Blog: Gwybodaeth am y rhan mae Legal & General wedi ei chwarae ym mhrosiectau’r Academi Meddalwedd Genedlaethol
Yn rhan o’r berthynas sy’n datblygu rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol (yr Academi) ym mlwyddyn academaidd 2023/24, cynigiodd Legal and General (L&G) ystod o syniadau am brosiectau ym maes Peirianneg Meddalwedd.
Rhoddodd Elinor Worthington, Ymgynghorydd Datblygu Dawn y Dyfodol yn L&G, ambell i gipolwg inni ar natur y cydweithio â’r Academi ar y prosiectau.
Plymio i ddyfnder y Prosiect
Un syniad a gafodd ei gynnig oedd prosiect a aseiniwyd i fyfyrwyr yn yr ail flwyddyn a oedd yn astudio BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, a deilliodd y prosiect ar ôl i L&G ystyried proses adborth 360. Tybiwyd y byddai’n gyfle gwych i roi cyhoeddusrwydd i syniadau myfyrwyr yr Academi.
Cafodd y myfyrwyr eu briffio ar y cysyniad a sut y gallai weithio, a chyflwynwyd y defnyddwyr, y raddfa, a’r dull gweithredu. Dyma dasg heriol ac ymarferol iddyn nhw, ar ben cyflwyno prawf o gysyniad i L&G a ddatblygwyd ar y cyd â meddyliau chwilfrydig ac arloesol yr Academi.
Y broses ymgysylltu a datrys problemau
Soniodd Elinor fod ymgysylltu’r myfyrwyr yn hollbwysig wrth geisio datrys y problemau a osodwyd, gan ddweud, "Cawson ni ein gwthio gan fyfyrwyr yr Academi i gyfeiriadau gwahanol a chodwyd materion nad oedden ni wedi’u hystyried cyn hynny. Yn yr ail gyfarfod, roedden nhw'n hapus i gael adborth gennym, a rhwng yr ail a'r trydydd cyfarfod, roedd pob un ohonyn nhw wedi ystyried yr adborth hwnnw ac wedi gwneud gwelliannau." Dangosodd y dull hwn yn glir eu gallu i addasu a'u hymrwymiad i gynnig atebion o safon.
Y tu hwnt i'r prosiectau
Mae L&G yn parhau i ymgysylltu â'r Academi ar ben y prosiectau unigol, gan gefnogi digwyddiadau a chynnig interniaethau haf ac amlygu’r berthynas o fudd i'r ddwy ochr rhwng L&G a'r Academi Meddalwedd Genedlaethol.
Gair i gall
“Ewch amdani! Hyd yn oed os nad ydych chi’n sicr a gewch eich derbyn", meddai Elinor yn graff, gan argymell y cynllun i sefydliadau eraill sy'n ystyried cyflwyno syniadau prosiect i'r Academi. "Doedd dim llawer o amser gennym i feddwl am brosiectau, felly fe aethon ni ati i feddwl am ambell i syniad fydd hwyrach yn ddefnyddiol i'r busnes neu o ddiddordeb i'r myfyrwyr."
Pwysleisiodd Elinor mai ychydig o amser y mae ei angen ei fuddsoddi o’i gymharu â’r manteision sylweddol ar ôl gwneud hyn, gan ddadlau’n argyhoeddiadol i sefydliadau eraill gymryd rhan mewn rhaglenni o'r fath.
Sylwadau i gloi
Drwy gynnig prosiect, eglurodd Elinor fod L&G hefyd yn cynnal ymarfer recriwtio gwerthfawr; ehangu'r brand yn y Brifysgol, a gwneud darpar ddoniau’r dyfodol yn ymwybodol bod L&G yn cynnig cyfleoedd gyrfaol amrywiol a chyffrous ym maes gwyddor data, datblygu meddalwedd a llawer mwy. Gwnaeth Elinor grynhoi’r uchod mewn gair gan ddweud, "Rydyn ni eisiau i fyfyrwyr feddwl amdanon ni pan fyddan nhw’n ystyried gyrfaoedd yn y dyfodol."
Mae cyfraniadau Elinor yn taflu goleuni ar rym trawsnewidiol cydweithio rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd. Drwy ymgysylltu â myfyrwyr ar brosiectau yn y byd go iawn, mae cwmnïau fel Legal & General yn datrys heriau busnes, ond ar ben hynny’n ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, neu os hoffech chi gynnig prosiect ar gyfer y flwyddyn nesaf, cysylltwch â Joanna Emery neu Justin James yn y Tîm Ymgysylltu Diwydiannol ac Allanol.