Emynyddiaeth
Llyfrau emynau a phamffledi gan amrywiaeth eang o enwadau a grwpiau eglwysig.
Mae’r casgliad yn cynnwys cyfrolau sylweddol o emynau a ddewiswyd a chyhoeddwyd i’w defnyddio gan enwadau Cristnogol penodol, gan gynnwys Eglwys Lloegr/ Eglwys yng Nghymru, Methodistiaid Calfinaidd, Bedyddwyr, Annibynwyr, Presbyteriaid, Undodiaid a’r Brodyr. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys nifer o bamffledi bychain o emynau a grëwyd ar gyfer cynulleidfaoedd eglwys unigol neu grwpiau oedd yn gysylltiedig â’r eglwys (e.e. ysgolion Sul, undebau dirwest, Y Gobeithlu), i’w defnyddio ar gyfer gwyliau Cristnogol penodol (e.e y Pasg, Nadolig, Cynhaeaf) neu ar gyfer Cymanfa ganu neu wyliau canu eraill, cyfarfodydd adfywiad a gwaith allanol efengylaidd. Ceir emynau Cymraeg, Saesneg ac eraill yn ogystal â chyfrolau'n trafod meysydd ehangach fel yr ‘European Psalmist’ gan Wesley.
Mae emynau William Williams, Pantycelyn yn cael eu cadw mewn cyfrolau niferus, yn ogystal ag emynau Isaac Watts yn y Gymraeg a chyfieithiadau Saesneg. Mae yna hefyd gyfieithiadau Cymraeg o weithiau'r diwygwyr Americanaidd R.A Torrey a Charles M. Alexander a chaneuon efengyl Ira David Sankey. Rhoddodd Llyfrgell Cyhoeddus Caerdydd y casgliad i’r Brifysgol yn y 1980au.
Cysylltwch â ni
Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.