, gweithio ac ymchwilio gyda ni.

Newid y byd trwy ffiseg

Mae Kavetha yn credu bod ffiseg yn ymwneud â datgelu'r manylion cudd sy'n esbonio'r byd o'n cwmpas, ac mae'n angerddol am wneud gwahaniaeth a newid y byd trwy wyddoniaeth.

Gwneud mathemateg yn fwy hygyrch i fenywod

Mae Erin bob amser wedi cael ei swyno gan sut mae mathemateg yn sail i bopeth o'n cwmpas, o dechnoleg i benderfyniadau bob dydd.

Cael y gorau o'i gilydd

Mae Adam yn gobeithio bwrw ymlaen â phwysigrwydd gwrando ar eraill, cyfuno syniadau a gweithio'n galed i ddod o hyd i'r ateb cywir yn ei yrfa yn y dyfodol.

Cyflawni pethau mawr

Mae'r entrepreneuriaid uchelgeisiol hyn yn credu bod busnes moesegol yn un o'r prif ysgogwyr newid yn y byd. Mae'r ddau yn gobeithio defnyddio rheolaeth adnoddau effeithiol i wneud i fusnes weithio ar gyfer byd gwell.

Gwella iechyd meddwl i bawb

Yn angerddol am iechyd meddwl pobl ifanc, mae Georgina eisiau rhoi'r profiad a'r wybodaeth y mae hi wedi'u hennill yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Caerdydd ar waith i gael effaith ar iechyd meddwl a gwella iechyd meddwl i bawb.

Creu byd mwy cysylltiedig

Mae Isabella yn gobeithio defnyddio ei sgiliau ieithyddol i bontio bylchau, creu dealltwriaeth a chwarae ei rhan wrth greu byd mwy cysylltiedig ac empathig.

Gwell dealltwriaeth o'r byd trwy lenyddiaeth

Mae Oliver bob amser wedi bod yn angerddol am straeon a'r ffordd maen nhw'n siapio ein dealltwriaeth o'r byd, felly roedd plymio i lenyddiaeth yn llwybr naturiol iddo.

Chwalu'r rhwystrau i addysg

Mae Lindi'n credu y gallwn gyda'n gilydd greu system addysg well i bobl ifanc, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau, chwalu'r rhwystrau i addysg a gwneud pynciau fel mathemateg yn hygyrch i bawb.

Byw yn fwy cynaliadwy trwy bensaernïaeth

Mae gan Rebecca sy'n raddedig o Bensaernïaeth angerdd am ddylunio gofodau sy'n gwella ein lles a'n bywydau.

Torri trwy'r anhrefn

Mae ymchwil yr Athro Martin Innes ar dwyllwybodaeth yn trin a thrafod ei heffaith ar gymdeithasau democrataidd mewn oes lle mai gwybodaeth yw popeth.

Gwneud i dechnoleg weithio i bawb

Yn ôl Byron, sydd wedi graddio mewn Cyfrifiadureg, fe wnaeth ei angerdd am dechnoleg a sut mae'n siapio'r byd o'n cwmpas sbarduno ei benderfyniad i ddilyn gradd yng Nghaerdydd.

Dadansoddi’r Gymraeg gan ddefnyddio MRI

Mae ein hymchwil yn helpu dysgwyr Cymraeg i oresgyn trafferthion ynganu sy’n cael effaith ar eu hyder a’u gallu i ymdoddi i gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Llongyfarchiadau i Undeb y Myfyrwyr, wrth iddo droi’n 50 oed

Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002, Hon 2023) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno â grŵp dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy’n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir â nhw yn llysoedd y Goron ac Apêl, ac mae’n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.

Cynnyrch hunan-lanhau a allai olygu mislif mwy diogel i bawb

Mae Dr Jennifer Edwards (BSc 2003, PhD 2007) a Dr Michael Pascoe (PhD 2020) yn datblygu cynnyrch hunanlanhau arloesol a allai sicrhau mislif mwy diogel i bobl mewn rhai o gymunedau mwyaf bregus y byd.

Helpu myfyrwyr ôl-raddedig i ffynnu

Roedd Mushtaq Karimjee (BSc 1971) sefydlodd Ysgoloriaeth Fanaka sy’n cefnogi myfyrwyr o’i famwlad, Tansania, i gwblhau gradd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Atal lledaeniad twbercwlosis

Mae Dr Tamas Barry (MBBCh 2020, PhD Meddygaeth 2022-) yn helpu i wella dulliau o ganfod twbercwlosis a gofal twbercwlosis ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Troi poen yn ddiben: gweledigaeth ar gyfer gofal llygaid sy’n hygyrch i bawb

Optometrydd yw Lucky Aziken (MSc 2023) sy’n darparu gwasanaethau gofal llygaid fforddiadwy a chynaliadwy yn Nigeria a Malawi.

Gŵyl Bod yn Ddynol 

Bod yn Ddynol yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU i ddathlu ymchwil dyniaethau trwy ymgysylltu â'r cyhoedd.

Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC

Celebrating the outstanding impact of our social science research with the community 

Girls taking part in lab session

Codi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch

Cynorthwyo i ddatblygu sgiliau seiberddiogelwch cryf yn y gymuned.

Defnyddio celf i ymladd yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd

Defnyddio'r celfyddydau a gwyddoniaeth i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd i frwydro yn erbyn ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Helpu plant i ffynnu yn yr ystafell ddosbarth

Gweithio gyda phlant ac addysgwyr i helpu disgyblion i gael y gorau o'u hamser yn yr ysgol.

Performers being watched by school children

Cysgod y Garan

Drama i ailennyn diddordeb plant mewn dysgu am yr amgylchedd ac am hanes lleol

Rhagnodi cymdeithasol gwyrdd yng Nghwm Cynon

Gwella iechyd a lles pobl trwy gysylltu â natur.

Adeiladu ieithoedd rhyngwladol yn Ysgolion Cynradd Cymru

Helpu athrawon ledled Cymru i gyflwyno'r cwricwlwm newydd

Deall seicosis ôl-enedigol

Mae mamau sydd mewn perygl o ddatblygu'r anhwylder seiciatrig difrifol hwn yn cael eu cefnogi'n well oherwydd gwaith yr Athro Ian Jones a'i dîm.

Deall iechyd meddwl mewn cymunedau Mwslimiaid

Hyrwyddo gwell dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau Mwslimaidd

Chwerthin yr holl ffordd i les gwell yn ystod plentyndod

Datblygu adnoddau addysg newydd i gefnogi hiwmor a chwarae mewn ysgolion.

Cymuned ddigidol Treorci: adfer yn sgîl COVID-19

Sut rydyn ni’n defnyddio technoleg i gysylltu busnesau bach â chwsmeriaid newydd a chyfredol i gynorthwyo’r gwaith o adfer yn sgîl COVID-19.

Creu cynllun ar gyfer Grangetown sydd o fudd i blant

Mae ein hymchwilwyr yn rhoi llais i bobl ifanc yn y broses o greu cynllun adfer ar ôl y pandemig ar gyfer eu cymuned.

Cadw treftadaeth fetel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae ein hymchwil wedi llywio'r penderfyniadau i warchod ein treftadaeth fetel, o ystorfeydd archeolegol sy'n cynnwys miliynau o arteffactau sy'n olrhain hanes dynol i longau eiconig gan gynnwys y Mary Rose, SS Great Britain Brunel a’r Armada Sbaenaidd.

Sefydlu safonau gofal byd-eang newydd ar gyfer cleifion sy’n dioddef o ganser y prostad

Chwaraeodd ein hymchwilwyr rolau blaenllaw mewn treialon clinigol mawr, a wellodd sut y caiff canser y prostad ei drin yn ogystal â dylanwadu ar y ffordd y mae oncolegwyr yn monitro eu cleifion ac yn defnyddio llawdriniaethau, radiotherapi, a therapi hormonau.

Ffordd fwy ecogyfeillgar o weithgynhyrchu Perspex®

Trwy ein hymchwil, darganfyddom broses cost-effeithiol ar gyfer creu Perspex® yn fyd-eang. Gallai’r broses hon gael ei defnyddio ar raddfa, gan gynnig manteision economaidd ac amgylcheddol.

Gwneud y gorau o fanteision ffermydd gwynt y DU

Mae ein hymchwil yn helpu i foderneiddio trosglwyddo ynni ledled y DU ac Ewrop ac yn ein gwthio tuag at y targed o allyriadau carbon sero net.

Arloesi ffyrdd newydd o fynd i'r afael â halogiad bacteriol

Mae ein hymchwil wedi helpu i leihau'r risg o halogiad mewn diwydiant, a hynny ar raddfa fyd-eang.

Diogelu cymunedau a gwarchod amgylcheddau

Gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau mwyngloddio ledled y byd, mae'r Athro Wolfgang Maier wedi helpu i atal adleoli cymunedau lleol, ac mae hefyd wedi helpu i ddiogelu tir sy'n ddiwylliannol sensitif, ac wedi sicrhau arbedion cost enfawr ar yr un pryd.

getty stock

Beth yw camfanteisio’n rhywiol ar blant

Mae ymchwil arloesol Dr Sophie Hallett wedi gwneud barn pobl ifanc yn rhan annatod o benderfyniadau ynghylch eu gofal.

Carmen Georges Bizet

Trawsnewid perfformiadau o ‘Carmen’ ar lwyfannau’r byd

Mae ymchwil yr Athro Clair Rowden wedi creu ffyrdd newydd o feddwl am un o'r operâu a berfformir amlaf ledled y byd, Carmen.

Gwella effeithiolrwydd cadachau (wipes) gwrthficrobaidd mewn lleoliadau gofal iechyd

Mae ymchwil yr Athro Jean-Yves Maillard i effeithiolrwydd cadachau gwrthficrobaidd wedi arwain at well mesurau rheoli heintiau, wedi arwain at safon ryngwladol newydd ar gyfer profi cadachau gwrth-facterol wedi'u gwlychu ymlaen llaw ac wedi arwain at dwf masnachol sylweddol i weithgynhyrchwr blaenllaw cynhyrchion glanhau gwrth-bacteriol.

A group of school children

Cyflwyno ffiseg i bawb

Mae ein hymchwil wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran gwneud pobl yn fwy ymwybodol o seryddiaeth, ac wedi helpu i drawsnewid, y ffordd yr addysgir y pwnc, a’r ffordd mae’r cyhoedd yn meddwl amdano.

Visualisation of a data strand

Canfod DNA ymosodiadau seibr

Mae cydweithrediad rhwng yr Athro Pete Burnap ac Airbus wedi arwain at ffordd hollol newydd o ganfod ac atal meddalwedd maleisus.

families leave Paris

Edrych eto ar y ffordd mae pobl yn cofio’r Ail Ryfel Byd yn Ffrainc

Mae profiadau pobl unigol yn ganolog i ddealltwriaeth newydd o'r cyfnod hollbwysig hwn mewn hanes.

getty more people

Cynyddu nifer y cyflogwyr sy’n talu cyflog byw ledled y DU

Mae ymchwil gan academyddion yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi arwain at wella amodau gweithio miloedd o bobl.

Gwella cyfathrebu â phobl sydd â dementia

Mae gwaith yr Athro Alison Wray ar sut mae effaith gymdeithasol ac emosiynol dementia yn effeithio ar gyfathrebu yn helpu pobl â dementia, eu teuluoedd a gofalwyr proffesiynol i ymdopi â'r heriau o ran cyfathrebu y maen nhw’n eu hwynebu.

Welsh flag

Gwella democratiaeth yng Nghymru

Mae gwaith ein hacademyddion ar ddiwygio'r Senedd, ei hetholfraint a'i system etholiadol wedi arwain at y bleidlais ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, gan osod y seiliau ar gyfer rhagor o  ddiwygiadau sylweddol o ran maint y Senedd a’i threfniadau etholiadol.

Ambulance

Achub bywydau drwy ddefnyddio mathemateg

Mae modelu mathemategol arloesol yn sicrhau gwell deilliannau canser, amseroedd ymateb cynt gan y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaeth cyswllt GIG newydd.

Rhoi sylw i dlodi tanwydd

Mae ein hymchwilwyr wedi datblygu adnodd newydd sy'n nodi'r aelwydydd sydd fwyaf angen cymorth i gynhesu eu cartrefi.

stock shot muslims praying

Rhoi gwybod i Fwslimiaid am roi organau

Mae Dr Mansur Ali yn helpu cyd-Fwslimiaid i archwilio agwedd eu ffydd at y gweithdrefnau achub bywyd hyn.

stock shot camera

Adroddiadau gohebwyr ar ddatganoli: rhoi cyngor

Mae ein hacademyddion yn helpu newyddiadurwyr i wneud synnwyr o'r gwahanol reolau COVID-19 sydd mewn grym ledled y DU.

Cryfhau hawliau a chyfranogiad o dan gyfraith galluedd meddyliol

Roedd gwaith Dr Lucy Series a’i chydweithwyr ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gyfrifol am atgyfnerthu hawliau a chyfranogiad pobl y gellir ystyried nad oes ganddynt alluedd i wneud neu gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau.

Image shows stylised image of a brain cell

Gwella cyfleoedd i bobl â chlefyd Huntington drwy ffisiotherapi

Mae ein hymchwil yn grymuso pobl â chlefyd Huntington i wneud ymarfer corff a chael ffisiotherapi i helpu i reoli eu symptomau.

aerial view of Cardiff showing teh castle and stadium and environs

Diwygio deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru

Arweiniodd ymchwil Dr Pete Mackie i ddeddfwriaeth digartrefedd Cymru at Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ac mae wedi llywio dadleuon polisi yn yr Alban, Canada ac Awstralia.

Trawsnewid perthnasoedd ac addysg rhyw

Mae gwaith yr Athro EJ Renold wedi sicrhau bod barn pobl ifanc yn ganolog i ddeddfwriaeth a pholisïau newydd.

A firefighter carrying equipment walks away from a fire engine toward a building.

Gwella’r broses o wneud penderfyniadau yn y gwasanaethau brys

Mae ein hymchwil arloesol wedi gwella sut mae’r gwasanaethau brys yn meddwl, yn ymddwyn ac yn ymateb mewn sefyllfaoedd brys.