Amdanom ni
Sefydlwyd Casgliadau Arbennig ac Archifau yn 2005 i adeiladu, diogelu a hyrwyddo eich ymgysylltiad chi â chasgliad helaeth Prifysgol Caerdydd o adnoddau unigryw a nodedig.
Mae mynediad i bawb i'n casgliadau'n rhad ac am ddim - nid oes yn rhaid i chi fod yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd i weld ein casgliadau a'u defnyddio.
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu chi i wneud y mwyaf o'n casgliadau er mwyn gwireddu potensial yr ymchwil, addysg a 'r gwerth cymdeithasol sydd yn ein casgliad.
Dilynwch ni ar Twitter i wybod mwy am ein newyddion a digwyddiadau diweddaraf.