Sgoriau cerddoriaeth Aylward
Sgoriau cysegredig, dramatig a cherddorfaol a rhaglenni cyngherddau o eiddo Theodore Edward Aylward (1844-1933).
Roedd Aylward yn organydd Cadeirlan yn Llandaf a Chichester, arweinydd Cymdeithas Gerddorol Caerdydd a chôr-feistr Gwŷl Teirblynyddol Caerdydd. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd argraffedig yn bennaf o’r 17g-19g. Mae’n cynnwys gweithiau cysegredig, caneuon, cerddoriaeth ddramatig, cerddoriaeth gerddorfaol, unawdau ac astudiaethau a cherddoriaeth ar gyfer organ a harmoniwm, a rhaglenni cyngherddau (1836-1842).
Ceir nifer o weithiau y prif gyfansoddwyr fel Haydn, Mozart a Wagner ond mae nifer o’r darnau gan gyfansoddwyr poblogaidd o’u cyfnod ond sydd efallai yn llai adnabyddus, fel Ignaz Pleyel a Joseph Mazzinghi. Mae Mother Hubbard Polka Caroline Lowthian yn enghraifft anghyffredin gan gyfansoddwraig. Un o brif gryfderau casgliad Aylward yw bod nifer o gloriau gwreiddiol eitemau’r casgliad wedi'u cadw, yn cynnwys nodiadau a labelau'r perchnogion sy’n datgelu gwybodaeth bwysig am eu tarddiad. Mewn achosion penodol, mae’r wybodaeth yn mynd yn ôl at y perchennog cyntaf. Mae’r casgliad yn ddiddorol fel dogfen gymdeithasol yn ogystal â’r gerddoriaeth.
Cysylltwch â ni
Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.