Gweithiau Tennyson
Casgliad cynhwysfawr o weithiau gan Alfred Lord Tennyson.
Prynwyd casgliad Tennyson o ystâd Cyril Brett, Athro Saesneg yng Nghaerdydd o 1921 hyd ei farwolaeth yn 1936. Mae’r casgliad yn cynnwys set bron yn gyfan o gyfrolau cyhoeddedig gwaith barddonol Tennyson o’r cyfnod cyn-1900. Maent yn datgelu sut roedd y bardd yn diwygio’i waith yn gyson, hyd yn oed ar ôl ei gyhoeddi. Cefnogwyd y gweithiau gan astudiaethau bywgraffiadol a beirniadol, llenyddiaeth gyfnodol ac erthyglau papurau newydd. Ceir gosodiadau cerddorol o rai o'r cerddi hefyd. Uchafbwynt y casgliad yw grŵp o gyfrolau ffug-ganoloesol prin iawn, wedi’u lliwio â llaw.
Hefyd, cedwir fersiwn cyhoeddedig 40 cyfrol Archif Tennyson sef miloedd o luniau o ddeunydd llawysgrif a gedwir ym Mhrydain ac yn yr Amerig. Maent yn cynnwys deunydd o Harvard, Princeton, Virginia, Yale, Huntingdon, Philadelphia, Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, Canolfan Harry Ransom Texas, Bodley Rhydychen, Prifysgol Caergrawnt, y Llyfrgell Brydeinig, Y Drindod Caergrawnt, Prifysgol Llundain ac Amgueddfa Fitzwilliam.
Mae catalog argraffedig o Gasgliad Tennyson ar gael. Cafodd gweddill llyfrgell Brett ei brynu gan y Brifysgol, yn cynnwys deunydd yn cwmpasu ei ddiddordebau cyffredinol mewn llenyddiaeth a'i bapurau personol.
Cysylltwch â ni
Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.