Astudiaeth Achos - Talkative
Cafodd ein myfyriwr Joel Valentine le ar leoliad gwaith dros yr haf gyda chwmni meddalwedd cyfathrebu Talkative.
Pan oedd cwmni Talkative, sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, yn chwilio am intern datblygu meddalwedd i ymuno â’r cwmni yn haf 2016, gwnaethant holi’r Academi Meddalwedd Genedlaethol.
Ar ôl cyfweld â thri myfyriwr, dewisodd cyfarwyddwyr y cwmni Joel Valentine, a oedd adeg hynny’n fyfyriwr israddedig Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn ei flwyddyn gyntaf.
Roedd profiad Joel yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol wedi caniatáu iddo gyfrannu at gronfa codau Talkative o’r diwrnod cyntaf, gan adeiladu nodweddion cynhyrchu i fodloni anghenion gwirioneddol cwsmeriaid. Gweithiodd mewn adrannau eraill o’r cwmni hefyd, gan gynorthwyo â gwefan Talkative, sy’n wynebu cwsmeriaid, a thrafod dylunio a chyfeiriad datblygiadau.
Prif gyfraniad Joel at Talkative yw nodwedd newydd o’r enw ‘Rheolau Ymgysylltu’, sy’n caniatáu i gwmnïau ddewis sut a phryd y maent yn cynnig y gwasanaeth cyfathrebu Talkative i’w cwsmeriaid. Helpodd Joel i ddiffinio’r gofynion, a chreu’r nodwedd drwy ddefnyddio fframwaith dewis rheng flaen Talkative (Vue.JS), gan greu cynnyrch cwbl weithredol.
Mae Talkative yn parhau i gyflogi Joel yn rhan amser wrth iddo barhau i astudio yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.