Lleoliad cyntaf cwbl werthfawr Sian ym maes gwaith cymdeithasol
Cewch gipolwg ar brofiad lleoliad ymarferol cyntaf Sian Kelly, myfyriwr Gwaith Cymdeithasol (MA).
Ysgrifennwyd y dyddiadur hwn yn wreiddiol gan Sian Kelly, un o’n myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol (MA), a gofnododd ei phrofiad ar ei lleoliad cyntaf a myfyrio arno.
Mae wedi’i olygu am resymau cyfrinachedd.
Dyddiadur
Diwrnod 1
Deddiw oedd fy niwrnod cyntaf gyda’r Tîm Lleoli Gofal Maeth. Roeddwn i’n teimlo cymysgedd o gyffro a nerfau wrth i mi gwrdd â phawb, ond roedden nhw mor groesawgar.
Cynlluniodd fy ngoruchwyliwr a minnau yr hyn y byddwn yn ei arsylwi dros yr 20 diwrnod yma, ac mae hi’n fy annog i weld cymaint â phosibl ar draws gwahanol dimau.
Dwi eisoes yn edrych ymlaen at ddod yn ôl ar gyfer fy lleoliad 80 diwrnod pan gaf fi gefnogi rhai gofalwyr maeth yn uniongyrchol.
Diwrnod 3
Dim ond tridiau sydd wedi bod, ond dwi eisoes wedi bod ar rai ymweliadau cartref sy’n agoriad llygad. Gwelais i leoliadau cadarnhaol a heriol fel ei gilydd, a oedd yn anodd yn emosiynol, yn enwedig gweld gofalwyr maeth yn wynebu trafferthion.
Diolch byth, mae fy ngoruchwyliwr yn cael sgwrs ddadfriffio gyda mi ar ôl pob ymweliad i’m helpu i brosesu’r hyn dwi’n ei weld a’i deimlo. Galla i ddweud yn barod mai gwaith cymdeithasol yw’r union beth dwi am ei wneud. Mae’n werth chweil, yn amrywiol, ac nid oes unrhyw berygl o ddiflasu.
Diwrnod 5
Heddiw, mynychais i Gyfarfod Ymarferoldeb ar gyfer aelod o deulu a oedd am ddod yn ofalwr maeth.
Roedd yn anodd gwylio wrth iddi rannu profiadau poenus, ond roeddwn i hefyd yn teimlo’r her o gydbwyso empathi â’m rôl broffesiynol. Siaradais i â’m goruchwyliwr am y peth wedyn, a rhoddodd hi sicrwydd i mi fod y teimladau hyn yn naturiol.
Dwi’n teimlo y bydd angen i mi barhau i siarad drwy bethau er fy lles meddyliol fy hun.
Diwrnod 7
Ces i gyfle i gysgodi sawl tîm ar draws yr Awdurdod Lleol, a oedd yn wych. Fe wnaeth fy helpu i weld sut mae pob rhan o’r gwasanaeth yn cydgysylltu.
Gwnes i gwblhau fy sesiwn arsylwi uniongyrchol gyntaf hefyd, ac roedd yr adborth yn galonogol. Ces i fy nghynghori i gydbwyso fy ffocws ar heriau a phethau cadarnhaol fel ei gilydd yn ystod cyfarfodydd a gweithio ar amseru fy nghyfraniadau’n well.
Nawr, y cyfan sydd i mi ei wneud yw ei roi ar bapur – sydd bron mor frawychus â’r sesiwn arsylwi ei hun!
Diwrnod 9
Roedd y sesiwn oruchwyliaeth heddiw o gymorth mawr.
Cyflwynodd fy ngoruchwyliwr fi i “ofal wedi'i rwystro” (neu flinder tosturi), nad oeddwn i wedi clywed amdano o'r blaen. Esboniodd hi sut y gall rhai gofalwyr maeth ymlâdd yn emosiynol dros amser, a sut y gall hyn effeithio ar eu gallu i gysylltu â'r plentyn.
Mae’n mynnu cydbwysedd gofalus rhwng cefnogi’r gofalwyr maeth a chadw anghenion y plentyn yn ganolbwynt i’r cyfan.
Diwrnod 11
Heddiw, treuliais i amser gyda’r tîm Plant ag Anableddau. Roedden nhw mor groesawgar ac yn egluro rôl hirdymor y tîm gyda theuluoedd, yn enwedig gyda chynllunio pontio wrth i blant symud tuag at wasanaethau oedolion.
Roedd gweld y rhan hon o waith cymdeithasol ar waith yn ddadlennol iawn.
Diwrnod 13
Mae’r newid o fod yn y brifysgol i weithio oriau llawn amser wedi bod yn heriol, yn enwedig gyda theulu. Fe wnes i fethu sesiwn hyfforddi heddiw, ac er bod fy ngoruchwyliwr yn deall, roeddwn i’n teimlo’n siomedig ynof i fy hun.
Dwi’n atgoffa fy hun i barhau i fod yn garedig i fi fy hun – mae dangos brwdfrydedd bob dydd yn cyfrif am rywbeth.
Diwrnod 15
Mynychais i ddiwrnod hyfforddi ar rywedd ac amrywiaeth rywiol, a oedd yn hynod ddiddorol. Rhannodd yr hyfforddwr lawer o brofiad personol a phroffesiynol, gan ei wneud yn faes hawdd iawn uniaethu ag ef.
Hefyd, gwelais i ffrind o fy ngharfan ar hap, oedd yn fonws braf. Cytunodd y ddau ohonon ni fod ein lleoliadau yn anhygoel ond ein bod yn teimlo pwysau terfynau amser sydd ar y gorwel.
Diwrnod 20
Cyflwynodd fy ngharfan i a minnau ein proffil cymunedol heddiw, a aeth yn dda. Roedd yr adborth yn gadarnhaol, a dwi’n falch o’r ffyrdd creadigol y gwnaethon ni gyflwyno gwybodaeth.
Ar ôl hynny, canolbwyntiais i ar gwblhau portffolio fy lleoliad. Dwi’n falch fy mod wedi ei ddiweddaru’n rheolaidd, ond roedd golygiadau terfynol yn dal i gymryd amser.
Mae’r lleoliad cyntaf hwn wedi bod yn werthfawr, ond alla i ddim aros i gael hyd yn oed fwy o brofiad ymarferol yn fy lleoliad 80 diwrnod nesaf.