Caethwasanaeth a'r beirdd, 1790-1840 (2003)
gan Athro E. Wyn James
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Cyhoeddwyd gyntaf yn Taliesin, 119 (Haf 2003), tt. 37-60. ISSN 0049-2884.
Seiliwyd yr erthygl hon ar ddarlith a draddodwyd yn Ail Gynhadledd Flynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, 30 Tachwedd 2002. Pwnc y gynhadledd oedd ‘Y Cymry a Chaethwasanaeth yn Unol Daleithiau America’.
Hawlfraint © E. Wyn James, 2003, 2006
Barddoniaeth oedd un o’r cyfryngau cynharaf a ddefnyddiwyd yn Lloegr yn ail hanner y ddeunawfed ganrif i gynhyrfu’r farn gyhoeddus yn erbyn y fasnach mewn caethion.[1] Nid oes raid ond troi at flodeugerdd gynhwysfawr a diffiniol yr Athro James G. Basker, Amazing Grace: An Anthology of Poems about Slavery, 1660-1810 (Yale University Press, 2002), i weld pa mor eithriadol ddylanwadol fu barddoniaeth Saesneg yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, a hynny o boptu i Fôr Iwerydd. A bu barddoniaeth Gymraeg hithau yn bwysig yn y gwaith o hybu’r ymwybyddiaeth o erchyllterau caethwasiaeth a’r gwrthwynebiad iddi ymhlith y Cymry, a hynny eto o boptu i’r Iwerydd.
Y mae llawer i’w ddweud am gyfraniad beirdd Cymraeg America yn hynny o beth.[2] Y mae llawer i’w ddweud hefyd am y beirdd a fu’n canu ar y testun yng Nghymru o’r 1840au ymlaen, yn enwedig yn y cyfnod ar ôl cyhoeddi nofel ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn 1852. Gobeithiaf ddychwelyd at hynny rywdro arall. Ond rhaid cyfyngu yn awr. Ac er mor bwysig yw’r agweddau eraill, am y tro yr wyf am fy nghyfyngu fy hun yn bennaf i’r hanner can mlynedd rhwng 1790 ac 1840, a’m cyfyngu fy hun hefyd i feirdd Cymraeg o Gymru. A pha le gwell i ddechrau trafod barddoniaeth nag mewn eisteddfod! Neu a bod yn fanwl gywir, yn yr eisteddfod a gynhaliwyd ‘tan arwydd y Rhosyn’ yn Llanelwy yn 1790.
Eisteddfod Llanelwy 1790
Hon oedd yr ail yn y gyfres o eisteddfodau a gynhaliwyd dan nawdd Gwyneddigion Llundain, y gyfres honno a fu’n fan cychwyn i’r mudiad eisteddfodol modern, mudiad a arweiniodd maes o law at sefydlu’r Eisteddfod Genedlaethol yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. ‘Rhyddid’ oedd y testun a osododd y Gwyneddigion ar gyfer yr awdl. Yn ogystal, noddwyd cystadleuaeth newydd ganddynt, cystadleuaeth llunio traethawd; a ‘Rhyddid’ oedd testun hwnnw hefyd. Nid yw’n destun annisgwyl o gofio mai ‘Rhyddid mewn gwlad ac eglwys’ oedd un o amcanion y Gwyneddigion. Ar ben hynny yr oedd pwnc ‘rhyddid’ yn drwch yn yr awyr yn gyffredinol yn y dyddiau hynny yn sgil y Chwyldro Ffrengig y flwyddyn flaenorol; ac yr oedd nifer o aelodau’r Gwyneddigion yn gefnogwyr selog i’r Chwyldro hwnnw.[3]
Gwallter Mechain a enillodd y tlws am y traethawd gorau, a Dafydd Ddu Eryri y gadair am ei awdl. Roedd lliw y Chwyldro Ffrengig ar y ddau waith, meddai J. J. Evans. Ond nid gormod ychwaith! Er iddo ymosod ar y fasnach mewn caethion (‘Bai ar wŷr Europ bêr yr awrhon / Yw eu mordwyaeth am wŷr duon’), diwygiwr ceidwadol a gwyliadwrus oedd Dafydd Ddu, un a welai Brydain o dan deyrnasiad y Brenin Siôr yn ‘wen frodir’ lle yr oedd ‘gwawr Rhyddid’ ar gynnydd, a honno’n wawr a nodweddid gan gariad a heddwch yn hytrach na ‘thraha, lladdfa, na llid’. Ac er bod Gwallter Mechain yn ei draethawd yn llawen bod ‘ein cymmydogion y Ffrancod’ yn ymrestru o dan faner Rhyddid er torri iau gorthrymder, ei farn yntau am Brydain oedd bod ‘Rhyddid yn addurno...teyrnwialen Siôr’. ‘Yr unig ystaen a wêl ef ar gymeriad Prydain’, meddai J. J. Evans, ‘yw’r Fasnach mewn Caethion’; ond yn ôl Gwallter, hyd yn oed yn yr achos hwnnw, pe gellid ond ymddwyn yn dynerach tuag at y bobl dduon, a chaniatáu efengylu yn eu plith, byddent yn ddedwyddach yn eu stad gaeth na phe baent yn eu gwylltineb cyntefig, ‘yn lladd ac yn bwyta ei gilydd’.[4]
Yr oedd eraill yng nghylchoedd y Gwyneddigion a oedd yn fwy radical o dipyn eu barn ar fater rhyddid ac yn fwy digymrodedd o lawer ar fater caethwasiaeth. Yr oedd safbwyntiau ceidwadol Gwallter Mechain a Dafydd Ddu yn dân ar groen rhywun fel William Jones, Llangadfan, er enghraifft, un o ddilynwyr pennaf Tom Paine ymhlith y Cymry. Os oedd Prydain yn baradwys, paradwys i ddynion cyfoethog yn unig ydoedd ym marn William Jones; a chredai Iolo Morganwg, ‘Bardd Rhyddid’ fel y’i galwai ei hun, y dylid taflu brenhinoedd i garchar a cholli’r allwedd.[5] Meddai yn ei gân, ‘Breiniau Dyn’ yn 1789:
Clyw’r brenin balch diras,
A thi’r offeiriad bras,
Dau ddiawl ynglŷn,
Hir buoch fal dau gawr
I’r byd yn felltith fawr,
Yn sarnu’n llaid y llawr
Holl freiniau dyn.[6]
Tybed a oedd y geiriau hynny ym meddwl Dafydd Ddu Eryri pan ddywedodd yntau am Iolo: ‘Dau waeth yw Ned Wiliam nâ’r diawliaid!!’[7]
Iolo Morganwg
Yr oedd Iolo yn danbaid yn erbyn caethwasiaeth. Cyfeira ati mewn sawl cerdd Cymraeg a Saesneg o’i eiddo. Er enghraifft, mewn cân a ddatganodd ar Fryn y Briallu yn Llundain yn 1792 yn yr Orsedd gyntaf erioed, cawn Iolo yn cyfarch ‘Rhyddid’. ‘Thee, Goddess, thee we hail! the world’s eternal friend’, meddai, gan fynd ymlaen i ymosod ar gaethwasiaeth:
Join here thy Bards [h.y. Beirdd Rhyddid], with mournful note,
They weep for Afric’s injur’d race;
Long has thy Muse in worlds remote
Sang loud of Britain’s foul disgrace...[8]
Ac yn y pennill nesaf, â rhagddo i glodfori ‘Great Wilberforce’ am ei ymdrechion yn erbyn caethwasanaeth. William Wilberforce (1759-1833) oedd hwnnw, y prif ymgyrchydd yn Senedd Prydain dros ddiddymu’r fasnach mewn caethion. Yr oedd Iolo yn adnabod Wilberforce, ac yn ei edmygu’n fawr (er mai Eglwyswr efengylaidd oedd Wilberforce, dau beth a oedd fel arfer i Iolo fel cadach coch i darw!). Tanysgrifiodd Wilberforce i lyfr Iolo Morganwg, Poems, Lyric and Pastoral (1794). Cyflwynodd Iolo’r llyfr i George, Tywysog Cymru, a’i enw ef sydd ar ben rhestr y tanysgrifwyr mewn priflythrennau ar draws y tudalen. Yna y mae enwau’r tanysgrifwyr eraill yn dilyn yn nhrefn yr wyddor mewn dwy golofn. Ond pan ddaw at y llythyren ‘W’, mae Iolo’n torri ar y patrwm a chawn enw William Wilberforce — neu ‘Humanity’s Wilberforce’, fel y mae Iolo’n ei alw — ar ben y rhestr mewn priflythrennau ar draws y tudalen. A’r enw cyntaf odano yn y golofn ar y chwith yw ‘General [George] Washington’.[9]
Bu sawl ymgais aflwyddiannus gan Wilberforce i gael mesur trwy’r Senedd i ddileu’r fasnach mewn caethion. Pan oedd Iolo ym Mryste un tro, dyma glychau’r ddinas yn dechrau canu, wrth iddynt glywed fod mesur Wilberforce wedi’i daflu allan gan y Senedd. Pan ddeallodd Iolo paham yr oedd y clychau’n canu, trodd ar ei sawdl a cherdded allan o’r ddinas, gan ysgwyd ei llwch oddi ar ei draed![10] A phan lwyddodd Wilberforce o’r diwedd i gael y mesur trwy’r Senedd, yn 1807, canodd Iolo gân o lawenydd ar y mesur 87.87.D., cân â thinc moliant emyn Methodistaidd yn rhedeg trwyddi. Ei theitl yw ‘Cân Rhyddhad y Caethion. Sef mawl i Dduw am dorri seiliau caethiwed, drwy gynhyrfu Senedd Ynys Prydain i wahardd masnach cyrff ac eneidiau dynion duon Affrig’. Dyma dameidiau ohoni:
Torred allan ein caniadau
Yn orfoledd ym mhob man;
Ffrydied allan o’n calonnau
Fawl i Dduw sy ’mhlaid y gwan...
Brodyr a chwiorydd inni,
Plant i’r un trugarog Dad;
Hir y buant mewn gresyni,
Dan orthrymder a sarhad...
Senedd Prydain o’i hanwiredd
Sydd o’r diwedd yn deffroi,
Ag o’i chadarn amryfusedd
I gyfiawnder yn ymroi;
Gyda Duw’n gweithredu’n dirion,
Gyda Duw’n rhoi clust i’r gwan,
Torrodd sail caethiwed creulon,
Boed gorfoledd ym mhob man...
Masnach dyn! Ei gorff a’i enaid
Meibion trachwant mwy ni chânt;
Cyn bo hir dan ddial tanbaid
O bob tir diflannu wnant;
Dydd i agor drws pob carchar,
Dryllio’r gadwyn, torri’r iau,
Dydd i sychu dagrau galar,
Dydd ein Duw sy’n ymneshau...
Cyfyd bellach Haul Cyfiawnder
Lle bu’r tywyll nos yn hir;
Tês Tangnefedd o’r uchelder
A dywyna drwy bob tir...
Gwelwn ddryllio sail caethiwed,
Awr i ollwng caeth yn rhydd,
Mawr fu’n hiraeth am ei weled,
Mawl i Dduw, fe ddaeth y dydd![11]
Y fasnach mewn caethion a ddiddymodd Senedd Prydain yn 1807, a bu raid wrth ymgyrch pellach cyn iddi basio deddf i ryddhau’r rhai a oedd eisoes yn gaethion yn nhiriogaethau Prydain. Ni ddigwyddodd hynny tan 1833. Yr oedd William Wilberforce ar ei wely angau erbyn hynny, ond cafodd glywed y newyddion am lwyddiant y mesur cyn iddo farw.
Y rheswm y bu canu clychau mawr ym Mryste adeg methiant mesur Wilberforce oedd oherwydd pwysigrwydd y fasnach mewn caethion i ffyniant y ddinas honno. Hi, ynghyd â Lerpwl — y ddwy ddinas fawr sydd ar gyrion deheuol a gogleddol Cymru — oedd prif ganolfannau’r fasnach ym Mhrydain. Y mae’n werth nodi hefyd mai’r fasnach mewn caethion ac elw planhigfeydd Jamaica a fu’n rhannol gyfrifol am ddarparu’r cyfalaf ar gyfer y datblygu diwydiannol mawr a welwyd yn y cyfnod dan sylw yn ardal y chwareli yn sir Gaernarfon ac yn ardal y gweithfeydd haearn ym Mlaenau Gwent a Morgannwg[12] — datblygu diwydiannol a greodd (fe ellid dadlau) fath arall o gaethion. Gwrandewch ar yr hyn sydd gan un baledwr i’w ddweud yn 1853 wrth ganu’n chwerw am y Tloty (neu’r Wyrcws) a agorwyd ym Merthyr Tudful y flwyddyn honno — yr un flwyddyn ag y cyhoeddodd Gwilym Hiraethog ei addasiad Cymraeg o Uncle Tom’s Cabin:
Caeth-fasnach ddiddymir, aberthir o bell,
Fel gallo dyeithriaid gael gweled byd gwell;
Ond, croes i’n hynafiaid, y Whigiaid a wnaeth
Garcharau i’r tlodion i gyson fyw’n gaeth.[13]
Byddai Iolo Morganwg wedi gallu elwa’n sylweddol oddi wrth gaethwasanaeth. Aeth dau o’i dri brawd i Jamaica yn 1778, a dilynodd y trydydd brawd yn 1785. Aethant yn gyfoethog yno, ac yn berchnogion nifer sylweddol o gaethweision yn ôl y sôn. Dywedir fod Iolo yn gwrthod derbyn unrhyw arian oddi wrthynt am mai ‘gwerth gwaed’ ydoedd, a’i fod wedi gwrthod etifeddiaeth werth miloedd lawer ar eu hôl. Y mae’r gwir am etifeddiaeth Jamaica ychydig yn fwy cymhleth na hynny, mewn gwirionedd, fel popeth arall yn hanes Iolo![14] Ond ni ellir amau ei gasineb llwyr tuag at gaethwasiaeth. Agorodd siop yn y Bont-faen yn 1797. Gwrthodai werthu siwgr o India’r Gorllewin yno, gan frolio yn hytrach ei fod ond yn gwerthu siwgr o India’r Dwyrain, siwgr a gynhyrchid gan ddynion rhydd yn hytrach na chaethweision; a gosododd arwydd yn y ffenestr i’w hysbysebu, ac arni: ‘East India Sweets, uncontaminated with human gore.’[15]
Morgan John Rhys a’r Brenin Siwgr
Dechreuodd y fasnach mewn caethion o ddifrif yn hanes Prydain yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg, gyda dechreuadau’r diwydiant siwgr yn ynysoedd y Caribî, ac yn arbennig ar ôl i Jamaica ddod i’w meddiant yn yr 1650au. Tyfodd y fasnach yn gyson. Erbyn 1730 Prydain oedd masnachydd caethion mwyaf y byd, ac yr oedd i aros yn y safle hwnnw hyd nes i’r Senedd ddileu’r fasnach yn 1807. Erbyn hynny yr oedd llongau Prydeinig wedi cludo dros dair miliwn o gaethion duon o Affrica i’r Byd Newydd, a’r rhan fwyaf o’r rheini, nid i dir mawr America ond yn hytrach i ynysoedd y Caribî.[16] Y mae hynny’n adlewyrchu pwysigrwydd y diwydiant siwgr, a phwysigrwydd ynysoedd y Caribî, i economi Prydain yn y ddeunawfed ganrif. ‘Sugar occupied the place in the eighteenth-century economy that steel occupied in the nineteenth and oil in the twentieth. Sugar was king’, meddai un hanesydd.[17] O’r herwydd, yr oedd trefedigaethau’r Caribî yn bwysicach o lawer i economi Prydain na’i threfedigaethau ar dir mawr America. Jamaica, yn wir, oedd trefedigaeth bwysicaf yr Ymerodraeth Brydeinig yn ystod y ddeunawfed ganrif.[18] Ond yr oedd angen tair gwaith cymaint o gaethweision i drin y cnydau siwgr ag yr oedd eu hangen i drin cnydau eraill,[19] a dyna ran o’r esboniad ar y cynnydd mawr yn y fasnach mewn caethion a welwyd wrth i’r ddeunawfed ganrif fynd yn ei blaen. Nid rhyfedd felly mai’r diwydiant siwgr ac ynysoedd y Caribî oedd prif ffocws yr ymgyrchoedd ym Mhrydain yn erbyn caethwasanaeth yn niwedd y ddeunawfed ganrif.
Dywed cofiannydd Iolo, Elijah Waring (Crynwr, a oedd, fel ei frawd-yng-nghyfraith, Joseph Tregelles Price, meistr gwaith haearn Mynachlog Nedd, yn elyn anghymodlon i gaethwasiaeth): ‘"The Bard of Liberty" was, in all probability, the first and only vendor of free-labour sugar in Wales.’ Ond yr oedd yr ymgyrch i beidio â phrynu siwgr o’r Caribî wedi dechrau o ddifrif yng Nghymru rai blynyddoedd cyn i Iolo agor ei siop, fel y gwelir oddi wrth ddau lyfryn a gyhoeddwyd tua 1792.[20]
Cyfieithiad o lyfryn Saesneg gan William Fox yw’r naill. Y cyfieithydd oedd Edward Barnes, Methodist o ogledd-ddwyrain Cymru, ac y mae’r teitl yn esbonio ei fwriad:
Hanes byrr o fasnach y caethglud yn Africa, neu’r slave trade, gyd â chyfarchiad at bobl Prydain Fawr, ar yr addasrwydd o ymatal oddiwrth siwgwr a rum yr India Orllewinol nes y ceir ei fwynhau yn gyfreithlon.
Llyfryn 16 tudalen ydyw, wedi’i argraffu yng ngwasg Anna Hughes yn Wrecsam. Ar yr wynebddalen ychwanegodd Edward Barnes ddau bennill o faled ar y mesur poblogaidd ‘Gwêl yr Adeilad’, yn null y canu rhydd cynganeddol, sy’n annog y Cymry i ymroi
o ddifri, i ymddidoli,
Oddi wrth gefnogi, hyn sy’n ddrygioni sêrth,
Gadawn eu Rum a’u Siwgwr, sy[’]n peri’r cynnwr certh.
A cheir penillion eraill ganddo i’r un perwyl y tu mewn i’r llyfryn.[21]
Teitl y llyfryn arall, a argraffwyd yng Nghaerfyrddin yng ngwasg Ioan Daniel, yw: Dioddefiadau miloedd lawer o ddynion duon, mewn caethiwed truenus yn Jamaica a lleoedd eraill; yn cael eu gosod at ystyriaeth ddifrifol y Cymry hawddgar, er mwyn ceisio eu hennill i adael suwgr, triagl, a rum. Gan Gymro, gelynol i bob gorthrech.
Llyfryn 16 tudalen yw hwn eto. Gwaith gwreiddiol Cymraeg yw’r pamffledyn hwn yn ei ffurf derfynol, fe ymddengys, er ei fod yn ôl pob tebyg yn tynnu ar nifer o lyfrau Saesneg ar y pwnc a oedd yn cylchredeg ar y pryd. Tua’r un adeg, eto o wasg Ioan Daniel yng Nghaerfyrddin, argraffwyd cân ddeuddeg pennill wyth llinell ar ffurf taflen faledol blyg-mawr yn dwyn y teitl Achwynion dynion duon, mewn caethiwed truenus yn Ynysoedd y Suwgr.[22] Dyma, o bosibl, y cyhoeddiad Cymraeg cyntaf yn erbyn caethwasiaeth. Y mae’n gerdd sy’n llifo’n rhwydd ac yn effeithiol ei hergydion. Dyma’r ddau bennill cyntaf:
Gwrandewch, Frutaniaid mwynion,
Achwynion dynion dû,
Sy’n goddef blin gaethiwed,
Gwae ni, o’ch plegid chwi:
O Affrica fe’n dygwyd,
Mewn modd lladradaidd gwîs,
I godi pethau melus
Eu blas i blesio’r blys.
Pan fo’ch yn gweled Suwgr,
Oh! cofiwch fel y cawd,
Trwy lafur annaturiol
Cystuddiol caethion tlawd:
Os yw yn felus gennych,
Bu’n chwerw dost i ni:
Yn sydyn yr arswydech
Pe clywech chwi ein cri.
A cheir ynddi’r holl elfennau cyfarwydd yng ngherddi gwrth-gaethwasaidd y cyfnod — y pwyslais fod pobl dduon a gwynion yn frodyr i’w gilydd, y rhwygo ar yr uned deuluaidd a ddaw i ran y caethion, erchylltra’r fordaith o Affrica a’r driniaeth farbaraidd a oedd yn disgwyl y rhai a gyrhaeddodd ben y daith. Diweddir y gân ag apêl i drigolion Prydain — sy’n ‘rhai o wrol fryd / I amddiffyn achos rhydd-did, / Trwy amryw barthau’r byd’ — i ymdrechu o blaid rhyddhau’r caethion, ‘gan wrthod melusderau / Sy wedi costi i ni’. Ar un adeg priodolwyd y llyfryn a’r gân i Benjamin Evans, gweinidog Annibynnol y Dre-wen ger Castellnewydd Emlyn; ond bellach derbynnir mai gweinidog gyda’r Bedyddwyr o ardal yr Hengoed yn nwyrain Morgannwg oedd y ‘Cymro, gelynol i bob gorthrech’ a luniodd y llyfryn, ac y mae’n bosibl iawn mai ef hefyd a luniodd y gân. Ei enw oedd Morgan John Rhys. Ac ni fyddai’n anodd credu mai ef oedd yn gyfrifol am y ddau gyhoeddiad, oherwydd yr oedd yn ffyrnig ei wrthwynebiad i gaethwasiaeth.[23]
Daethai Morgan John Rhys (1760—1804) yn drwm dan ddylanwad y Chwyldro Ffrengig a’i phwyslais ar ryddid a breiniau dyn. ‘Gwelai...yn nigwyddiadau 1789-90 yn Ffrainc wawr yr oes aur,’ meddai J. J. Evans; neu yng ngeiriau Morgan John Rhys ei hun: ‘’N awr mi wela’r Seren Ddydd.’[24] A chredai y deuai diwrnod yn fuan pan na fyddai sôn ‘ond mewn hanes am frenhinoedd ac offeiriaid a chaethweision’.[25] Ond fel Cristion pwysleisiai Morgan John Rhys ryddid ysbrydol yn ogystal â rhyddid gwladol. Credai mai rhan o’r esboniad ar y Chwyldro Ffrengig oedd bod y bobl wedi blino ar ormes brenhinoedd ac offeiriaid Pabyddol ac yn dyheu am y rhyddid a gynigiai’r efengyl Gristnogol. Felly dyma godi ei bac yn Awst 1791 a mynd drosodd i Baris a rhentu ystafell yno er mwyn pregethu’r efengyl ynddi a dosbarthu Beiblau yn rhad i’r bobl.[26] Y mae’r gweithgarwch hwn yn pwysleisio fod Morgan John Rhys hefyd yn rhan o’r mudiad cenhadol newydd a oedd ar gerdded yn y dyddiau hynny ymhlith Cristnogion Protestannaidd Prydain, mudiad a oedd yn llawn hyder a gobaith am lwyddiant byd-eang yr efengyl Gristnogol. Ac yng ngwaith Morgan John Rhys gwelwn yr hyder a’r gobaith a nodweddai cyfnod cynnar y Chwyldro Ffrengig a’r mudiad cenhadol fel ei gilydd, yn cydgyfarfod.[27] Gwrandewch ef mewn emyn a gyhoeddwyd yn 1794 dan y pennawd ‘Torriad y Wawr’:
Mae’r wawr yn torri draw,
A’r dydd yn agoshau;
(Mae’r byd mewn poen a braw)
A’r plant yn llawenhau;
Gorthrymwyr byd sy’n crynu i gyd,
A’r plant yn canu am bwrcas drud.
Mae prynu a gwerthu dyn
Yn awr bron d’od i ben;
Ni waeth pwy liw neu lun
Fo dynion îs y nen:
Maent oll yn wrthddrych cariad rhad,
Maent oll yn perthyn i’r un Tad.
Mae Affric fras, fu’n gaeth
Flynyddau hir, yn d’od
I dderbyn mêl a llaeth,
Trwy drefn faith y rhod:
Caiff caethion byd ar fyr ryddhad,
Mewn jubil berffaith, pwrcas gwaed.
Llewyrched dwyfol ras
Dros greigiau eitha’r byd;
Cyhoedder etto i ma’s
Efengyl bur o hyd:
Ne’s delo’r Ethiop dûa’i liw,
I garu a chanmol gras fy Nuw.[28]
Fel y nodwyd eisoes, y mae’r pwyslais ar y ffaith fod pawb yn frodyr o’r un cig a gwaed, waeth beth fyddo’n lliw, yn un sy’n codi droeon yn y cerddi yn erbyn caethwasiaeth.[29] Y mae’r gair ‘Jiwbil’ yn llawn arwyddocâd hefyd. Cyfeiria yn y lle cyntaf at arfer yn yr Hen Destament. Bob hanner can mlynedd cyhoeddid Jiwbili yn Israel. Cenid utgorn i gyhoeddi blwyddyn y Jiwbili, ac un o’i phrif nodweddion oedd bod holl gaethweision y wlad yn cael eu rhyddhau. I Gristnogion Cymru ddiwedd y ddeunawfed ganrif yr oedd Jiwbili yr Hen Destament yn rhyw fath o gysgod o’r rhyddid ysbrydol a ddeuai gyda’r Testament Newydd. Dyma damaid o drafodaeth Thomas Charles o’r Bala ar y gair ‘Jiwbili’ yn ei Eiriadur Ysgrythurol dylanwadol:
Utganiad yr utgorn a arwydda pregethiad yr efengyl, neu y cyhoeddiad o aberth Crist [ar y groes], a rhyddid i bechaduriaid o’u caethiwed mawr yn ganlynol i hynny.
Defnyddid y gair Jiwbili gan Gristnogion y cyfnod hwnnw yn ogystal i gyfeirio at gyfnod o lwyddiant arbennig i’r efengyl Gristnogol ar ddiwedd amser, ac yn y pen draw i gyfeirio at ddiwedd amser ei hun a’r Jiwbili nefol, pan fyddai pechod a drygioni yn cael eu trechu’n derfynol. Rhyddid ysbrydol sydd mewn golwg ganddynt fel arfer wrth ddefnyddio’r gair, ond pan fydd yn digwydd yng nghyd-destun trafodaethau am gaethwasiaeth, ni ellir ac ni ddylid osgoi cyd-destun gwreiddiol y gair yn ogystal — yn union fel na ddylid osgoi’r amwysedd (bwriadol?) yng ngeiriau olaf trydydd pennill Morgan John Rhys, ‘pwrcas gwaed’: ‘Caiff caethion byd ar fyr ryddhad / Mewn jubil berffaith, pwrcas gwaed.’ Cyfeirio at Grist yn prynu rhyddid ysbrydol i bechaduriaid trwy ei farwolaeth y mae’r geiriau ‘pwrcas gwaed’ yn y lle cyntaf, ond y maent yn ddiweddglo cyfoethog iawn i’r pennill o gofio’r modd yr oedd llenyddiaeth wrth-gaethwasaidd yn pwysleisio natur waedlyd y fasnach mewn caethion.
Y mae’n werth oedi hefyd gyda’r ymadrodd ‘Ne’s delo’r Ethiop dûa’i liw’ ym mhennill olaf yr emyn. Sonnir am ‘gannu’r Ethiop duaf fel yr eira’ mewn emyn gan weinidog Bedyddiedig arall o’r un cyfnod — Nathaniel Williams (1742-1826), Llanwinio — yn y pennill ‘Ffrydiau tawel byw rhedegog’, pennill a gyhoeddwyd gyntaf yn 1787. Ceir cyfeiriad tebyg gan Williams Pantycelyn yn ei emyn, ‘Tyred, Iesu, i’r anialwch’, ac y mae David Charles, Caerfyrddin (brawd Thomas Charles o’r Bala) yn sôn droeon am yr ‘Ethiop’ yn ei emynau ef — tybed ai un rheswm am hyn yw bod David Charles wedi byw am gyfnod yn yr 1780au ym Mryste, un o brif borthladdoedd y gaethfasnach? Ceir cyfeiriadau at yr ‘Ethiop’ mewn emynyddiaeth Saesneg hefyd, megis yn fersiwn llawn emyn enwog Charles Wesley (1707-88), ‘O for a thousand tongues to sing’, sy’n cynnwys y geiriau ‘Awake from guilty nature’s sleep, and Christ shall give you light, / Cast all your sins into the deep, and wash the Ethiop white.’ Yn emyn John Elias (1774-1841), ‘Ai am fy meiau i’, y ceir y cyfeiriad enwocaf ato mewn emynyddiaeth Gymraeg: ‘A’i waed a ylch yr Ethiop du / Yn lân fel eira gwyn’.[30] Yn y casgliad cydenwadol newydd, Caneuon Ffydd (2001), newidiwyd ‘yr Ethiop du’ yn emyn Elias i ‘y galon ddu’, yn rhan o’r polisi golygyddol i ddileu cyfeiriadau ethnig yn yr emynau.[31] Ond ni symudwyd y gair ‘du’, fel sy’n digwydd mewn rhai llyfrau emynau Saesneg cyfoes, lle y mae ymadroddion megis ‘whiter than snow’ yn cael eu newid i ‘brighter than snow’. Rhaid cofio mai cyfeiriadau beiblaidd (sef Jeremeia 13:23 ac Actau 8:26-39), a glanhau trosiadol, ysbrydol, yn hytrach nag ystyriaethau ethnig, fyddai flaenaf ym meddwl yr emynwyr wrth iddynt sôn am yr ‘Ethiop’. Wedi dweud hynny, y mae’r chwarae symbolaidd ar ddu a gwyn yn elfen gyffredin mewn barddoniaeth wrth-gaethwasaidd sy’n sôn am gyflwr yr enaid ac am gaethion duon yn troi at Grist, yn enwedig o’r 1790au ymlaen. Yr enghraifft fwyaf trawiadol, efallai, yw’r ddelwedd mewn cerdd gan y gaethes ddu efengylaidd enwog o Boston, Phillis Wheatley (?1753-1784), delwedd sy’n chwarae ar y broses o drin siwgr: ‘Remember, Christians, Negros, black as Cain, / May be refin’d, and join th’ angelic train.’[32]
Ymddangosodd emyn Morgan John Rhys yn ail ran Pigion o Hymnau yn 1794. Morgan John Rhys a baratôdd ran gyntaf Pigion o Hymnau yn gynharach y flwyddyn honno, ond gadawodd y gwaith o baratoi’r ail ran i’w gyfaill, Daniel Jones, Abertawe, am ei fod â’i fryd ar fynd i America — ‘byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder wedi ei sefydlu gan Dduw ar y ddaear’, meddai mewn llyfryn yn 1794 yn dadlau’r achos dros ymfudo yno.[33] Hwyliodd o Lerpwl ar 1 Awst 1794 a glanio yn Efrog Newydd tua 12 Hydref. Aeth ati ar ei union i dramwyo hyd a lled y weriniaeth newydd, yn hyrwyddo achos trigolion brodorol America a’r caethion duon, heb sôn am y genhadaeth dramor, heddwch, a rhyddid crefyddol a gwleidyddol, cyn mynd ati i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhensylfania. ‘Brithir ei anerchiadau yn America’, meddai J. J. Evans, ‘gan apeliadau ar ran yr Indiaid a chaethion Ynysoedd y Gorllewin, a gwna hynny ar dir breiniau dyn.’[34]
Radicaliaeth efengylaidd a’r mudiad cenhadol
Wrth drafod yr ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth yn ystod y blynyddoedd rhwng 1823 ac 1833, dadleuodd Gwynne Owen fod gwahaniaeth rhwng y cyfraniadau yn y wasg Saesneg yng Nghymru a’r wasg Gymraeg, a bod y wasg Saesneg yn defnyddio dadleuon economaidd yn erbyn caethwasiaeth tra bod y wasg Gymraeg yn canolbwyntio ar ddadleuon moesol a chrefyddol.[35] Ac yn sicr, mae elfen Gristnogol amlwg yn y rhan fwyaf o’r cerddi gwrth-gaethwasaidd Cymraeg y gwn i amdanynt, boed y rheini’n gerddi gwreiddiol neu yn gyfieithiadau. Yr elfen amlwg arall sy’n gyffredin i lawer ohonynt yw’r pwyslais ar y rhwygo ar yr uned deuluaidd sy’n digwydd wrth brynu a gwerthu caethweision, pwyslais sydd — fel yr elfen Gristnogol — yn amlwg iawn yn Uncle Tom’s Cabin hefyd.
Dau air allweddol yn hanes a diwylliant Cymru yn ail hanner y ddeunawfed ganrif a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw ‘rhyddid’ a ‘chyfiawnder’. Pan feddyliwn am y geiriau hynny yng nghyd-destun y ddeunawfed ganrif, dichon mai am gefnogwyr Rhyfel Annibyniaeth America (1775) a’r Chwyldro Ffrengig (1789) y meddyliwn gyntaf, ac am radicaliaid megis Iolo Morganwg a Jac Glan-y-gors, a’r Hen Ymneilltuwyr ym myd crefydd. Ond rhaid cofio bod ‘rhyddid’ a ‘chyfiawnder’ yn allweddol yng ngeirfa dychweledigion y Diwygiad Efengylaidd hwythau. Y mae’n wir mai’r ysbrydol sydd flaenaf yn eu meddyliau wrth eu defnyddio: am y rhyddid ysbrydol sy’n dod trwy gredu yng Nghrist, am ryddid yr Ysbryd wrth addoli, am gael eu gwisgo â chyfiawnder Crist. Ond yr oedd oblygiadau moesol a chymdeithasol i’w crefydd hwythau, ac ymradicaleiddio araf yn digwydd yn eu hanes mewn perthynas â materion gwleidyddol. Yn wir, un o’r agweddau allweddol yn natblygiad hanes a diwylliant Cymru dros y ganrif rhwng tua 1760 ac 1860 yw’r modd y mae’r grefydd efengylaidd honno nid yn unig yn tyfu yn ei dylanwad ac yn nifer ei deiliaid nes dod yn grefydd lywodraethol Cymru erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond hefyd y modd y mae hi, wrth dyfu, yn ymradicaleiddio mewn materion gwleidyddol a chymdeithasol, a rhyddid a chyfiawnder ‘daearol, corfforol’ yn dod yn gynyddol bwysig ochr yn ochr â rhyddid a chyfiawnder ‘nefol, ysbrydol’.
Y mae llawer elfen ar waith yn y broses o newid Cymru dawel, geidwadol hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif yn fwrlwm radicalaidd erbyn canol y bedwaredd ar bymtheg — y mae trefoli, twf diwydiant, twf y wasg, ac yn y blaen, oll â’u rhan[36] — ond nid oes dim sy’n fwy canolog i’r broses honno na thwf efengylyddiaeth a’r radicaleiddio a fu arni. Yn ein dyddiau ni, yng nghanol yr ailddarganfod a’r ailddehongli ar radicaliaid lliwgar megis Iolo Morganwg a William Jones, Llangadfan, y mae’n werth cofio geiriau R. T. Jenkins:
Diddorol yn hytrach na phwysig ydyw Iolo ym myd gwleidyddiaeth. A diddorol, ond cwbl ddiddylanwad, oedd...William Jones [Llangadfan]...Yn y pen draw, gwnaeth y Diwygiadau Methodistaidd fwy efallai nag unrhyw ddylanwad arall i ddeffro ymwybyddiaeth wleidyddol Cymru, ac i roi corff i egnïoedd gweithredol yr ymwybyddiaeth honno pan ddeffrowyd hi.[37]
Ac nid oedd cyfrwng pwysicach yn y gwaith o ddeffro efengylyddiaeth Cymru yn wleidyddol ac yn gymdeithasol na’r ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth a gododd yn donnau cyson o adeg y Chwyldro Ffrengig hyd nes dileu caethwasanaeth yn yr Unol Daleithiau yn 1865, adeg Rhyfel Cartref America.[38] Yr oedd hyd yn oed John Elias, a oedd mor amharod i ymyrryd yn y byd gwleidyddol (ond a gâi, dylid cofio, drafferth gynyddol yn ei flynyddoedd olaf i reoli’r to ifanc, mwy radical o Fethodistiaid a oedd yn codi o’i gwmpas erbyn yr 1830au),[39] yn gefnogydd brwd i’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth.[40] Gwelir ei deimladau dwys ar y mater mewn llythyr a ysgrifennodd yn 1806:
Buom yn L[iver]pool yn dywedyd llawer am bechadurusrwydd y Slave Trade...Cawsom fod rhai o’r brodyr yn gweithio ar y Llongau sydd yn y trade melltigedig hwn, ie, un ohonynt yn gweithio Cadwynau i’w rhoddi am y Caethion truain; anogasom ef i roddi y Gorchwyl i fynu yn ddioed; anogasom bawb i beidio ag ymdrin a dim sydd yn perthyn i’r Gorchwyl Creulon hwnnw...Gwell marw o newyn na chael llawnder o fara wrth fod yn gyfranogion o waed!!![41]
Cyfeiriwyd yn gynharach at y mudiad cenhadol tramor a ddechreuodd o ddifrif ymhlith Protestaniaid Prydain ar ôl i William Carey ac eraill sefydlu Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn 1792. (Yr oedd Carey, gyda llaw, yn un a groesawai’r Chwyldro Ffrengig ac yn weriniaethwr o argyhoeddiad erbyn iddo fynd yn genhadwr i’r India.) Y mae’n bwysig nodi fod y mudiad cenhadol hwnnw a’r ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth yn agos gysylltiedig. Yr oedd William Wilberforce, er enghraifft, yn ogystal â bod mor amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, hefyd yn gefnogwr diflino i’r mudiad cenhadol. Ac nid yw’r cysylltiad rhwng y ddau fudiad yn annisgwyl mewn gwirionedd, oherwydd y mae’r weithred o genhadu yn rhagdybio bod y bobl hynny yn eneidiau byw gwerthfawr, pobl y bu Crist farw drostynt, pobl wedi’u creu ar lun a delw Duw, ac nid yn hanner anifeiliaid. Y mae tuedd yn y meddwl poblogaidd i gyplysu’r mudiad cenhadol a byd masnach a milwra, a darlunio’r cenhadon fel rhai a oedd yn mynd allan â’r Beibl yn y naill law, gwn yn y llall, ac arian yn eu pocedi. Ni ellir gwadu, ysywaeth, na fu rhai enghreifftiau anffodus o ymddygiad felly. Ond yn gyffredinol, draenen yn ystlys y masnachwyr a’r milwyr imperialaidd fu’r cenhadon, a bu gwrthwynebiad i gaethwasiaeth yn nodwedd gyson o’r mudiad cenhadol ar hyd ei hanes.[42]
Williams Pantycelyn a Goronwy Owen
Ffigur pwysig yn natblygiad yr ymwybyddiaeth genhadol yng Nghymru a’r tu hwnt oedd yr arweinydd Methodistaidd mawr, William Williams o Bantycelyn,[43] ac y mae iddo ei le hefyd yn hanes yr ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth. Dyma’r brawddegau cyfarwydd sy’n agor cyfrol enwog Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927):
Yn fuan wedi’r flwyddyn 1740 fe gychwynnodd Williams o Bantycelyn ar ei yrfa lenyddol. Nid rhyw lawer ar ei ôl dechreuodd Goronwy Owen ar ei waith yntau. Gan hynny, y mae’n gyfleus dweud mai 1740 yw blwyddyn geni barddoniaeth Gymraeg ddiweddar.
Dau glerigwr yn Eglwys Loegr oedd William Williams (1717-91) a Goronwy Owen (1723-69), ond ym mhob ffordd arall, teithiasant lwybrau pur wahanol, yn ddiwinyddol, yn ddiwylliannol ac yn ddaearyddol. Crwydro fu hanes y ddau. Crwydrodd Goronwy Owen o guradaeth i guradaeth yng Nghymru a Lloegr, nes codi ei bac yn 1757 a mordwyo i Virginia, lle y treuliodd weddill ei oes. Crwydrodd Williams Pantycelyn yntau o le i le. Teithiodd dros 2,500 o filltiroedd ar gefn ei geffyl bob blwyddyn am ymron hanner can mlynedd, yn pregethu ac yn bugeilio’r seiadau Methodistaidd. Ond yn wahanol i Goronwy Owen, crwydro Cymru a wnaeth Williams, a hynny o’i gartref sefydlog a dedwydd ym Mhantycelyn ger Llanymddyfri, heb fentro fawr dros y ffin i Loegr, heb sôn am wledydd eraill.
Diweddodd Goronwy Owen ei fywyd yn America yn berchennog planhigfa, ac yn berchennog caethweision hefyd. Yr eitemau cyntaf yn y rhestr o’i eiddo pan brofwyd ei ewyllys oedd ei bedwar caethwas: ‘A negro named Peg Old (£12/10s); A negro wench named Young Peg (£40); A [negro] boy, Bob (£30); A [negro] boy, Stephen (£15); A Desk Black Walnut (£3/10s); Six Walnut chairs (£3/10s)...’[44]
Diweddu ei fywyd yn ffermdy Pantycelyn fu hanes Williams. Ond er na chrwydrodd i ben draw’r byd fel Goronwy Owen, fe’i cwmpasodd yn ei ddychymyg droeon, yn enwedig efallai pan oedd wrthi’n paratoi ei gyfrol fawr ar hanes holl grefyddau’r byd, Pantheologia, yn yr 1760au a’r 1770au. Y mae’n gyfrol sy’n llawn gwybodaeth nid yn unig am y crefyddau gwahanol, ond hefyd am ddaearyddiaeth, economi, arferion, bwydydd a gwisgoedd y gwahanol wledydd. Rhannau o Affrica sydd dan sylw yn y bennod gyntaf, ac wrth drafod Gini ceir rhai paragraffau gan Williams yn manylu ar y fasnach mewn caethion. Ei farn arni yw:
Diau yw nas gellir fyth amddiffyn na chyfiawnhau y fath draffic â hwn. Pe bai y trueiniaid hyn yn cael eu dwyn i Ewrop, a chael ymddwyn atynt fel dynion,...ni fyddai yn ddim gorthrymder mawr i gyfnewid meistri gwynion yn lle rhai duon; ond eu gwerthu hwynt drachefn i’r ’Sbaniaid creulon,...i gael eu trin yn waeth nag anifeiliaid, sydd raid gael ei farnu...[Ac] mae llawer o’n planwyr ni yn America heb roi fawr driniaeth well iddynt, gan wneud cynghrair â’i gilydd i beidio gwneud Cristnogion ohonynt, rhag ofn iddynt ddeall bod y grefydd Gristnogol yn gorchymyn i bawb i wneuthur fel y dymunent i eraill wneuthur iddynt hwy, ac yn ganlynol y disgwylient gael triniaeth fel dynion, ag sydd â’r un Duw ac â’r un Crist wedi marw trostynt.[45]
Daeth emyn Saesneg Williams Pantycelyn, ‘O’er those gloomy hills of darkness’ — a gyfieithwyd i’r Gymraeg yn ‘Dros y bryniau tywyll niwlog’ gan ei fab, John — yn un o anthemau’r mudiad cenhadol a gododd yn yr 1790au, am ei fod yn rhoi mynegiant gwefreiddiol i’r gred a oedd yn gyrru’r mudiad hwnnw yn ei flaen, sef yr argyhoeddiad y byddai cyfnod o lwyddiant rhyfeddol i’r ffydd Gristnogol yn fyd-eang cyn diwedd y byd, a bod y cyfnod hwnnw (‘y Milflwyddiant’) bellach wrth y drws. Lluniwyd yr emyn tua 1771. Yn 1770 bu farw’r pregethwr Methodistaidd grymus George Whitefield, gan adael y cartref i blant amddifaid yr oedd wedi’i sefydlu yn Georgia — ‘buildings, land, negroes and every thing’ — i ofal noddwraig bwysig i’r Methodistiaid, Arglwyddes Huntingdon. Ymddengys i emyn Williams gael ei lunio yn sgil cais gan yr Arglwyddes am emynau at ddefnydd y cartref yn Georgia. A thybed a oedd y caethweision yno yn rhannol ym meddwl Williams wrth iddo lunio’r llinellau a ganlyn?
Let the Indian, let the negro,
Let the rude barbarian see
That divine and glorious conquest
Once obtained on Calvary... [46]
Bid a fo am hynny, ceir tystiolaeth fod yr emyn hwn, a'i sôn am ‘Blessèd Jubil! Let thy glorious morning dawn’, yn un o hoff emynau rhai o’r cyn-gaethweision Affro-Americanaidd a aeth i wladychu Sierra Leone yn yr 1790au.[47]
Peth i resynu ato, a dweud y lleiaf, yw bod George Whitefield nid yn unig yn derbyn caethwasanaeth yn rhan o’r drefn gymdeithasol ac economaidd, ond hefyd wedi cefnogi ei ymestyn i dalaith Georgia. Gwahanol iawn oedd ymateb yr arweinydd mawr Methodistaidd arall, John Wesley, fel y gwelir o’i ymosodiad ffyrnig ar gaethwasanaeth yn ei gyfrol, Thoughts Upon Slavery (1774). Dylid cofio, er hynny, i Whitefield gael ei alw’n ‘gyfaill mawr cyntaf y negro Americanaidd’, a hynny ar gyfrif ei ymgyrchoedd yn erbyn cam-drin caethweision ac o blaid eu haddysgu ac efengylu iddynt.[48] Y darn o farddoniaeth a ddaeth â’r gaethes Phillis Wheatley i sylw cyhoeddus am y tro cyntaf oedd ei marwnad i George Whitefield, a gafodd gylchrediad eang yn America a Phrydain ar ffurf taflen faledol. Yn y farwnad, pwysleisia’r modd yr oedd Whitefield yn cynnig Crist i bawb, gan gynnwys pobl dduon:
Take HIM [he said] ye Africans, he longs for you;
Impartial SAVIOUR, is his title due;
If you will chuse to walk in grace’s road,
You shall be sons, and kings, and priests to GOD.
Lluniodd Williams Pantycelyn farwnadau Cymraeg a Saesneg i’w gyfaill, George Whitefield, a phwysleisia yntau fel y byddai Whitefield yn cynnig yr efengyl i bawb: ‘[D]ygodd hanes pen Calfaria.../ Grym efengyl wen fendigaid, / Draw i’r Negroes ac i’r Indiaid; / Cymysg lu, gwyn a du, Saeson a Moeris...’ Phillis Wheatley oedd y bardd Affro-Americanaidd cyntaf i gael ei waith wedi’i gyhoeddi. Wedi methu cael cyhoeddwr yn America, cafodd nawdd Arglwyddes Huntingdon i gyhoeddi ei chyfrol o gerddi, Poems on Various Subjects, Religious and Moral (1773), a bu yn Llundain yn 1773 yng nghyd-destun cyhoeddi’r gyfrol. Tybed a fu iddi gyfarfod â Phantycelyn tra oedd yno? Naddo, mae’n debyg; ond y mae’n bur sicr fod y ddau yn gwybod am ei gilydd.
Cylchgronau a thaflenni baledi
Person amlwg yn y mudiad cenhadol a gododd yn yr 1790au oedd Thomas Charles o’r Bala, un a fu’n etifedd i Williams Pantycelyn ar lawer cyfrif. Yn ogystal â thyfu’n brif arweinydd y mudiad Methodistaidd yng Nghymru, yr oedd gan Charles gylchoedd eang o gysylltiadau yn y byd efengylaidd yn Lloegr, cylchoedd a gynhwysai ymgyrchwyr amlwg yn erbyn caethwasiaeth, gan gynnwys William Wilberforce, aelodau Sect Clapham, John Newton (y cyn-fasnachydd caethion ac awdur yr emyn ‘Amazing Grace’, a ddaeth mor boblogaidd ymhlith Affro-Americaniaid), a’r bardd William Cowper (y cafwyd cyfieithiadau Cymraeg o’i gerdd ddylanwadol ‘The Negro’s Complaint’ gan Siôn Wyn o Eifion, Brutus a Tudno).[49]
Ac yn union fel y bu cerddi Saesneg Cowper a’i debyg yn hwb i’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth yn Lloegr, felly hefyd y bu hi yn achos cerddi Cymraeg. Y mae cylchgronau’n dechrau amlhau o ddifrif yn y Gymraeg yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig ar ôl tua 1820, a gwelir cyhoeddi cerddi ar gaethwasiaeth yma a thraw ar eu tudalennau, yn enwedig wrth i’r ymgyrch i ryddhau’r caethion yn Jamaica a thiriogaethau eraill Prydain boethi erbyn tua dechrau’r 1830au.[50] Hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd oedd oes aur y taflenni baledi bychain fel cyfrwng diddanu a goleuo’r Cymry, a gwelir sawl cerdd yn erbyn caethwasiaeth ar y taflenni hyn. (Diddorol yw nodi, gyda llaw, pa mor awgrymog yn aml yw enwau’r tonau a ddewiswyd ar gyfer y cerddi hyn, rhai megis ‘Home Sweet Home’ ac ‘Anhawdd Ymadael’.)
Un o’r eitemau amlycaf ar y taflenni baledi yw cerdd y gweinidog Annibynnol o Lanbryn-mair, Samuel Roberts (‘S.R.’; 1800-85), ‘Cwynion Yamba, Y Gaethes Ddu’, cân sydd yn rhydd-gyfieithiad o gerdd gan Eaglesfield Smith a Hannah More (un arall a oedd yn troi yng nghylchoedd efengylaidd Thomas Charles yn Lloegr, ac un a danysgrifiodd hefyd i gyfrol farddoniaeth Saesneg Iolo Morganwg). Y gerdd amlwg arall ar y taflenni baledi yw ‘Cân y Negro Bach’. Gweinidog gyda’r Bedyddwyr oedd ei hawdur, sef Benjamin Price (‘Cymro Bach’; 1792-1854), o Flaenau Gwent, awdur cynhyrchiol, llawn dychymyg, na chafodd y sylw a haedda. Nid af i fanylu ar y cerddi a’u hawduron yma, gan fy mod yn bwriadu gwneud hynny mewn man arall. Ond yr wyf am nodi dau beth amdanynt. Yn gyntaf, yr oedd y ddau awdur yn amlwg yn y mudiad cenhadol. Yn ail, er i’r cerddi hyn fod ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd a dylanwadol yn y frwydr dros ryddhau caethion yr Unol Daleithiau yng nghanol y ganrif, cyd-destun gwreiddiol llunio’r ddwy gân oedd yr ymgyrch i ryddhau’r caethweision mewn tiriogaethau Prydeinig megis Jamaica yn yr 1830au. Cyhoeddwyd cerdd ‘S.R.’ am y tro cyntaf yn Y Dysgedydd yn Ebrill 1830, a ‘Cân y Negro Bach’ yn Greal y Bedyddwyr yn Rhagfyr 1830, cylchgrawn sy’n llawn sôn am Jamaica, am fod gan y Bedyddwyr waith cenhadol pwysig yno, a’r gwrthdaro rhwng y cenhadon hynny a chynheiliaid caethwasiaeth ar yr ynys yn un cyson a chas.
Wrth nesu at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwn y frwydr dros ryddhau caethion yr Unol Daleithiau yn dod i ganol y llwyfan. Gwelwn hefyd ryddiaith, a chyfieithiadau o Uncle Tom’s Cabin yn arbennig, yn disodli cerddi i ryw raddau fel y prif gyfrwng llenyddol yn y Gymraeg yn yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth. Ond nac anghofier pwysigrwydd y gân yn yr ymgyrch honno, yn enwedig yn hanner cyntaf y ganrif; nac anghofier ychwaith bwysigrwydd yr ymgyrch yn erbyn y fasnach mewn caethion, a’r ymgyrchoedd i ryddhau caethion Jamaica ac Unol Daleithiau America, yn y broses o radicaleiddio Cymru hithau.
Nodiadau
[1] Gwynne E. Owen, ‘Welsh Anti-Slavery Sentiments 1790-1865’ (Traethawd MA anghyhoeddedig Prifysgol Cymru [Aberystwyth], 1964), t. 5.
[2] Ar feirdd Cymraeg America, gw. Jerry Hunter, ‘Y Traddodiad Llenyddol Coll’, Taliesin, 118 (Gwanwyn 2003), tt. 13-44. Ar agweddau Cymry America at gaethwasanaeth, gw. Gwynne E. Owen, ‘Welsh Anti-Slavery Sentiments 1790-1865’, penodau 6-7; Maldwyn A. Jones, ‘Welsh-Americans and the Anti-Slavery Movement in the United States’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1985, tt. 105-29; Jerry Hunter, ‘Rhyddid! Rhyddid?’, Barn, 477 (Hydref 2002), tt. 22-3.
[3] Helen Ramage, ‘Eisteddfodau’r Ddeunawfed Ganrif’, yn Twf yr Eisteddfod, gol. Idris Foster (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968), tt. 24-5; J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru (Lerpwl, 1928), tt. 42-3.
[4] J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru, tt. 44-8; J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau (Caerdydd, 1935), tt. 92-3; David Thomas (‘Dafydd Ddu Eryri’), Corph y Gaingc (Caernarfon, 1834), tt. 39-40, 42; D. Silvan Evans (gol.), Gwaith y Parch. Walter Davies, A.C. (Gwallter Mechain), cyf. 2 (Caerfyrddin a Llundain, 1868), tt. 6, 8, 62-4.
[5] Geraint H. Jenkins, Cadw Tŷ mewn Cwmwl Tystion (Llandysul, 1990), tt. 228-9, 234-7, 258, 261.
[6] T. C. Evans (‘Cadrawd’) (gol.), Gwaith Iolo Morganwg (Llanuwchllyn, 1913), tt. 48; 1793 oedd dyddiad cyfansoddi’r gân yn ôl cofnod arall yn llawysgrifau Iolo, ac 1798 mewn cofnod arall, gw. J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru, t. 90. Yn Llyfrgell Salisbury, Prifysgol Caerdydd, y mae dau gopi argraffedig o’r gân ar ffurf baled blyg-mawr yn dwyn y teitl Breiniau Dyn. Can Newydd. Ar y naill daflen ceir yr argraffnod ‘Merthyr: Argraffwyd gan David John, Ieu., a Morgan Williams’. Ychwanegwyd nodyn pensil ar y daflen yn dweud: ‘Published as a supplement to "Udgorn Cymru," Oct. 1, 1841’. Papur y Siartiaid, a lansiwyd yn 1840, oedd Udgorn Cymru. (Cyhoeddodd Morgan Williams ysgrif ar Iolo Morganwg yn ail gyfrol y cylchgrawn The Red Dragon yn 1882.) Nid oes dyddiad nac argraffnod ar y daflen arall, ond gellir dyfalu oddi wrth y cysodiad teip iddi gael ei hargraffu ychydig yn gynharach na’r llall, o bosibl.
[7] Corph y Gaingc (1834), t. 416. Digwydd y geiriau mewn cân sy’n ymosod ar Iolo am wadu Cristnogaeth. Y mae Iolo yn ‘ddau waeth na’r diawliaid’ oherwydd, er bod y cythreuliaid yn gwrthryfela yn erbyn Duw, y maent o leiaf yn credu ynddo, ac yn crynu o’r herwydd (Iago 2:19). I ddangos fod perthynas Iolo â Dafydd Ddu (ac â’r Methodistiaid) yn fwy cymhleth nag a awgrymir weithiau, y mae’n werth cofio i Ddafydd Ddu gael ei wahodd yn 1791 i aros am ‘fis neu ychwaneg’ at un o gydnabod Iolo, y clerigwr Methodistaidd, Dafydd Jones, Llan-gan, er mwyn iddo gael ymweld â Iolo — gw. G. J. Williams, Iolo Morganwg: Y Gyfrol Gyntaf (Caerdydd, 1956), t. 79. [Gweler ymhellach E. Wyn James, ‘Iolo Morganwg. Thomas William a Gwladgarwch y Methodistiaid’, Llên Cymru, 27 (2004), tt. 172-6.]
[8] Poems, Lyric and Pastoral (1794), cyf. 2, t. 209; gw. hefyd J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru, tt. 87-8. Teitl y gân oedd ‘Ode on the Mythology of the Ancient British Bards’. Ceir ymosodiad ar gaethwasiaeth hefyd yn y gerdd ‘Solitude’, a luniwyd ganddo yn 1789 ac a gynhwysir yng nghyfrol gyntaf Poems, Lyric and Pastoral (1794), tt. 142-5. Gwaetha’r modd, ni chynhwysir yr un o gerddi Saesneg Iolo ymhlith y 400 cerdd ym mlodeugerdd James G. Basker, Amazing Grace (2002). Ceir tair cân Gymraeg gan Iolo yn erbyn y gaethfasnach ac yn dathlu ei diddymiad yn Cadrawd (gol.), Gwaith Iolo Morganwg, tt. 53-60.
[9] Ceir sawl enw diddorol arall o dan y llythyren ‘W’ yn rhestr y tanysgrifwyr, gan gynnwys tri brawd Iolo (a oedd erbyn hynny ill tri yn byw yn Jamaica), y ddau Fethodist, John Williams, Sain Tathan a Peter Williams yr Esboniwr, a Syr Watkin Williams Wynne. Ar y tanysgrifwyr i’r gyfrol yn gyffredinol, gw. J. Kyrle Fletcher, ‘Iolo Morganwg’s List of Subscribers’, Journal of the Welsh Bibliographical Society, 6:1 (Gorffennaf 1943), tt. 39-41.
[10] Elijah Waring, Recollections and Anecdotes of Edward Williams (Llundain, 1850), t. 61.
[11] Ceir y gerdd gyfan, yn naw pennill wyth llinell, ynghyd â cherdd arall saith pennill o hyd ar yr un mesur a’r un thema, yn Cadrawd (gol.), Gwaith Iolo Morganwg, tt. 56-60. Y mae tipyn mwy o dân yn y gân hon nag sydd yn emynau Iolo yn gyffredinol — gw. W. Rhys Nicholas, ‘Iolo Morganwg a’i Emynau’, Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, 1:2 (Gorffennaf 1969), tt. 14-25.
[12] Dafydd Glyn Jones, Un o Wŷr y Medra: Bywyd a Gwaith William Williams, Llandygái (Dinbych, 1999), tt. 102-3; Gwyn A. Williams, When Was Wales? (Harmondsworth, 1985), tt. 143, 182.
[13] Dyfynnwyd yn E. G. Millward, Ceinion y Gân: Detholiad o Ganeuon Poblogaidd Oes Victoria (Llandysul, 1983), tt. xxv.
[14] G. J. Williams, Iolo Morganwg: Y Gyfrol Gyntaf, tt. 232-4; cf. Elijah Waring, Recollections and Anecdotes of Edward Williams, tt. 58-60. [Ar hyn, gw. ymhellach Andrew Davies, ‘ "Uncontaminated with Human Gore"? Iolo Morganwg, Slavery and the Jamaican Inheritance’, yn Geraint H. Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005).]
[15] Elijah Waring, Recollections and Anecdotes of Edward Williams, tt. 107-8. Pwysleisir y ffaith fod pris gwaed ar siwgr mewn sawl cerdd Saesneg o’r un cyfnod. Er enghraifft, mewn soned ar gaethwasiaeth a gyhoeddwyd yn 1794 gan un o gydnabod Iolo, y bardd Robert Southey, anerchir ‘ye who at your ease sip the blood-sweeten’d beverage!’ (James G. Basker, Amazing Grace, t. 430). Roedd Iolo ei hun yn eithriadol hoff o de, ac o siwgr yn ei de.
[16] James G. Basker, Amazing Grace, tt. xxxv-xxxvi.
[17] Eric Williams, From Columbus to Castro: The History of the Caribbean 1492-1969 (Llundain, 1970), t. 121.
[18] Ibid., t. 152.
[19] Ibid., t. 122.
[20] Tua diwedd 1791 y dechreuodd y mudiad i berswadio pobl i ymatal rhag defnyddio siwgr a gynhyrchwyd gan lafur caeth (gw. Gwynne E. Owen, ‘Welsh Anti-Slavery Sentiments 1790-1865’, t. 6).
[21] Eiluned Rees, Libri Walliae (Aberystwyth, 1987), rhif 2058; J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau, tt. 87, 93.
[22] Un copi o’r daflen sydd wedi goroesi, a hynny ymhlith papurau Iolo Morganwg yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC 21405E). Ar wynebddalen y llyfryn Dioddefiadau miloedd lawer o ddynion duon, dywedir fod cân yn erbyn arferyd siwgr ar werth hefyd, a diau mai cyfeirio at y daflen hon y mae hynny.
[23] Ar y ddau gyhoeddiad hyn, gw. Eiluned Rees, Libri Walliae, rhifau 4305 a 5635; J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau, tt. 21, 85-8. Priodolwyd y ddau i Benjamin Evans yn William Rowlands (‘Gwilym Lleyn’), Llyfryddiaeth y Cymry, gol. D. Silvan Evans (Llanidloes, 1869), tt. 644, 648.
[24] J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru, t. 73.
[25] J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau, tt. 88-9.
[26] Ibid., t. 23.
[27] E. Wyn James, ‘Williams Pantycelyn a Gwawr y Mudiad Cenhadol’, yn Cof Cenedl XVII, gol. Geraint H. Jenkins (Llandysul, 2002), tt. 95-7. Ar Morgan John Rhys a’r mudiad cenhadol, gw. J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau, tt. 97-107.
[28] Daniel Jones (gol.), Pigion o Hymnau a Chaniadau Ysprydol...Yr Ail Ran (Caerfyrddin, [1794]), emyn 51; gw. hefyd J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru, tt. 81-2; J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau, t. 89.
[29] Brawdoliaeth dyn yw sail dadl Morgan John Rhys dros ddileu caethwasiaeth yn y llyfryn Dioddefiadau miloedd lawer o ddynion duon: ‘Yr ydym yn credu mai’r un Duw a wnaeth y bobl dduon a ninnau, mai’r un Tad o’r Nef sydd i ni oll. Brodyr ydym’ (dyfynnwyd yn J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau, t. 88; cf. y cerddi gan Tomos Glyn Cothi ac Iolo Morganwg o’r un cyfnod, tt. 96-7).
[30] Ar emyn Elias ac amgylchiadau ei gyfansoddi, gw. E. Wyn James, Dechrau Canu: Rhai Emynau Mawr a’u Cefndir (Pen-y-bont ar Ogwr, 1987), t. 30.
[31] Brynley F. Roberts, ‘Golygu Caneuon Ffydd’, Y Traethodydd, Ebrill 2001, tt. 77-8, 82.
[32] Ar hyn, gw. James G. Basker, Amazing Grace, tt. 10, 177-8, 192, 292, 382.
[33] J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau, tt. 35-6, 135, 176; J. J. Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru, tt. 80-1. Yn Llyfrgell Salisbury, Prifysgol Caerdydd, cedwir tua dwsin, o leiaf, o lyfrau a fu’n eiddo i Iolo Morganwg, ac yn eu plith ei gopi ef o ran gyntaf Pigion o Hymnau (1794).
[34] J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau, tt. 40, 89-92, 103-5; Gwyn A. Williams, Madoc: The Making of a Myth (Rhydychen, 1987), t. 99.
[35] Gwynne E. Owen, ‘Welsh Anti-Slavery Sentiments 1790-1865’, tt. 47, 55-6. Yr oedd hyn yn wir mewn cyfnodau diweddarach hefyd, ac ymhlith Cymry America yn ogystal ag yng Nghymru, gw. tt. 136-7, 162.
[36] Gweler, er enghraifft, bennod Prys Morgan, ‘Engine of Empire c.1750-1898’, yn Prys Morgan (gol.), The Tempus History of Wales (Stroud, 2001).
[37] R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Caerdydd, 1933), tt. 23, 28-9; cf. Gwyn A. Williams, Madoc: The Making of a Myth, t. 192.
[38] Gweler, er enghraifft, Gwynne E. Owen, ‘Welsh Anti-Slavery Sentiments 1790-1865’, tt. 16, 31, 53, 69-70, 88, 171.
[39] Gweler, er enghraifft, D. E. Jenkins, ‘John Elias a Gwleidyddiaeth y Cyfundeb’, Y Traethodydd, 1937, tt. 127-39.
[40] J. E. Wynne Davies, ‘Sylwadau ar John Elias’, Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 1 (1977), tt. 39-40.
[41] Goronwy P. Owen, ‘John Elias y Llythyrwr’, Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 14-15 (1990/91), t. 22. Yn yr un flwyddyn, datganodd eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn Lerpwl ei gwrthwynebiad llwyr i gaethwasanaeth, gan annog unrhyw aelodau a oedd â chysylltiad â’r fasnach i roi’r gorau i hynny — Peter Lord, Hugh Hughes: Arlunydd Gwlad (Llandysul, 1995), t. 19.
[42] Gweler, er enghraifft, Elfed ap Nefydd Roberts, ‘Dwy Ganrif o Genhadaeth’, Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 19 (1995), tt. 16-17; Gwynne E. Owen, ‘Welsh Anti-Slavery Sentiments 1790-1865’, tt. 27-8; Philip Sampson, ‘Cross Purposes?’, Third Way, Mehefin 1999, tt. 23-5.
[43] Gan imi drafod lle Williams Pantycelyn yn nechreuadau’r mudiad cenhadol yn f’erthygl, ‘Williams Pantycelyn a Gwawr y Mudiad Cenhadol’, yn Cof Cenedl XVII, nid af i fanylu ar hynny yma.
[44] Alan Llwyd, Gronwy Ddiafael, Gronwy Ddu (Cyhoeddiadau Barddas, 1997), t. 334. Ar fywyd Goronwy ar y blanhigfa, gw. tt. 312-19 ac Isaac Lloyd (‘Glan Rhyddallt’), Goronwy’r Alltud (Lerpwl, 1947), tt. 35-47. Un o’r profiadau cyntaf a ddaeth i ran Goronwy wedi cyrraedd America oedd gweld arwerthiant y troseddwyr a gludid o Brydain yn yr un llong ag ef (gw. cyfrol Alan Llwyd, tt. 231-4); y gwahaniaeth rhwng y rhain a’r caethweision duon oedd mai am gyfnod penodol y byddai troseddwyr gwynion yn cael eu gwerthu i gaethiwed, ac nid am oes.
[45] J. R. Kilsby Jones (gol.), Holl Weithiau...William Williams, Pant-y-celyn (Llundain, [1867]), t. 517 (wedi diwygio’r orgraff).
[46] Trafodir amgylchiadau llunio’r emyn, ac atgynhyrchir testunau Cymraeg a Saesneg ohono, yn f’erthygl, ‘Williams Pantycelyn a Gwawr y Mudiad Cenhadol’, yn Cof Cenedl XVII. [Y mae’n werth cofio hefyd i Williams Pantycelyn gyfieithu hanes tywysog o Nigeria a gipiwyd yn gaethwas i Ogledd America ac a gafodd dröedigaeth yno. Daeth i adnabod George Whitefield a symud i fyw i Loegr yn 1762. Cyhoeddwyd ei hanes, A Narrative of the Most Remarkable Particulars in the Life of James Albert Ukawsaw Gronniosaw, an African Prince, as Related by Himself, yn 1770 gyda rhagair gan Walter Shirley, cefnder Arglwyddes Huntingdon. Hwn oedd yr hunangofiant cyntaf gan gaethwas du i’w gyhoeddi yn y Saesneg. Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Pantycelyn, Berr Hanes o’r Pethau Mwyaf Hynod ym Mywyd James Albert Ukawsaw Groniosaw, Tywysog o Affrica, yn 1779, ac aeth i ail argraffiad yn 1780. Hybodd Arglwyddes Huntingdon gyhoeddi gwaith nifer o gaethweision duon, megis hunangofiant Olaudah Equiano, a gyhoeddwyd yn 1789. Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg o hunangofiant un o’i phregethwyr duon, John Marrant, yn 1818.]
[47] John Saillant, ‘Hymnody and the Persistence of an African-American Faith in Sierra Leone’, The Hymn, 48:1 (Ionawr 1997), tt. 8-17.
[48] Am driniaeth gytbwys ar Whitefield a chaethwasanaeth, gw. Arnold A. Dallimore, George Whitefield, cyf. 1 (Llundain, 1970), tt. 207-8, 482-3, 495-501, 588; cyf. 2 (Caeredin, 1980), tt. 219, 367-8, 520.
[49] Ar ymwneud Thomas Charles â’r bobl hyn, gw. y mynegai i dair cyfrol D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles (Dinbych, 1908), dan John Newton, William Wilberforce, John a Henry Thornton, Charles Grant, Granville Sharp, Zachary Macaulay ac Arglwydd Teignmouth. Pobl efengylaidd, yn anad neb, a fu’n gyfrifol am lwyddiant y frwydr yn erbyn caethwasanaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg — gw. D. W. Bebbington, Evangelicalism in Modern Britain (Llundain, 1989), tt. 71-2.
[50] Nodir rhai enghreifftiau yn Gwynne E. Owen, ‘Welsh Anti-Slavery Sentiments 1790-1865’, tt. 60-3, 72-3. [Trafodir nifer o gerddi Cymraeg yn erbyn caethwasiaeth yng nghyfrol Alan Llwyd, Cymru Ddu: Hanes Pobl Dduon Cymru (Caerdydd: Hughes a’i Fab, 2005).]