Llyfrgell Salisbury
Llyfrgell bersonol fawr o lyfrau astudiaethau Cymraeg, a fu unwaith yn eiddo i Enoch Robert Gibbon Salisbury (1819-1890).
Cyn sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sefydlodd Salisbury gasgliad o tua 13,000 o lyfrau yn Gymraeg, neu'n gysylltiedig â Chymru a Siroedd y Gororau, a lluniodd lyfrau lloffion gwerthfawr o fapiau a phrintiau. Ym 1886, gorfodwyd Salisbury i werthu ei gasgliad, oherwydd anawsterau ariannol.
Prynwyd llyfrau Salisbury gan Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ym 1885. Byddai'r sefydliad hwnnw'n dod yn Brifysgol Caerdydd, a byddai llyfrau Salisbury yn ffurfio cnewyllyn o Lyfrgell y Brifysgol. Yn ogystal â chynnwys gweithiau hanesyddol, llenyddol, crefyddol, cymdeithasol ac ieithyddol o'r 16eg-19eg ganrif, mae'r llyfrgell yn gartref i is-gasgliadau prin a gwahanol o faledi Cymreig, almanaciau, emynyddiaeth, a gweithiau gan Richard Baxter (1615-1691).