Ewch i’r prif gynnwys

Ein cymuned

Mae ein cymunedau'n bwysig i ni.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi adeiladu a bod yn rhan o gymunedau ffyniannus ar draws Prifysgol Caerdydd, yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol a thu hwnt.

Rydym wedi ymrwymo'n barhaus i adeiladu cymunedau bywiog, arloesol a diddorol o amgylch ein casgliadau.

"It’s always genuinely fantastic to see books up close, especially ones as unusual as these."

Cydweithio lleol

Mynychwyr gweithdy casgliadau arbennig
Mynychwyr gweithdy casgliadau arbennig.

Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddatblygu a chynnal gweithdai a digwyddiadau ymgysylltu sy'n cyd-fynd ag anghenion ymchwil ac addysgu. Cadwch lygad ar Twitter a'r newyddion am fanylion digwyddiadau.

Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod ein casgliadau'n fwy perthnasol i chi.

Cydweithredu cenedlaethol

Rydym hefyd yn falch o fod yn aelodau gweithgar o rwydweithiau cenedlaethol ehangach gan gynnwys Archifau Cymru, Casgliadau Arbennig WHELF a GW4.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cydweithio ar nifer o brosiectau cenedlaethol arloesol gan gynnwys Cymru 1914: Profiad y Cymry o'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Gallwch chwilio a phori ein casgliadau archif ar gatalog cenedlaethol Archives Hub.