Dewiniaeth a chredoau cysylltiedig
Yn y cyfnod modern cynnar roedd dewiniaeth yn cael ei weld fel trosedd ac roedd yn ganolbwynt prif dreialon ac erledigaeth o wahanol raddfeydd drwy gydol Prydain ac Ewrop modern cynnar.
Denodd drafodaeth eang a phryder difrifol, gan gynhyrchu nifer sylweddol o ysgrifeniadau a phamffledi yn trafod y pwnc a’i system gred ehangach.
Mae Casgliadau Arbennig yn ffodus iawn i gadw amrywiaeth eang o ddeunydd yn trafod y pwnc a’i agweddau niferus. Mae’r canllaw adnoddau wedi’i ddylunio i amlygu’r adnoddau hyn yn ogystal â’r rheiny sy’n gysylltiedig a gwahanol agweddau credoau dewiniaeth. Mae'r rhain yn cynnwys crefydd, ofergoeledd a chythreuliaeth ac yn ganllaw cynhwysfawr i’r system gredoau eang ond cymhleth hon.