Cofnodion sefydliadol Coleg Prifysgol Caerdydd
Archwiliwch y catalog ar-lein.
Dogfennau'n ymwneud â Chyngor y Brifysgol, y Llys a'r Senedd, Pennaeth y Coleg a'r Siarter a'r Statudau.
Mae yna gynnwys hefyd am uno'r Coleg gydag Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) yn y 1980gau.
Mae'r archif yn cynnwys:
- cyhoeddiadau Prifysgol
- llawlyfrau a phrosbectysau
- gwybodaeth am wobrau Prifysgol
- cymdeithasau academaidd
- adnoddau ariannol, dynol a materol
- digwyddiadau Prifysgol (anerchiadau, seremonïau, darlithoedd)
- Pwyllgor Grantiau'r Brifysgol
- hanes y Brifysgol
Ceir cofnodion swyddogol pellach sy'n ymwneud â Phrifysgol Caerdydd a'i rhagflaenwyr yn yr Archifau Sefydliadol.
Sefydlwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy yn 1883. Cafodd yr enw hwn ei newid yn swyddogol i "Goleg Prifysgol Caerdydd" yn 1972 er mwyn adnabod bodolaeth Coleg Prifysgol arall yn Ne Cymru, sef Abertawe, a sefydlwyd yn 1920. Fodd bynnag, mae'r enw 'Coleg Prifysgol De Cymru' wedi ymddangos ar ddeunydd cyhoeddedig ers yr 1960gau.
Cysylltwch â ni
Mae ein tîm proffesiynol yma i'ch helpu i wneud y gorau o'n casgliad.