Ewch i’r prif gynnwys

Dewch i glywed pam mae’r myfyriwr ôl-raddedig Prekshya wrth ei bodd gyda’r amgylchedd cefnogol ac ysbrydoledig ym Mhrifysgol Caerdydd

A woman sitting between two cannons with a red-bricked church in the background

Holi ac ateb - profiad myfyrwyr

Gyda Prekshya Uprety, Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc)

Fe wnaethon ni dreulio 5 munud yn sgwrsio gyda Prekshya Uprety, myfyriwr Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc) i ddysgu sut mae ei hastudiaethau yn mynd a beth mae'n ei fwynhau fwyaf am ei hamser gyda ni ym Mhrifysgol Caerdydd.

Beth yw eich hoff beth am yr Ysgol (does dim angen iddo fod yn gysylltiedig â'ch cwrs/astudiaethau)?

Fy hoff bethau am yr Ysgol yw'r awyrgylch groesawgar a dyluniad clasurol yr adeilad. Mae'r gefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr rhyngwladol, megis help gyda thechnegau iaith ac ysgrifennu academaidd, ynghyd ag amserlen ddosbarth hyblyg, yn fy ngalluogi i gydbwyso fy mywyd academaidd a phersonol. Mae digwyddiadau rhwydweithio hefyd yn gyfleoedd gwych i gysylltu â chyfoedion a gweithwyr proffesiynol yn fyd-eang.

Pe bai ffrind i chi yn ystyried dod i Brifysgol Caerdydd, pa gyngor fyddech chi'n ei roi iddyn nhw / beth fyddech chi'n ei ddweud?

Wrth wneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar Brifysgol yn drylwyr ar-lein ac mae croeso i chi gysylltu â grwpiau cymorth myfyrwyr rhyngwladol [link] gydag unrhyw gwestiynau am eich cwrs.

"Does dim un cwestiwn yn rhy fach, ac fe wnân nhw ymateb yn brydlon. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig ysgoloriaethau rhannol i fyfyrwyr rhyngwladol, felly ymchwiliwch a gwnewch gais."

Ar ben hynny, ystyriwch wneud cais am ysgoloriaethau wedi'u hariannu'n llawn megis Chevening, Marshall, y Gymanwlad, GREAT ac ychydig o rai eraill.

Beth ydych chi wedi'i fwynhau fwyaf am eich astudiaethau hyd yma?

Yr hyn rydw i wedi'i werthfawrogi fwyaf wrth astudio hyd yma yw'r adborth adeiladol rwy'n ei gael ar ôl pob asesiad. Mae'r athrawon yn rhoi gwerthusiadau manwl o'm gwaith, gan gynnig safbwyntiau beirniadol sy'n helpu i ddyfnhau fy nealltwriaeth ac yn gwella fy mherfformiad yn barhaus.

Pa sgiliau rydych wedi’u datblygu wrth astudio ar gyfer eich gradd?

Hyd yn hyn, rwy wedi bod yn datblygu'r sgil o symleiddio syniadau cymhleth a'u cyflwyno'n glir ac yn gryno, diolch i arweiniad gan fy athrawon a rhai o fy ffrindiau.

Dysgwch ragor am astudio Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus (MSc) gyda ni.