Ewch i’r prif gynnwys

Sgorau cerddoriaeth Mackworth

Sgôr llawysgrif o Gasgliad Mackworth.
Sgôr llawysgrif o Gasgliad Mackworth.

Operâu, dawnsfeydd, cantatau a chaneuon wedi’u paratoi gan ddiwydiannwr o Gastell Nedd,  Syr Herbert Mackworth (1737-1791) a’i deulu.

Porwch y catalog ar-lein o lawysgrifau.

Mae’r casgliad yn cynnwys cyhoeddiadau a gasglwyd gan Mackworth ac aelodau eraill o’r teulu, yn dyddio o’r 17g-19g. Mae’n cynnwys:

  • Caneuon gerddi pleser.
  • Cerddoriaeth dawns ffasiynol.
  • Cerddoriaeth offerynnol gan Corelli, Handel a Hasse.
  • 70 o gyfrolau llawysgrif gan gynnwys sgorau llawn o operâu ac unawdau operatig gan Giovanni Bononcini, Porpora ac Alessandro Scarlatti.
  • Unawdau operatig gan Hasse, Vinci a Handel.

Yn 1916, penderfynodd ddisgynyddion Syr Herbert werthu'r casgliad a chafodd ei brynu gan Lyfrgell Gyhoeddus Caerdydd yn 1919 gan Mr Richard Bonner Morgan, optegydd o Gaerdydd. Rhoddwyd casgliad Mackworth ar fenthyciad parhaol yng ngofal Llyfrgell Prifysgol Caerdydd yn 1989. Mae’n cynnwys cyhoeddiadau yn rhychwantu o Music’s Monument Thomas Mace (1676) i gopi o Elijah Mendelssohn (1878); er bod y mwyafrif o weithiau cyhoeddedig o’r 18fed ganrif.

Credir bod copïau llawysgrif unigryw yn cynnwys: Six sonatas or duets for two German flutes, Charles Burney (Llundain, 1754); The overture and favourite songs in the opera of Rodelinda, George Frideric Handel (Llundain tua 1725) a Sonata per il cembalo, Johann Adolph Hasse (Llundain tua 1760). Un llawysgrif nodedig yw'r cantatau Sbaeneg o’r 18fed ganrif a dros 50 o gopïau cantatau Eidaleg, gan gynnwys un unica gan Alessandro Scarlatti.

Mae tua deuddeg o draethodau sy'n cyfeirio at agweddau ymarferol gallu cerddorol, fel y Ladies’ Pocket guide neu the compleat tutor for the guittar, yn cynnwys rheolau hawdd i ddysgwyr a Gentleman’s diversion neu the Violin explain’d gan John Lenton. Mae'r copi Lenton yn argraffiad cyntaf unigryw, a ddiystyrwyd yn wreiddiol oherwydd bod y tair tudalen gyntaf ar goll. Mae darganfod copi Caerdydd o Gentleman’s diversion yn rhoi gwybodaeth newydd am ddulliau fiolín y cyfnod. Mae hefyd yn rhoi rhagoriaeth anrhydeddus i John Lenton am ysgrifennu'r traethawd cynharaf sy’n bodoli am chwarae'r fiolín mewn unrhyw iaith.

Yn ogystal â diogelu eitemau unigryw, mae casgliad Mackworth yn cynnig cyfle pwysig i astudio arferion casglu teulu o’r 18fed ganrif oedd yn bennaf yn dymuno creu llyfrgell gerddorol ymarferol yn y cartref.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.

Special Collections and Archives