Ewch i’r prif gynnwys

Academi Meddalwedd Genedlaethol

Canolfan ragoriaeth ar gyfer addysg peirianneg meddalwedd yng Nghymru a rhan o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chwmnïau blaenllaw yn y diwydiant er mwyn mynd i'r afael â'r prinder graddedigion rhaglennu a pheirianneg meddalwedd medrus sydd gennym ar lefel genedlaethol.

Mae ein haddysgu yn canolbwyntio ar ddarparu prosiectau yn y byd go iawn er mwyn darparu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad ymarferol y mae eu hangen i fod yn beiriannydd meddalwedd.

Helpwch ni i sicrhau bod ein graddedigion yn diwallu anghenion y diwydiant. Rydyn ni’n chwilio am bartneriaid ar draws pob sector i gyffroi, ysbrydoli a herio ein myfyrwyr.

Prosiectau dan sylw

Mae Alison yn cyflwyno ei phrosiect blwyddyn olaf, sef ap ar gyfer cleifion â chanser, ac mae’n esbonio pam y byddai’n argymell astudio yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol. Mae Gareth James o Red Hat, darparwr blaenllaw ar gyfer atebion menter ffynhonnell agored, yn sôn am gyfleoedd cyflogaeth i raddedigion.

Mae Emma, myfyrwraig Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, yn esbonio ei phrosiect Videobrix a pham y disgynnodd mewn cariad â’r Academi Meddalwedd Genedlaethol. Mae Steve Meredith o Gyngor Caerdydd yn trafod y sgiliau sydd gan ein graddedigion a manteision y rhain yn y gweithle.

Right quote

Roeddwn i’n gyffrous iawn bod y radd hon yn un gymhwysol; llai o ddarlithoedd, mwy o godio. Rydyn ni’n cael cyfle i wneud prosiectau sy’n gysylltiedig â diwydiant, felly rydyn ni’n siarad â chleientiaid ac yn cwrdd â nhw. Rydyn ni'n dysgu mwy o bethau drwy eu hymarfer nhw. Y gwahaniaeth rhwng y radd hon a graddau eraill yw y bydda i’n fwy parod i weithio ar ôl graddio.

Sofia Kyriaszidi BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol