Llenyddiaeth Plant
Mae gennym nifer o gasgliadau yn gysylltiedig â llenyddiaeth plant, gan gynnwys casgliadau llyfrau yn amrywio o’r 18fed-20fed ganrif, casgliad o gyfnodolion i blant yn Gymraeg a chasgliad o gomics plant.
Mae’r Casgliad Llenyddiaeth Plant o gyfnod Oes Fictoria yn helaeth. Ar ddiwedd y 19g hwyr cafwyd y syniad newydd o blentyndod fel oed penodol, gyda’i anghenion a'i ddiddordebau ei hun ac o ganlyniad cafwyd cynnydd yn y nifer o lyfrau yn arbennig i blant.
Mae’r casgliad yn cynnwys trawstoriad o lenyddiaeth plant yn y 19eg ganrif, gydag amrywiaeth eang o lyfrau, pamffledi, almanaciau darluniadol prin gan awduron fel Randolph Caldecott, Kate Greenaway, Mary Howitt a Mary Martha Sherwood.
Mae Llyfrgell Salisbury yn cynnwys casgliad o gyfnodolion i blant yn y Gymraeg, yn dyddio o’r 19g-20g. Mae’r casgliad yn cynnwys setiau, bron yn gyflawn, o Cymru’r Plant; Trysorfa’r Plant; Y Winllan; Antur; Telyn y Plant.
Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau yn cadw casgliad o gomics Saesneg i blant, sy’n cynnwys setiau o flwyddlyfrau o ran fwyaf o’r comics a gyhoeddwyd gan Hulton Press, gan gynnwys 'Eagle', 'Girl', 'Dan Dare' a 'Swift'.
Crewyd 'Eagle' gan y Parchedig Marcus Morris (mae ei archif mawr sydd heb ei gatalogio yn cael ei gadw hefyd), er mwyn darparu dewis amgen fwy parchus yn hytrach na'r comics 'treisgar' Americanaidd. Mewn cyd-weithrediad â’r artist Frank Hampson, dyfeisiodd gylchgrawn i fechgyn yn cynnwys cyfresi comig ac erthyglau. Gwerthodd y syniad i Hulton Press a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf yn 1950. Cyhoeddwyd y rhifyn olaf yn 1969, ac ailymddangosodd y cylchgrawn o 1982-1994 (mae rhifynnau o'r fersiwn hwyrach yn cael eu cadw hefyd).
Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys: blwyddlyfrau 'Girl' (1951-1964), teitl yn gysylltiedig â Eagle i ferched; blwyddlyfrau 'Swift' (1954-1961) fersiwn iau o’r Eagle; argraffiadau casgledig o 'Dan Dare', prif gymeriad Eagle'; cyfrolau o 'Eagle Time', cyfnodolyn a gyhoeddwyd gan yr 'Eagle Society' ac er cof am 'Eagle' (mae dyddiadau cyhoeddi’r eitemau a gedwir yn amrywio o 1989-2008); eitemau eraill yn gysylltiedig â’r gyfres gomics.
Yn gysylltiedig â’r casgliad mae casgliad llenyddiaeth plant modern yr 20fed ganrif, a gedwir yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
Mae’r casgliad yn cynnwys antholegau llenyddiaeth plant a chasgliadau straeon byrion, llyfrau darluniadol gan awduron Prydeinig, gan gynnwys Arthur Ransome, Charles Hamilton a J.R.R. Tolkien. Ceir llyfrau gwerin a straeon tylwyth teg sy'n arbennig o nodedig, yn cynnwys casgliadau gan Andrew Lang a Ruth Manning-Sanders.
Cysylltwch â ni
Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.