Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Mae ein hymchwil yn arwain y byd, gan gyflawni sgoriau rhagorol am ymchwil, ansawdd ac amgylchedd ym maes Addysg a Chymdeithaseg yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, gan sgorio 3ydd a 10fed yn y DU yn y drefn honno.
Rydym yn ymrwymedig i ymchwil a lywir gan ddamcaniaeth gyda ffocws clir ar bolisi. Mae ein hymchwil yn rhyngddisgyblaethol, yn arloesol ac yn cael effaith.
Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac yn cynnwys:
- Cymrawd o'r Academi Brydeinig
- Academydd o'r Academi Gwyddorau Cymdeithasol
- Enillydd Gwobr Cyflawniad Oes y Gymdeithas Gymdeithasegol Brydeinig
- Cymrawd Academi Amaethyddiaeth a Choedwigaeth Frenhinol Sweden
- Cymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Croesawn amryw o ymwelwyr a siaradwyr rhyngwladol, Yn y gorffennol mae'r rhain wedi cynnwys: Yr Athro Michael Burawoy; Yr Athro Randall Collins; Syr Michael Marmot; Madeleine Bunting; a'r Athro Danny Dorling.
Grantiau a chydweithrediadau
Mae ein cydweithrediadau'n amrywio o bartneriaethau gyda phrifysgolion blaenllaw ac asiantaethau rhyngwladol ledled y byd, i weithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr lleol.
Er 2008, mae'r Ysgol wedi sicrhau grantiau ymchwil gyda chyfanswm o dros £38 miliwn. Ein hadran ni sy'n sicrhau'r grantiau allanol uchaf fesul pen o unrhyw adran Gwyddorau Cymdeithasol yn y wlad.
Rydym yn bartneriaid yn What Works Centre for Crime Reduction y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Rydym yn cynnal Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol., Hefyd rydym yn arwain DECIPHER (y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd).
Rydym yn cynnal ymchwil sydd yn cynhyrchu tystiolaeth newydd a chipolwg i helpu lleihau trosedd a chynyddu diogelwch.